Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ANNERCHIAD.-YMDDIDDAN. 343 waeddi, 'Cynhyrfer,' &c. ? Er mwyn hy- Dodieihun ym mhlith ei blaid, ac nid dim arall. Pa ham y mae David Davies, Pant- teg, yn areithio ar bennau Horseblocks, &c. ? Er mwyn yr un peth. Rhoddwch yr humbug hwn heibio, Barchedig Syr, a byddwch yn fwy tebyg i'r boneddwr a'r Cristion o hyn allan. Yr eiddoch,&c. LLanelli. Peiriannydd. ANNERCHIAD I Mr. David Owen, (Brutus,) ar Farwolaeth ei Fab henaf, o'r Darfodedigaeth, yu 21 mlwydd oed, Medi 25, 1843. Trwy chwerwder blin, a chystudd mawr, Mae'n taith drafîerthus ar y llawr, Tua'r byd diddiwedd ei barhad : Mae wybren einioes dyn yn llawn 0 dew gymmylau'n fynych iawn, Sy'n gwlawio tristwch ar ei wlad. Nidgweled eraill 'r y'm o hyd Dan lym geryddon yn y byd, Ond godde'n hunain lawer gwaith : Pa hwyaf paro tymhor tes, Mae dryccin adfyd mawr yn nes, Pn goddiweddyd ar ein taith. O'r diwedd daeth cwppanaid blin 1 tithau osod wrth dy fin, Yn llawn o wermod chwerw iawn ; Er cael dy arbed amser maith, A chwyno eraill lawer gwaith, Mae'th phiol dithau 'n awr yn Uawn. Pan oedd aelodau'th deulu cu, (Fel Cylch y Deuddeg Arwydd fry,) Yn fturfio cylch o ddeuddeg crwn, Daethangeu,'rrhwygyddraawr,i'chplith, A'i bladur lem rhoes ergyd chwith,— Dy gynfab ymaith gippiodd hwn. Mor brudd i'th fron oedd gwel'd ei wedd, Yn llithro'n raddol tua'r bedd— Yn gwywo mwy o ddydd i ddydd ! Ei babell oedd,o awr i awr, Dan ddwylaw dig y gelyn mawr, O hoel i hoel yn myn'd yn rhydd. Dirwynodd blwyddau lawer tro O rwymyn serch o'i amgylch o, Pw glymmu wrth dy galon wiw; Ond, och! y rhai'n, o un i un, A ddrylliwyd eilwaith, er mor flin,— Nid rhyfedd bod dy fron yn friw. Trwy ddyddiau mebyd, ym mhob man, Coleddit yr eginyn gwan, Gan ddweud o hyd, "Fe dyf, fe dyf:" Y byddai'n gysur, dan bob Ioes, l'th lonni ym mhrydnawn dy oes, Dros amser maith fu'th obaith cryf. Ond erbyn gwel'd ei flagur hardd, Yn uwch nag un o lysiau'th ardd, Yn deilio mewn hawddgarwch mawr, A'i flodyn wedi agor braidd, Daeth pryfyn nychdod at ei wraidd— Fe wywodd—crinodd hyd y llawr! Mae'r saeth yn llem—mae'ndifa'r cnawd— Mae'n briwio'r galon, anwyl Frawd— Mae'n gostwng holl uchelder dyn :— Mae rhai yn teimlo gradd o'r pwys, Wrth edrych ar dy drallod dwys, Fu'n godde'r archoll fel dy hun. Ond paid â syllu ar y pridd, Lle mae yn gorphwys 'nawr ÿnghudd— Golyga'r ogoneddus wawr, Pan gyfyd caethion angeu du I'r lan yn orfoleddus lu, Ar ddisglaer wedd eu Prynwr mawr. Gâd yna'r ddaear—hedodd ef— Dyrchafa'th lygaid tua'r nef,— Tio'th glust at ddrws Paradwys làn ; A glywi ddim rhyw adlais per, Yn treiddio attat heibio'r ser ?— A glywi ddim o'r hyfryd gân ? Gall melusderau'r Anthem lon Alltudio hiraeth o dy fron, Pan ddel i'th gof fod gennyt sail I gredu bod dy fachgen draw, Ag îr balmwydden yn ei law, Yn seinio clodydd Adda'r Ail. Y Balm sydd yn Gilëad fry Ddisgynno'n gafod ar eich tŷ, 1 ddofi'r loes a'ch blina'n awr ; Y Mêl a dardd o'r nefol Graig Bereiddio'th gwppan di a'th wraig, Nes llwyr anghofio'r chwerwder mawr. Diddyfnu'n serch oddiwrth y byd, A llosgi'n gau-noddfeydd i gyd, Yw diben ein tirionaf Dad, Wrth daflu croesau arein flyrdd, A'n cymhell â thrallodau fyrdd I chwennych rhan o'r nefol wlad. Hydref2,1843. Gwilym. YMDDIDDAN Rhwng dau Gymmydog, ynghylch sefyllfa wladol a clirefyddol y deyrnas y flwyddyn hon. [Parhad o tu dalen 312.] Ymofyngar.—Dydd da i chwi, fy nghyf- aill Heddychol; dywenydd yw gennyf gyfarfod â chwi etto, er nad yw y cwbl a