Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YMDDIDDAN. 345 gynneddfau cryflon,neu o leiaf ynsiaradwyr tra mawrion, fel pe deallent y cwbl; ond ar yr un pryd, os edrychwn yn grafl ar yr oll o honynt, os yn gwbl lwm a thlawd y maent, y mae ynddynt ryw ddiffyg yn bodoli; naill ai siaradwyr ac nid gweithwyr ydynt, neu y mae rhyw leithdra, meddalwch, ac ymoll- yngdod gormodol ynglŷn â hwynt, ac yn barod wedi eu gorchfygu : a phan nad yw dyn yn alluog i drefnu ei fyd ei hun yn ddoeth, siaraded mor fawr ag y mynno, nid ymddengys ei fod ef yn gymhwys i drefnu rhyw beth sydd fwy o amgylchedd. Y.—A ydych chwi yn meddwl fod cyfoeth mewn rhyw fodd yn cymhwyso dyn i lanw swydd yn y wladwriaeth, yn fwy na phe byddai heb ddim cyfoelh ? H.—Tybiwyf fod hynny braidd mor eg- Jur, fel mai afreidiol fyddai gwneuthur un- rhyw eglurhad arno, oblegid y dylanwad cyffredinol y mae yn gael ym mhob cym- deithas. A ydych chwi, Ymofyngar, er eich holl ymofyn, ddim wedi canfod bod gair o enau y cyfoethog yn cael mwy o effaith na mil o enau y tlawd, bydded y tlawd mor ddoeth a Solomon ; gan nad yw o ddylan- wad, nis gall fod yn ddefnyddioî fel Llyw- ydd unrhyw Gymdeithas, megis Gwlad ac Eglwys. Y.—Beth gan hynny, yn neiilduol, sydd achos fod y bobl gyfoethoccaf yn fwyaf cym- mhwys i fod mewn swyddi uchel mewn Gwlad ac Eglwys ? H.—Heblaw bod natur, fel y nodwyd o'r blaen, yn tueddu dynion i barchu eu gwell, y mae y Teslament Newydd hefyd yn cefn- ogi hyn,ac yn gwasgu hyn ar ddynion mewn modd grymmus iawn, fel eu dyledswydd ar- bennig; sef rhoddi parch lle y mae parch yn ddyledus, a hynny i'r rhai sydd yn ar- glwyddi iddynt yn ol y cnawd, Ond i fod yn fyr; bwriwch i ni ddosparthu y wlad yn dri dosparth :—y cyntaf, y cyfoethogion ; yr ail, y tyddynwyr a'r masnachwyr; y tryd- ydd, y bobl weithgar. Pan y mae eisiau un i fyned i'r Senedd, neu ryw swydd uchel arall, un o ba ddosparth o'r rhai uchod sydd gymhwysaf, yw'r gofyniad; minnau a at- tebaf, mai un o'r cyfoethogion sydd gym- mhwysaf; 1. Ni fedd y tyddynwr na'r mas- nachwr amser mewn un modd i fyned yno lieb nieweidio eu hunain, chwaithach y gweithiwr sydd yn byw wrth rym ei ddwy- law. 2. Y mawrion ydynt wedi eu cyn- nysgaeddu â dysg digonol, ac ag amser a modd ganddynt, heb unpeth yn galw eu 2U sylw ond eu swydd arbennig. S. Y mawr- ion, a'u cymmeryd ar y cyfan, ydynt yn well dynion na'r cyffredin, er maint yr achwyn sydd arnynt yr oes hori, fel pe byddent yr unig achos o bob gofid a gwasgfa. Y.—Ym mha beth, attolw<r, y mae mawr- ion ein tir yn well dynion na'r cyffredin ? H.—Nid wyf fi,sylwch, yn cyfiawnhau y gwyr mawrion ym mhob peth ; dynion ydynt hwythau hefyd, ac y mae ganddynt le i ddi- wygio llawer mewn moesau ac ymddyg- iadau fel y cyfryw; ond gan nad beth ydynt hwy, yr wyf yn haeru, oddiar brofion an- wadadwy, eu bod hwy yn well na'r cyffredin yn ein gwlnd ni, ac am hynny yn gymhwys- ach i fod wrth lyw y Llywodraeth. 1. Y maent yn gyffredin yn fwy gofalus nag eraill i gadw at y gyfraith. 2. Y maent yn rhoddi pwys mawr ar fod yn eirwir a gonest, ac yn cadw disgyblaeth well ar eu gwasanaeth- ddynion. 3. Y maent yn hynod ddidwyll a digecraeth mewn cyttundebau (bargains.) 4. Yn fwy hael a thosturiol wrth y tlodion. 5. Y maent yn sefyll yn fwy ffyddlon i gael ffyrdd da drwy yr holl wlad, fel diwygiadau eraill yn y wladwriaeth. 6. Y maent yn ar- drethu eu tiroedd yn fwy rhesymol, na phan ddigwyddo ar law y cyffredin i ardrethu rhyw gyfran. 7. Y maent hyd yn hyn yn dra ffyddlon i gadw ac i gynnal crefydd i fod yn sefydlog yn y wlad. 8. Ymaenter hynny yn llawer llai eu pleidgarwch na neb o'r pleidiau eraill. Y.—Y mae yn synn iawn gennyf fi eich clywed yn beiddio dywedyd y fath bethau, ac yr wyf yn sicr nas gellwch brofi eich haeriadau ffol ac afresymol. H.—Peth rhwydd iawn yw eu profi; a hynny a wel pob dyn diduedd, ac a ostega gyda gradd o gywilydd dros ei gydwladwyr; yr hyn a bair i mi yn wir fod yn lled gynnil i fynegu yr holl wir ar y matterion a osod- ais i lawr ; ar ba rai y caf sylwi fel y can- lyn, gan erfyn arnoch i wrando naewn modd diduedd a diragfarn. Dechreuaf gyda gofyn i chwi, A ydych wedi gweled neu glywed am amryw o'r gwir foneddigion, neu fawr- ion ein gwlad, wedi eu dal fel Iladron neu yspeilwyr, y rhai ydynt ddinystrwyr pennaf pob cymdeithas? Os ydych, sicr gennyf mai lled anfynych y digwydd hynny. 2. A ydych chwi ddim wedi deall erioed, fod y gwir foneddigion ynrhoddimwyo bwys ar fod yn eirwir a gonest na'r cyffredin yn ein gwlad ? Edrychwch mor fanwl y maent wrth gyflogi a hurio gweision a morwynion;