Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

330 EGLWYS WLADWEUAETHOL. enwog hwn, gellir sylwi ym mhell- ach, bod yr Ysgrythyr yn dywedyd yn bendant, ' i Abraham roddi iddo ddegwm o'r cwbl ;' ac yr oedd hyn yn cydnabod ei gymmeriad offeir- îadol, a hynny drwy dalu iddo swm bennodol, sef y degwm o'r cwbl, ac nid mwy na llai yn ol egwyddorion y gyfundraeth wirfoddol. Y mae yr hanes ferr a roddir am Melchi- sedec yn profi tri pheth :—1. Bod y frenhiniaeth a'r offeiriadaeth mewn cyssylltiad yn yr un person. 2. Bod yr eglwys a'rwladwriaeth mewn cyssylltiad â'u gilydd. 3. Bod eg- lwys Salem dan deyrnasiad Melchi- sedec yn eglwys waddolog—yn eg- lwys a gynnelid drwy ddegymmau. Y nesaf a grybwyllir ydyw Abra- ham, yr hwn a elwir yn Gen. 23. 6. yn ' dywysog Duw,' neu ' dywysog cadarn/ ' Clyw ni, fy Arglwydd,' meddai meibion Heth ; ' tywysog Duw wyt ti yn ein plith/ Yr oedd ganddo awdurdod dywysogawl ar ei bobl, y rhai oeddynt yn dra lliosog ; oblegid dywedir yn Gen. 14. 14. iddo arfogi o'i hyffbrddus yieision, sef o'r rhai oeddynt wedi eu dysgu mewn arferion milwraidd, ddeunaw a thri chant; a'r rhai hynny oll wedi eu geni yn ei dŷ ef. Y mae yr haues hwn yn brawf diymwad bod sefydliad Abraham yn cynnwys am- ryw filoedd o bobl, y rhai oll a lyw- odraethid ganddo, ac oeddynt yn ddarostyngedig iddo fel eu tywysog gwladol. Yr oedd sefydliad Abra- ham hefyd yn cael ei lywodraethu yn eglwysig ganddo; oblegid pan roes Duw gyfammod yr enwaediad iddo, rhaid oedd i'w ddeiliaid ufudd- hau iddo drwy gymmeryd eu hen- waedu; yr hyn a brawf gyssylltiad yr eglwys a'r wladwriaeth dan ei lywodraeth dywysogaidd. Y mae awdurdod wladol eglwysig Abra- ham i'w gweled yn amlwg, yn ei pherthynas â'r enwaediad, yn Gen. 17. 27. « A holl ddynion ei dý ef, y rhai a anesid yn tŷ, ac a brynesid âg arian gan neb dieithr, a enwaed- wyd gydag ef/ Ni all dim fod yn amlyccach na bod Abraham, fel arglwydd gwladol, yu unol hollol â gorchymmyn Duw, wedi cyssylltu crefydd, neu ei sefydliad eglwysig, â'i arglwyddiaeth ; ac felly y ddau mewn undeb annattodadwy â'u gil- ydd, hyd oni orchymmynai y Duw a wnaeth y cyssylltiad ar fod iddo gael ei ddattod. Ym mheliach, yr oedd cyssylltiad eglwys a gwladwr- iaeth Wedi ei orchymmjm yn bendant gan Dduw i Tsrael; ac fel eglwys a gwladwriaeth mewn cyssylltiad â'u gilydd, y rhoes Duw y deddfau gwìadol ac eglwysig iddynt. Pan ydoedd Duw yn llefaru wrth Is- rael ynghylch matterion eglwysig, yr oedd yn llefaru wrth yr holl lwythau, ac nid wrth ryw nifer cor- phoredig mewn dull cynnulleidfaol ym mhlith y llwythau. Ac er mai nid Israel ydoedd pawb o Israel, a bod yn eu plith, pan agosaf at yr Arglwydd, a phan y rhodient fau- ylaf yn llwybrau ei orchymmynion, feibion Belial, meibion y fall, a dyn- iyn drygionus, a llawer o Achaniaid yn y gwersylloedd, etto yr oedd y genedl yn cael ei hystyried yn eg- lwys iddo ef. Heb fyned i unrhyw feithder dianghenrhaid ar y pen hwn, y mae St. Paul, yn Rhuf. 9. 4. yn profi ar unwaith bod gwlad- wriaeth Israel ac eglwys Israel yn un â'u gilydd ; oblegid ara Israel fel cenedí a gwladwriaeth dyweda, ' Eiddo y rhai yw y mabwysiad, a'r gogoniant, a'r cyfammodau, a dod- iad y ddeddf, a'r gwasanaeth, a'r addewidion/ Egiwysig oll y pethau hyn. Ym mhellach, Ar ac yn ol yr egwyddor o gys- sylltiad eglwys a gwladwriaeth, y gweithredai ac yr ymddygai bren- hinoedd Israel a Juda. Pan fyddai y deddfau a'r rheolau yu cael eu troseddu gan y pen coronog, megis gadael addoliad yr Arglwydd, a myned ar ol eilun-addoliaeth, dy- wedir, ' Ac efe a wnaeth yr hyn