Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

348 i ddynion tra ieuaingc, heb eu hanfon, fel y dywedant, i'r carchardy. Ond tebygol naai yr Hwn sydd yn gwybod y cwbl yn unig a ŵyr yn drwyadl, beth sydd yn corddi eu pennau hirgrynion pan yn wbain fel hyn. 7. Amddiffynnant grefydd i fod yn sefydlog yn y wlad. Pa mor grefyddol neu anghref- yddol yw y mawrion, nid fy ngwailh i yw ymdrin â hynny; ondgan mai ganddynt hwy y mae y lleisiau amlaf yn nhrefniad yr holl sefydliad, yr wyf yn cyfiawn roddi y flaenor- iaeth iddynt etto yn hyn ; a'r hyn a'm synna fwyaf wrth feddwl am dano, yw bod y cyff- redin yn eu beio yn arswydol am eu cym- mwynasgarwch mawr hwn. Ni feiir hwynt, aro a wn i, am eu bod yn grefyddol, ond ara sefydlu crefydd, a phennu cynnorthwy addas at gynnaliaeth yr unrhyw, a hynny o"u hei- ddo eu hunain; ac wele yr hyn sydd dalaith ardderchog ar ben Prydain, ac a wasgara ei chlod dros derfynau y byd, yn cael ei hwttio a'i wawdio yn ddirmygus, gan rai a dder- byniant nawdd a diogelwch i'w personau drwy hynawsedd y sefydliad clodfawr a def- nyddiol hwn. 8. Er y dygant zel fawr dros y Grefydd Sefydledig, ac yr ymdrechant ei haddurno hyd y mae yn gyrhaeddadwy idd- ynt; (a phwy yn ei bwyll a feia ar Gristion, am ddwyn mawr zel yn y peth y tybia efe ei fod yn dda?) etto er maint eu zel a'u ffydd- londeb, nid ydynt, drwy drugaredd, yn myn- wesu yspryd o genfigen a phenboethni tuag at y rhai a ymneillduant oddi wrthynt, o leiaf yn debyg fel y gwna Ymneillduwyr y naill tuag at y llallj er y dichon fod peth gwendid o'r fath hyn yn bodoli mewn am- bell i un o honynt hwy ; ond nid yw y cyfan o honynt yn cydfloeddio yn erbyn Ymneill- duwyr, fel y gwna Ymneillduwyr yn erbyn sefydlu crefydd drwy gyfraith, onide darfu- asai am Ymneillduaeth yn ddiattreg; oble- gid yn llaw y mawrion hyd yma y mae llyw y Llywodraeth; y pen trymmaf i'r glorian (balance ofpower)yw y gallu cryfaf. Yn awr, nid yn unig wele heddwch a llonydd- wch i Ymneillduaeth yn cael ei ganiattau pan y byddo angen am hynny, ond amddi- ffyniad a diogelwch i'r cyfryw yn cael ei weinyddu gyda phob parodrwydd pan y byddo angen am hynny; a pheth mwy, nid attaliasant eu llaw rhag estyn yn haelionus bob blwyddyn i Ymneillduwyr gynnorthwy- onariannol,acymaeyndrugareddammhris- iadwy i lawer o'u gweinidogion croenllym- io» eu bod yn gwneutbur bynny. J7'to orphen yn y nesaf.] BUGEILIAID EPPYNT. BUGEILIAID EPPYNT. ^F Idwal. Y mae wedi myned yn rhyfedd yn rhaì o siroedd y Deheudir; nid oes ar hyn o bryd unrhyw newyddion, ond y rhai mwyaf galarus a thrychinebus! Ni bu er- ioed y fath amserau ! Ifor. Ydyw, y rnae yn derfysglyd anghyff- redin; a gwaeth na therfysglyd, y mae y bobl a'u bryd ar ddrygioni! A sylwa hefyd, Idwal, yn y rhai a ystyrir y siroedd mwyaf crefyddol, yn y rhai y mae sectariaeth gad- arnaf, y mae yr aflywodraeth, y terfysg- iadau,a'r difrodiadau mwyaf! Y mae cre- fydd ymneillduedig wedi methu attal y bobl rhag pob math o ddrygau! Y maent yn waeth na'r Gwyddelod eu hunain ! Idwal. Nid ar grefydd y mae y bai. lfor. Gwir ddigon; ond y mae bai yn rhyw le, ac y mae ynamlwgbod crefydd sectarol yn analluog i attal drygau ; oblegid y mae ugeiniau,îe, cannoedd o'r sectariaid yn cyflawnu yr ysgelerderau presennol! A phrawf digonol o hyn ydyw, bod y drygau yn cael eu cyflawnu mewncymmydogaethau lle nad oes neb ond sectariaid i'w cytìawnu! Gyrft sectariaeth y cynnyddodd anniweirdeb yng Nghymru! Acryw fodd neu gilydd, y mae sectariaeth wedi gyrru yr hen eirwir- edd, yr hen onestrwydd, yr hen garedig- rwydd, a'r hen haelioni agos ynllwyro'r wlad! Mewn gair, y mae sectariaeth agos wedi dinystrio cenedlaetholdeb y Cyniry! Ac nid oes yma yn awr ond wyneb hir Pha- riseaidd, a ffug sancteicldrwydd yn llanw y wlad; ac ar yr un pryd y bobl ag sydd yn grelyddol hyd yr ewinedd, a holl fryd eu calonnau ar ddrygioni! ldwal. Ond y mae y bobl yn cael eu gwasgu, o ganlyniad pa ryfedd yw eu bod yn gwingo? Ifor. Ai gwingo ydwyt ti yn alw ar yr ysgelerderau presennol? Ai gwingo ydyw troi allan yn arfog dan lenni duon y nos? Ai gwingo ydyw dinystrio tollbyrth? Ai gwingo ydyw liindagu a churo gatemen ? Ai gwingo ydyw dinystrio a llosgi tai a meddiannau ? Ai gwingo ydyw anfon y lly- thyron mwyaf bygythiol? Ai gwingo ydyw gosod dymon mewn perygl am eu bywyd, os dywedant air yn erbyn yr ysgelerderau a gyflawnîr? Ai gwingo ydyw saethu i dai? Ai gwingo ydyw Uofruddio dynion? Er yr holl ymttrost a wneir ypg nghrefyddolder y wlad, y mae y bobl wedi myned yn waedlyd, a'u pennau a'u calonnau yu llawn llofrudd- iaethau ! Crybwyllir wrth fyned i gyrddau, a dylod o gyrddau, a hynny gan grefyddol- ion, ara losgi tai ac ydlannau, am saethu i dai ac at ddynion, ac am ladd, nid gyda gofid bod y wlad wedi ymwyddeleiddió,ac wedi llygru yn llwyr mewn moesau, ond gyda chwerthin a chyda rhyw rali fawr! A oes rhui o'r pregethwyr yn galw sylw y bobl at annuwioldeb yr ysgelerderau presennol ? Llewelyn. Yr ydym ni, fel Corph o Fe- thodistiaid, yn rhydd oddiwrth y petiiau a grybwylli; ac y mae ein disgyblaeth ni yn