Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

344 YMDDIDDAN. dd) wedasoch y dydd arall ddim amgen na phiofi nad oes dim gwelliant yn bod i ni yn y wlad bon, heb ddadymchwelyd yr holl Sefydliad i'r sylfaen. Y mae Pendeflgaeth (Âristocracy) wedi anafu'r cwbl, megis y gwahanglwyf ysol. Heddychol.—Nid drwg gennyf gyfarfod â chwithau unwaith yn rhagor, er yn lled anobeitbiol o allu eich argyhoeddi o'ch mawrion gamsyniadau, yn enwedig wrth i chwi dybied mai Pendefigaeth sydd yn achos o'n baflwydd fel gwladwriaeth. Mae o leiaf yn profi eich bod ym mhell yn ol mewn gwybodaeth a phrofiad o natur gwlad- wriaeth neu gymdeithas. A wnewch chwi ddim ar "unwaith gydnabod mai'r cyfryw yw dynolryw, nas gellir eu hiawn drefnu er eu cysur a'u diogelwcb heb Lywodraeth. Rhaid cael rhyw ben mewn leulu, mewn gwlad, a phob rhyw gymdeitbas, cyn y gellir mewn un modd fyw yn gysurus. Ni ambeuir hyn gan un dyn pwyllog ac ystyriol ; a chyda hynny rhyw reol neu gyfraith, wrth yr hon y mae yr holl aelodau i ymagweddu, sydd hefyd yr un mor angenrheidiol er cysur a diogelwch pob graddau. Er profi bod Pen- defigaeth, neu Benaduriaeth, yn anhebgorol angenrheidiol o fod i bob cymdeithas, a phob awdurdod gyfreithlon yn cael ei rhoddi neu ei hymddiried i'r cyfryw, gweler fod yr Hollalluog wedi rhoddi ei Fab, ein Har- glwydd Iesu Grist, i fod yn Ben, yn Frenhin, ac yn Llywydd,ahynny uwchlaw pob peth i'r Eglwys. Pwy fel efe raewn gwybodaeth, i drefnu yr hyn sydd gymhwysaf er lles ei greaduriaidî Pe buasai Pendefigaeth a Phenaduriaeth yn hollol afreidiol, neu yn níweidiol, credwyf na buasai iddo ef, yr Holl-ddoeth Jehofa, fabwysiadu bynny. Ond yn awr, wele bob awdurdod wedi ei rhoddi i'r Mab, ac y mae yn rhaid iddo deyrnasu hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed. Yr Efengyl yw ei gyfraith ef, ac wrth reolau hon y gelwir pob dyn i ymddwyn neu weith- wedu. Y.—Os yr Arglwydd Iesu sydd Frenhin, pa eisiau brenhinoedd eraill sydd ? Onid y w gan hynny yn drosedd rbyfygus i un dyn gymmeryd yr anrhydedd hwnnw iddo ei hun ? II.—Nac ydyw mewn un modd, pan y dis- gynno hyBny yn gyfreithlon i'w ran yn ol trefn rhagluniaelb; canys nid ydyw bren- hinoedd y ddaear ond rhaglawiaid yn meddu awdurdod fel brenhinoedd, ac nid ydynt ond goruchwylwyr Duw.yn gwylied ar hyn yma. Pe na byddai yn addas bod brenhin, pa fodd y buasai Efe yn cymmeryd arno y cyfenw, Brenhin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi? Y mae Uchaflaeth, neu Ben- defigaeth, mewn ystyr yn anocheladwy yn y fuchedd hon. Y mae hyn yn deilliaw oddiar ddau achos o leiaf; sef yn gyntaf, y gwa- haniaeth a drefna y Creawdr yn ein cyfan- soddiad. 'Inequality in the mental and physical powers of individuals is the order of nature, or rather the appointment of God; and consequently no equality of cir- cumstances is ever possible to be realized. If it could be established to-day, it would be altered to-morrow.'—(Life of Dr. Paley.) Ac yn ol Crist, y mae yn bump, dwy, ac un. Yn ail, yn nosparthiad eu sefyllfa ddech- reuol mewn amser; megis drwy goelbreneu dosperlhir gan yr hwn a benna yr amser- oedd rhagosodedig, a therfynau eu preswyl- feydd hwynt; ac heb i ni son ara ddiwyd- rwydd a doethineb morgrugaidd, drwy yr hwn y dring amryw o radd isel i radd uchel- ach; ac ymollyngdod a diddarbodiad llaw- eroedd eraill, a'u darostynga o radd uchel i radd iselach; neu os damwain noeth a'n darostwng, yn erbyn pwy y grwgnachant ? Y.~Beth yw yr achos bod y cyfoethogion, neu'r gwyr mawrion, yn cymmeryd cym- maint o awdurdod lywodraethol dros y werin mewn gwlad ac Eglwys, megis pe byddai cyfoeth yn meddu ar synwyr, a thlodi yn cwbl ynfydu ei bercbennog? Cyfoeth yn ein gwlad ni sydd yn cymhwyso iswydd, a thlodi o'r tu arall sydd yn anghymhwyso i swydd. Onid yw hyn yn beth gwael i'r eitliaf, ag y dylid ei ffieiddio, gan ei fod yn achosi cymmaint o genfigen a chwerwder, ac yn warth oesol ar ein gwlad, gan y gwy- ddom fod llawer ag nad oes cyfoeth gan- ddynt yn meddu mwy o synwyr na llawer o'r cyfoethogion. H.—Mae'r gofyniad yna o'r eiddoch chwi etlo yn brawf o'ch anystyriaeth, yr hwn sydd yn ddiffyg mwy, ac o waeth natur er dinystrio cymdeithas, na'r hyn a gyfrifwch chwi yn warth iddi. Mae'r dull yma o ym- resymmu yn cynhyrfu eiddigedd y tlodion, neu yr isel radd, ac yn eu dihatru o bob cymhwysder i gydnabod eu lle, ac i fod yn foddlon a thawel yn y sefyllfa y rhoddes llaw rhagluniaeth hwynt ynddi; er nad cymhwys yw i ddyn fod ar lawr, os gall mewn modd cyfreithlon ymgyfodi i sefyllfa nwch. Ni feiddia neb ammeu nad oes ani- ryw mewn sefyllfa isel, ac yn meddu ar