Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR AMSEROEDD PRESENNOL. 341 aidd, y Chwyldroad Ffraingcaidd, a'r yspryd Becca-Ymneillduol presennol, yn brofion o hynny. Ychydig neu ddim yw'r gwahaniaeth rliwng dallbleidiaeth a thraws-arglwyddiaeth. Tybia traws-arglwyddi eu bod yn gwneu- thur yn uniawn, am, meddynt, fod ufudd- dod yn ddyledus iddynt, ac felly nid oes twyll yn eu gwetthredoedd; tybia daìl- bleidwyr taw eu plaid hwy sydd yn iawn, ac felly honnant hawl i ufudd-dod eraill. Gellir dywedyd am ddallbleidiaeth, mai penddysg yw; am draws-arglwyddiaeth, gweilhred- iad. Rhodder awdurdod i'r dallbleidiwr, yna ceir gweled y traws-arglwydd; cym- merer ymaith awdurdod y traws-arglwydd, yna ceir gweled y dallbleidiwr. Megis ag y crybwyllais eisioes, dallbleidiaeth, gor- phwylldra, a choelgrefydd sydd wedi niw- eidio crefydd, a llesteirio gweithrediadau yr Eglwys ym mhob oes o'r byd. Y maent wedi bod yn foddion i iselhau a gwarth- ruddo crefydd,yng ngolwgdynionamddifaid o feddyliau adfyfyrdodawl. Y maent wedi bod yn foddion i feilhrin anflyddiaeth, a thaenu ar led egwyddorion ansanctaidd, an- rasol, ac amheus; oblegid nid oes ond cam, a cham bychan iawn, rhyngddynt ac an- nuwiaeth noeth. Nid oes gan Gristionog- aeth ddim i'w wneud A, ac ni ŵyr oddiwrth orphwylldra; ac y mae yn ffieiddio coel- grefydd a dallbleidiaeth. Ond y mae y tri hyn wedi cymmylu ei harddwch, tywyllu ei gwirionedd.ac ymroi i anurddo tegwch ei gwedd. Gorphwylldra sydd wedi ymddwyn coelgrefydd,a choelgrefydd sydd wedi esgor ar ddaîlbleidiaeth ; a thrwy eu hunol weith- rediad, y maent wedi tannu ar led y byd fil tnyrdd o gyfeiliornadau, wedi attal cynnydd gwirionedd, rhwystro'r rnarch of intellect, a gwanhau cynneddfau y meddwl yng ngwasanaeth Duw. Ond yr ydym yn dis- gwyl amser, ac yn gobeithio nad ydyw yn neppell, pan na fyddo gorphwylldra yn cael ei gydnabod yn lle zel wirioneddol,na choel yn lle gwir grefydd. Y mae yr olwg bre- sennol sydd ar ein gwlad yn achos o alar dwys i bob Cristion profiadol, pan y mae wedi ei rhannu i gymmaint o sectau a phar- tion, y naill yn chwythu bygythion yn erbyn y Hall, yn lle bod wedi eu huno yn un gym- deithas fawr gydgordiol, fel firm phalanx yn erbyn galluoedd y tywyllwch, Gellid tybied ar yr olwg gyntaf fod rhyw ddiffyg yn y Datguddiad Dwyfol, gan fod dynior. yn medru tynnu cymmaint o gasgliadau oddi- wrth yr un gwreiddyn. Eithr wrth ystyried pethau yn ol ac ym mlaen, canfyddwn nad yn y Dadguddiad y mae y diffyg, oblegid y mae hwnnw fel ei Awdwr yn hur, cyflawn, a pherffaith; y mae y diffyg yn aros yn y dyn, yr hwn sydd hyd yma yn analluog, neu yn anewyllysgar, i gyflawn ddeall gwir- ionedd yn ei burdeb a'i egni. Y mae yr un fath mewn gwybodaethau dwyfol ag ydyw mewn pethau naturiol; y mae gwirionedd yn dyfod i'r amlwg trwy ymchwil ac ym- drech; a pha fwyaf a fyddo dynion yn bwyso ar eu begwyddorio», a'u mhesur wrth reol Gair Duw, tebyccaf oll ydynt i ddyfod yn ddoeth, os byddant yn ymgeiswyr flyddlon am wirionedd, gan ymddibynnu ar gymhorth Yspryd Duw. Ond y cyfryw ydyw ffolineb dyn, ac mor dueddol ydyw i bender- fynu, ac nid i ymofyn, nes y rhaid i bethau fod fel y mae efe wedi tybied, bydded gam neu gymhwys. Y mae dynion wedi flurfio credöau iddynt eu hunain, ac yna myned i'r Bibl i ymofyn profion i'w hamddiffyn ; nid appelio at y Bibl yn gyntaf, a gwneuthur Gair Duw yn rheol eu hymddygiad, ac yn esponiwr athrawiaethau ac ymarferiadau: yn ol fy marn i, dylai fod gennym gynnifer o wahanol Fiblau ag sydd o sectau. Y mae yr hanner can' mlynedd diweddaf yn gyfnod hynod yn hanesiaeth ein gwlad; a'r deg neu y pumtheg diweddaf o hynny yn fwy hynod fyth. Yng nghorph yr hanner can' mlynedd dan sylw, yr ydys wedi darganfod amryw fwngloddiau gwerthfawr o haiarn, copr, plwm, &c.; llawer o wythiennau ych- wanegol o lo; llawer o gwarelau o lechau a meini araill; a llawer iawn o weithfeydd a thawdd-dai wedi cael eu hadeiladu, er mwyn addasu a pharoltoi y gwahanol fet- telau a wneir o'r mwnau crybwylledig at wasanaeth dyn. Nid Uawer cynt y mae dynion o berchen arian yn ffurfio eu hunain yn gwmpeini, ac yn agor gweithiau, nag y mae gorphwylldra crefyddol yn adeiladu capeli mawrion gerllaw iddynt,dan yr esgus o ryddid crefyddol; ond mewn gwirionedd gyrrir hwy ym mlaen gan ddallbleidiaeth, cariad at elw, enw mawr, a segurdod. Y mae ' Rhyddid Gwladol a Chrefyddol' yn ymddangos yn llythyrenau teg ar fanieri y gwahanol enwadau, a gwaeddant yn groch, • Y mae gennym ni hawl i wasanaeihu Duw yn ol ein cydwybodau,' pan mewn gwirion- edd fod Duw wedi rhoddi i ni reol pa fodd y mae i ni ei wasanaethu ef, ac ni chymmer efe yr un gwasanaeth arall: rhaid caethiwo pob raeddwl i ufudd-dod Crist. Nid ydyw