Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

IIANESION, &c. 351 eich gwahanol alwedigaethauj fel ag y byddo i'n hanwyl wlad unwaith etto gael mwynhau bendithion heddwch a chyd- gordiad, a blaguro etto mewn cysur a Uwyddiant. Na fydded i chwi, anwyl gyd- wladwyr, esgeuluso y cynghor caredig hwn oddiwrth eich cyfaill gwirioneddol, Genedigol ac arosoi.§yn y Sir. HANESION CARTREFOL A THRAMOR. AT FFERMWYR PARTHAU UCHAF SWYDD GAERFYRDDIN. Anwyl Gyfeillion,— Y mae amseroedd dieithriol wedi ein goddiwedyd ni, ac y mae golwg frawychus ar bethau yn ein plith ni ar hyn o bryd! Rhoddwyd peiriant mewn gweithrediad yn ein gwlad ; ac er pob ymdrechiadau a wneir i rwystro ei gynniweirfa, cynnyddu a wna yr amryfusedd presennol, oblegid bod rhyw fath o ddynion a'u bryd ar ddrygioni, ac yn ymorfoleddu mewn pob math o derfysg- iadau ac aflywodraeth! Ond pe byddai i ni sylwi ar hanesion yr oesau a aethant heibio, ac ar groniclau gwahanol wledydd y ddaear, ni a welem ar unwaith, nad oedd yn dilyn gwrthwynebiadau i gyfreithiau gosodedig, ond y canlyniadau mwyaf trychinebus i'r gwledydd anflodus hynny ym m!ia rai y cymmerent )e! Fiaith alarus ydyw, bod ein sir ni mewn cyflwr o aHywodraeth yr awr hon! Ym- gynnullir yn finteioedd lliosog yn y nos! Arfogir er mwyn cytìawnu gorchwylion di- nystriol! Gwneir ymosodiadau gwaedlyd arbersonau! Torriridai! Bygythir trangc- edigaeth i bersonau! Gwneir rhwymyn cymdeithas ynddrylliau! Collir pob ym- ddiried! Ac yr ydym ar y ffordd i fod y dynion annedwyddaf ar holl wyneb y ddaear! Ym mhob oes, ym mhob gwlad, ac ym mhlith pob cenedl o ddynion, y mae rhai personau ymrysongar, ymyrgar, terfysglyd, ac atìywodraethus y rhai nid oes ganddynt ddim i'w golli, ond a addawant iddynt eu hunain gyflawnder o bob peth, pe dichon- adwy iddynt fyddai meithrin terfysgoedd, a dymchwelyd sefydliadau ! Eithr, y mae y rhai heddychol, y rhai rhinweddol, y rhai gwir grefyddol, a'r rhai sydd yn wladgarwyr mewn gwirionedd, nid yn unig yn dyrchafu eu Ilais yn erbyn y cyfryw rai, ond yn cyd- gynnorthwyo yn galonnog ac yn wresog i lethu eu hegwyddorion niweidiol, ac i attal llwyddiant eu hegniadau drygionus, trwy bob moddion teg a chyfreithlon. Ni all dim fod yn amlyccach, na bod cyn- nyçiadau parhaus yn cael eu gwneuthur i brysuro ein gwlad ni i ddinystr buan! Rhwymyn cymdeilhas sydd yn barod wedi ei dorri! Y llythyrau mwyaf bygythiol a anfonir at bersonau gyda haerllugrwydd di- gyffelyb! Y mae y dynion hynny a ddang- osaut yr anghymmeradwyaeth leiaf o'r drygau presennol, yn gosod eu bywydau yu y peryglon mwyaf! Llossir ydau, a roes Duw o'i drugaredd i ni mewn cyflawnder mawr eleni! Rhoddir anneddau yn ymborth i'r elfen danllyd! Y mae gwaed wedi dech- rei cael ei dywallt! Nid oes o'n blaen ond y tryblilh mwyaf! Ffermwyr, y niae eich interest chwi yn fawr yn ilonyddwch, yn nedwyddwch, ac yn llwyddiant y wlad ; y mae eich ir.lerest chwi yn gydweuedig âg iawn weinyddiad y gyf- railh; y mae eich interest chwi yn seiliedig ar íbd nndeb corph y wladwriaelh yn cael ei gadw ynghyd yn ddidor; y mae eich inter- est chwi yn gydblethedig â threfn dda! Eich interest chwi ydyw gweled awdurdod y gyfraith yn uchaf ar bob gradd. sefyllfa, a chytìwr; eich interest chwi ydyw bod per- sonau a meddiannau mewn cyflwr o ddiog- elwch hollol, eich interest chwi ydyw bod ar delerau da â meddiannwyr eich tiroedd, a bod gan y naill lawn ymddiried yn y llall; mewn gair, yr ydych yn cyfausoddi y fath ddolen yn y wladwriaeth, fel os bydd i chwi ddryllio eich hunain, gan nad pwy fydd mewn dinystr, byddwch chwi yn sicr o fod yn andwyedig ! Nid ydych chwi heb weled yr olygfa frawychus sydd ar ein gwlad ni yn bresennol! Yr ydych, lawer o honoch, yn ddiweddar wedi seilio eich interest ar gor-