Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

340 YR AMSEROEDD PRESENNOL. gyhoeddus; y naill yn uniongyrchol, a'r llall yn anuniongyrchol; y naill fel Gweini- nidog ym mhJith eich diadell, a thrwy y Cyfundeb y perthynwch iddo, a'r ilall er ffurfio cymmeriad y dynion ieuaingc sydd dan'eich gofal,er mwyn idd y rhai hynny drachefn fod yn ser yn ffurfafen eich Cyfun- draeth, er bod yn foddion i addysgu eraill. Gan eich bod yn y gyfryw sefyllfa, y mae yn ofynnol i chwi fod yn oncst adidwyll, (canys disgwylir bod goruchwyliwr yn flyddlon.) Dylecli ymdrechu o blaid gwirionedd, ac yn erbyn cyfeiliornad"; yn enwedig felly yn yr amseroedd presennol, oblegid bod ein gwlad yn y fath gyffroad. Wrth ddarllen papurau a llyfrau yr Ym- neillduwyr am y blynyddoedd a aethant heibio, galJesid meddwl bod gwawr y Mil Blynyddoedd wedi dechreu tywynnu, ond ei bod i'r gogledd i ni yma, ac nid i'r deheu, fel y dywedai Golygydd y Diwygiwr er ys tippyn yn ol. Er hynny, pan edrychom oddi amgylch, ac ystyried tippyn pa le yr ydym yn byw, a pha beth ac o ba natur ydyw y gweitl.redoedd a gyflawnir, canfyddwn fod biwydr Ai roagedon heb ei hymladd etto, yr hon sydd i ragflaenu y Millennium. Tyb- iasom gynt, a hynny ar sail dywediad y Di- wygiwyr. fod y frwydr honno wedi ei hym- ladd yn Rumni, pan ennillodd cawr mawr Llangollen gyflawn fuddygoliaeth ar y Trochwyr. Meddyliem y pryd hwnnw fod y phiol ddiweddaf wedi cael ei thy wallt ar deyrnas y Bwystfil; ond canfyddwn yn awr nad oedd—Prelude oedd hynny i ryw beth mawr sydd yn canlyn. Ai nid Beccaydd- iaelh yw y frwydr honno, 'wy's ? I3u dwn- dwr mawr iawn yn y wlad ynghylch cyfar- fodydd gweddiau a diwygiadol, a rhyfedd y dwrdio oedd ar y rhai hynny na chydffurf- ientâhwynt; cynnaliwyd ympryd deg di- wrnod, a buwyd yn ddefosionol iawn yn ei gylch; crochfloeddiai David Rees, 'Cyn- hyrfer, cynbyrfer, cynhyrfer;' ytìd tê a gor- ymdeithid, a chynhyrfid wed'yn yn yr hwyr. Cynnelid cyfarfodydd gweinidogion er mwyn cynhyrfu'r gwersyll, areithid ar ben horse- blocks a'r cyffelyb, nes nonpluso brudwyr oennaf yr oes, a methai dynion yn lân a deall pa beth neu bethau ydoedd mewn bwriad ; ond yn awr y mae rhan o'r great secret wedi cael ei ddatguddio. Y mae Becca ar led, yn ymdrechu dattod rhwymynnau cymdeithas, ac anfoesoü'r wlad ; y mae y Llywodraeth danorfod i ddanfon niilwyr i'n cyflìniau; ac nid pell yr amser, oni ragflaena Duw, pan fyddom yn ochain dan iau gormes fllwr- aidd. Rhyfedd fel y mae dallbleidiaeth, coelgrefydd,a gorphwylldra wedi anfoesoli a chythryblu y byd, ym mhob gwlad ac oes y mae gennym hanes am danynt! Y mae dyngarwch bob amser yn ffrwyth gwybod- aeth a chydymdeimlad; ond dallbleidiaeth sydd ffrwyth anwybodaeth a chreulondeb. Dynion teimladwy a gwybodus, y rhai sydd bob amser yn ymofynwyr am wiriouedd, ac y rhai y mae eu calonnau yn ennyn o gyd- ymdeimlad ateu cyd-ddynion, ydynt oddefol ac ymarhous, gan ystyried y rhydd Duw i'r cyndyn, ryw amser, edifeirwch i gydnabod y gwirionedd. Nid oes dim mor hyfryd i'r fath ddynion, a'r tasg o arwain y rhai sydd ar gyfeiliorn i lwybrau uniondeb. O'r tu arall, dynion anwybodus a chrenlon, y rhai y maeeu meddyliau yn gorphwys ar wyrni eu tybiadau eu hunain, ac y rhai y mae eu calonnau wedi eu llanw â'r uchelfrydig- rwydd a'r hunanoldeb gwrthunaf, ydynt bob amser yn anoddefol hyd yn nod i'r gwyrad lleiaf oddiwrth y llin sydd wedi ei nhodi ganddynt hwy. Nid oes dim mor hyfryd gan y cyfryw ddynion,ag enllibo, gwawdio, a dirmygu eraill. Y mae y dyngarwr yn tosturio wrth gamsyniadau eraill, ac yn def- nyddio hynawsedd a grym rhesymmeg i'w hunioni; ond y dallbleidiwr sydd yn cas- hau pawb nad ymostyngant iddo ef, ac a ymeifl yn y moddion garwaf a gerwinaf o fewn ei gyrhaedd,er eu caethiwo i ufudd- dod. Y mae gennym liaws o enghreifftiau er egluro hyn, yn yr hyn a elwir y byd cref- yddol, gartref ac oddi cartref. Dallbleid- iaeth a gorphwylldra crefyddol ydyw Bec- cayddiaeth. Pur ddyngarwch ydyw gwir Gristionogaeth; ac yspryd y gorchymmyn hwnnw, am wneuthur i eraill fel y dymunem i eraill wneuthur i ninnau, yw sylfaen yr hyn oll sydd yn dda yn nhrafnidiaeth dyn a dyn: ar y llaw arall, diaboloinaeth ydyw dallbleidiaeth, a'i yspryd hunanolsydd wedi bod yn wreiddyn pob drwg yn amgylch- iadau dynion. A chan nad pa mor ddierlig y mae dallbleidiaeth grefyddol wedi bod, ac yn bod, y mae dallbleidiaeth wladol yn gyf- ochrog iddi. Ond pa un bynnag ai gwladol a'i crefyddol, yr un peth ydyw dallbleid- iaelh; a than amgylchiadau cyflèlyb, dygant allan weithredoedd cyflèlyb. Y mae y dall- bleidiwr crefyddol a gwladoi, y naill fel y llall, pan gaffont gyfleusdra, yn distrywio yn ddidrugaredd y rhai oll a wahaniaethant oddi wrtbynt. Y mae y Chwil-lys Yspaen-