Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

346 YMDDIDDAN; rhaid iddynt gael cymmeriad da iddynt cyn ycymmeront hwynt i'w tai; ac ni roddant ormod o ryddid i'r ieuengctid ynfyd,fel y gwna y rhai cyffredin. Ni oddeíant hwy i'r meibion beidio ar hyd nos i ddinystrio eu hunain, ac i hudo merchettos anwagelog i ymlosgach ac anlladrwydd, Ac os goddef- wch i mi wrth fyned heibio yraa,dywedaf mai gwych fyddai pe cefnogid Cymdeithas, i'r perwyl o wobrwyo yn helaeth y rhai a gadwont deulu hwyaf heb fod un plentyn ordderch yn digwydd ynddo, na neb o'r gwasanaeth-ddynion drwy eu gwasanaeth ynddo yn dyfod ar y plwyf; a barnwyf na fyddai yn anfuddiol i mi goífa yma am un wraig rinweddol, (y ddiweddar Eleanor Owen.Cilerwisg,) a fu yn weddw am feith- ion flynyddau ym mhlwyf Llanfìhangel Ys- trad, Ceredigion, ac yn cynnal tý, a lliaws o wasanaeth-ddyniou, dros yspaid trugain a dwy o flynyddau ; ac ni ddaeth neb o hon- ynt dan y gwarth agrybwyllwyd uchodynyr yspaid maith hynny, nac un ar y plwyfo herwydd eu gwasanaeth gyda hi. Maddeu- wch i mi am ymadael fel yma â'r testun. 8. Ni welwch chwi na neb arall y gwir fon- eddigion yn arfer llawer o eiriau wrth brynu neu werthu ; yr hyn a wnant,hwy a'i gwnant ar fyr eiriau; pan y mae ein gwlad, o ran y cyffredin, wedi greddfu mewn ymarferiad o ocraeth a checraeth, nes y mae tu draw i chwi ofyn na chynnyg yr hyn a fyddo re- symol am greadur na nwydd; a mawr yw yr angen am ddiwygiad sydd yma yn hyn. 4. Yn fwy hael a thosturiol wrth y tlodion. Ef allai mai anhawdd gennych chwi gredu hyn, er mor amlwg ydyw; ond y gwir yw, er y gwrthwynebant gardotta neu feggian yn gyhoeddus, ac ni oddefant o'u bodd i neb fod yn grwydriaid o le i le; a pha ham byn- ny? O herwydd y mynnent i bob plwyf gadw eu tlodion eu hunain yn gysurus, ac y maent hwy yu deall fod cymmaint o ddryg- ioni yn dilyn yr ymarferiad; etto y maent hwy dan eu baich o dreth yn eu graddau niegis eraill, os yn cynnal teulu yn y wlad; (ond sylwch, nid gwir foneddigaidd neb o'r mawrion a'r pendefigion nad oes ganddyi t eu cartref yn eu gwlad;) a chan mai hwy a olygir fel blaenion ein gwlad, a'i llywyddion mewn sefydliad a threfniad cyfreithiau, idd- ynt hwy y roae priodoli y clod neu yr anghlod o'u herwydd. Ac er mwyn iddynt gael cyfiawnder ar y pen hwn yn sefydliad Treth y tlodion, nid ar y wlad (fel y ceblir bwynt yn fynych iawn) y rhoddant y baich hwn, ond ar eu tiroedd neu eu meddiannau eu hun; canys pe na chafent un deiliad i'w cymmeryd, byddai raid i'r tir atteb am y dreth. Hefyd, pa mor aml y clywir am elusennau ewyllysgar y mawrion, yn cofio am y tlodion yn amser oerfel y gauaf, pan y rhoddant yn dra helaeth loa dillad gwelyau, heb son am gig, a blawd, ac angenrheidiau eraill; a chyfrannant yn helaeth al ysbyttai, ac am ysgolion plant tlodion eu plwyfi; ond rhy faith enwi y cwbl o'u daioni a'u haelioni, yn enwedig pan y cynnygiasant y flwyddyn hon drefnu i blant tlodion gael dysg a dygiad da i fynu; ond pwy a'u gwrthwynebodd ac a'u rhwystrodd, ond y cyffredin, er mwyn arbed y bocced medd rhai; ond y mae lle i ofni bod rhyw beth mwy mewn golwg, sef ofni i blant dynion ar y plwyf gael ysgol fel eu planteu hunain. Buasai hynny agos cynddrwg a'r gyfraith newydd sydd yn trefnu meddygon i ymgel- eddu y tlodion—hwsmonaeth wan yw ym- drechu am gadw y rhai hynny yn fyw, pan y mae cymmaint o eisiau eu gwaredu ! 5. Hwynthwy ydynt fwyaf awyddus i gael flyrdd da drwy yr holl wlad. Y mae hyn etto yn amlwg iawn ; fel y mae mwyaf tru- eni, nid yw y wlad agos mor ymdrechgar ag y gallent i gadw ffyrdd, ac ni cheid fl'ordd dda byth oni bnasai y mawrion ; ac os oedd y Trust a flurfìd i'r diben hyn yn cam-ym- ddwyn, dylasai y wlad gyfodi eu llais ar unwaith at yr awdurdodau am gael cyflawn- der ar y pen hwn. Os, canfyddwn fai ar fawrion ein gwlad, am na fuasent hwy yn dihuno yn gynt ynghylch y camwri yma cyn i deifysgoedd gylodi, y mae yr un bai yn gorwedd wrth ein drysau ninnau oll, na buasem yn ymddwyn mewn agwedd briodol, i. erfyn yn ostyngedig fel deiliaid, ac nid i faentumio ahaeru y mynnem y petli hyn a'r ueth arall. A farnech chwi yragwedd yna yn addas, pe dywedai eich plant neu eich gnasanaeth-ddynion fel hynny, y rhai ydyut er eu lles wedi eu gosod dan eich pendefig- aeth chwi? 6. Am eu gwaith yn ardrelhu eu tyddynod,neu eu tiroedd, gallaf brofi nad ydynt hwy yn ymdrechu i gael y geiniog uchafam eu tiroedd hyd yn hyn, onide bu- asai Uawer o symmudiadau yn fwy nag y sydd yn bod ar y deiliaid ; a gwn fod rhai o honynt yn rhoddi eu tir i'w hen ddeiliaid am lawer llai nag oedd eraill yn gynnyg iddynt. Ond am y cyffredin, neu'r tyddyn- wyr, pan elout i ad-rentu rhan o'u tyddynod i weithiwr, y mae yn drist gorfod cyfaddef