Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

354 HANESION, Sie. yn gwerthu llawer iawn, ac mai yr un rhai sydd yn prynu ganddo, oddieithr am- bell un, a'r oll o honynt mewn perffaith elyniaeth atto. Yn awr, Barobedig Syr, gan eich bod, fel y tybiwyf, mor adnabyddus o drigolion Llanelli a'i hamgylchoedd a neb rhyw un, crefaf arnoch am hyspysiad, trwy gyfrwng yr Haul, beth a all fud y maen tynnu sydd yn y siopwr hwnnw, mor gryf ei sugu, fel y tynna rai i brynu ganddo ag sydd, fel y nodwyd, mewn perffaith elyn- iaeth atto. SCRUTATOR. CYFARFOD TE, A CHAN AR YR ACH- LYSUR. Mrp. Gol.—Ar ddydd Iau, Medi 7, cynnaliwyd cyfarfod i yfed tê ar fynydd Bryn y Fedwog, gerllaw y Bala, swydd Feiron, yr hwn a ddygwyd ym mlaen drwy haelioni anghydmarol y foneddiges glodwiw honno, Mrs. Davies, Bala, yr hon sydd wedi amlygu ei hun, ar bob adeg, yn wir bryderus ynghylch llwyddiant y Corph ym mhob cyssylltiad. Yr elfennau a gyf- ansoddent orwychedd y cwrdd, ydyntlawer rhy liosog i'w cofnodi ar hyn o bryd ; ond sylwer ar y rhai canlynol*—1. Gogoniant y cwmpeini j neb llai nag Athrawon* Sef- ydliad gogoniantawl y Trefnyddion Cal- finaidd, alias y'Corph,' a gynnelir yn y drefhon, ynghyd â'u cywion pengam. 2. Y talentau disgleirwych a ddadlennid ar yr achlysur, mewn areithio ar ben y bryn. 3. Blas y danteithion. 4. Y drol a'r mul. 5. Yr effeithiau.—Gweli heb eu henwi ar hyn o bryd; ond os gelwir am hynny, bydd dda gennyf gael y fraint o'u cofnodi. Mewn gair, yr oedd y cwrdd o'i ddecbreu i'w ddiwedd mor splendid, fel y teilyngai gofnodiad ar ddalennau euraidd yr Haul. Ar yr achlysur,, un o feibion Tydain a ganai fel y canlyn, yr hwn a haeddai senn .am ei goegni.—Yr eiddoch, Alexander the Great. Fy hen gyfeillion aml ri', Gwandewch ar stori newydd; A glywsoch chwi am y dorih weo, A fu ar beo y mynydd ì Fe welwyd tyrfa yn eich bro, Yn tioio dros eich twyni, Ac yn eu canlyn hen ful llwyd, Y carrio bwyd a llestri. * Gofynner i un o honynt, a all efe ddy- wedyd pumtheg miliwn o figures heb fethu, nen ynte aywy fath swm anferth uwchlaw ein dirnadaeth ni; neu aŵyr efewahaoiaeth rhwng £25. ac se25t000. Ós na ŵyr, aed at un y blant bychain Ysgol Tandommen, Bala, ac yna hwyrach y caití gyfarwyddyd. Wrth weled tyrfa fawr fel byn, Ar finion Llynn y Bala, Mi roddais íloedd yn drist fy mron, ' Tybted mai hon yw Becca ?' Attebai cyfaill bore f' oes, ' O ynfyd, nid oes yna Ond rhai o blant yr hen tcas du, Yn myn'd i fynu i hela.' Dy wedai arall, (mawr ei glod,) ' Y Ffrangcod ddaeth i fynu, A gwelwch lu o langciau swrth Yn myn'd i'w gwrthwynebu.' Er caffael gwybod am eu pwynt, Dilynais hwynt ar fyrder; A chlywais fonllef echrys, gre',— ' Byw fyddo'r Tëjot ever!' Gofynnai rhai,' Ai Becca lew Yw'r ddynes dew a welwn, Neu ynte bendefiÿes ffol, Yn myn'd ar ol ei helgwn ?* Hwy gyrhaeddasant fan y sprî, Gan godi eu Uygadau, Yn fawr eu bryd (ddarllenydd, clyw,) Am wneuthur duw o'u boliau. Y cyntaf peth, i dynnu ei sug, A gaed, oedd cig a bara; Ac yno (druain oedd y plant) Hwy ddechreuasant wledda. Ac wedi iddynt lyngcu'n chwyrn, A'r esgyrn gael eu crafu, Rhues aml un o honynt lam I 'mofyn am y privy, Ond wedi'r tynder fyn'd yn llai, Y bol a regai'r dannedd, A d'wedai'n sur,' Why did you say Y cawswn Dê ddigonedd ?' Yn fuan iawn, gan faint y 'stwr, * Fe roed y dw'r i ferwi; Dechreuent daenu'r llian main, A chly wyd sain y Uestri. 'Nol iddynt eisledd oll i lawr, Rhyw genau mawr ei ragritb, A'i ben yn gam, edrychai'n syn, Gan geisio gofyn bendith. Rhyw frawd, wrth nol ei braidd i lawr, A flodd yn fawr ei siomiant, Gan waeddi ac udo nerth ei geg, ' Y Tylwyth teg a'm rheibiaot!' Ym mlaen yr aeth y wledd er hyn, Ar fynydd Bryn y Fedwog, Nes y dechreuai'r bottel jar I bwyso ar j stummo^.