Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

356 HANESION, &c. hanol ddosparthion y bobl ? Dim o'r fath beth ; ond clymmu ynghyd ddarnau cyf- ieithiedig o amryw Newyddiaduron, a'r rhai hynny mor boceraidd a'r trosol â pha ud y lladdodd Eidiol, larll Caerloyw, yr holl Sacsoniaid, ar derfyn gwledd Hengist, ar wastadedd Caercaradog ! Y mae ei holl Wleidiadaeth yn gynnwysedig mewn'Cyn- hyrfer, cynhyrfer, cynhyrfer—ymfyddinwch wrth y miloedd—dywedwch mai Becca a dinystrwyr tollbyrth ydych—Surpliced Ty- Tants—Clochyddion—Toriaid—Syr Robert Peelî' Fis ar ol mis, y mae Golygydd y Diwygiwr yn clochdar aílan yr un anthem- mau ! Fis ar ol mis, y mae yr un ffregodau yn cael eu cyhoeddi yn y tai cyrddau ! Fis ar ol mis y darllenir hwynt gan y saint ar y Sabbothau, nes ydyw hoîl Independia, drwy ei holl derfynau. wedi ymberfíeithio ym mholiticiaeth y Golygydd dan sylw; ac y mae agwedd anwyl ar fuchedd y praidd trwy ei holl gorlannau ! Gwir yw ei fod wedi galw ar y ffermwyr i gynnal cyfarfodydd i ymdrafod â'u grievances; a gwir bod cyfar- fodydd wedi eu cadw mewn amrywiol fan- rau, ym mha rai y mae y ffermwyr wedi bod yn lled flraeth, ac wedi cymmeryd arnynt eu bod yn lanach ac yn burach corph o bobl nag ydynt mewn gwirionedd ! Yn gymmaint a bod yr ysfa siaradol wedi ymdaenu fel rhyw dwymyn wyllt drwy y ■wlad, yr ydym ninnau yn teimlo rhyw awydd i frathu gair i mewn yn awr ac yn y man ; a chan mai nodi allan grievances ydyw y go of the day, yn y cyfarfodydd poblogaidd pre- eennol, y mae un grievance o bwys mawr yn cael ei adael o'r neilldu,ac nid ydym yn deall bod Golygydd duwiol y Diwygiwr ra'r cyfarfodydd wedi crybwyll cymmaint a gair am dano! Y mae heb ddyfod dan eu sylw, neu y maent am ei adael yn llonydd; neu nid ydynt yn ddigon o ddyngarwyr i garu neb, ond poh un i garu ei hun ; neu y naae islaw eu sylw! Pob parch i'r fferm- wyr, ac yr ydym wedi dangos pob parch iddynt ar bob rhyw amgylchiad; ac yn gymmaint a'u bod hwy mor hoff' o nodi grievances, yr ydym yn eu clyw, ac yn eu hwynebau, yn eu cyhnddo o'r grievance canlynol; sef eu bod wedi dinystrie moesol- deb Cymreig, hyd ag y maent hwy wedi gallu gwneuthur hynuy ! Y mae y cyhudd- iad yn drwm iawn yn eu herbyn, ac yn cael ei wneuthur yn gyhoeddus, ac y mae yn weddus iddynt i'w gymmeryd dan eu hys- tyriaethau difrifolaf! Yr ydym yn eu cy- huddo o ddinystrio moesoldebCymreig! Y mae y flèrmwyr Cymreig wedi myned yn nodedig am eu twyll a'u hocced fasnach- ol! Ni alí dim daro at wraidd moesoldeb yn twy uniongyrchol na dwyn twyll a hocced i ymarferiad. Ni wneir crybwyíl yn awr am achos, neuachosion,y twyil a'r hocced hwn, ond ei fod yn gyflredinol yn ein gwlad, ac wedi gwenwyno moesau ybobl! Gwir bod y tai cyrddau yn Hiosog drwy Gymru ; gwir bod pregethu braidd ar ben pob heol, ac wrth bob drws; gwir bod diwygiad nerthol wedi bod ym mhlilh yr Independiaid, mor belled ag y mae gwneulhur dynion yn ben- -wan ynddiwygiad; gwir bod cyrddau ben- d'^edig y gwragedd, y crottesi, a'r cryls wedi eu sefydlu ; gwir i'r pwlpudau gael eu cyssegru â phresennoldeb y dyn hwnnw, y y bu Independia er ys tro yn ol ym mron ym- rwygo yn ei herwydd, sef Robin Ddu ; gwir i Rafarafafi ddyfod yn shew sanctaidd drwy y wlad; gwir i'r Cwic fendithio y wlad â Fl'eiriau Rumni a Llantrisant; gwir hyn, a mwy na hynjond y mae twyll a hocced etl.o yn llawn yn y wlad ! Pa flèrmwr a ellir gredu ar ben flair gyda golwg ar oedran ceffyi, buwch,a pha un ai eu bod yn ddifai neu nid ydynt! Gan bwy y ceir yr yd i atteb y patrwn î Pa gynlluniau ac ystrangciau ni arferir er mwyn gwerthu am bris uchel,ac er mwyn prynu am bris isel ? Onid ydyw yr holl wlad yn llawn o gnacciau, a wneir gan ffermwyr yn eu masnachaeth gyffred- inol ? Onid yclym yn cael ein twyllo fyn- ychafynein holl ymwneuthurmasnachol â'r tìermwyr ? Pa fodd y maent yn ymddwyn at eu crefftwyr a'u gweithwyr? Yn llawn twyll a hocced. Rhaid i'r gof, y saer, y taeliwr, y crydd, a'r gwehydd gymmeryd nwyddau ganddynt yn lle arian; ac y mae hyn o'r goreu, pan fydd y rhai hynny yn atteb y diben. Ond pa fodd y mae? Y pwys ymenyn yn llai, ac fynychaf yn ddwy geiniog yn uwch ei bris nag y ceir ef yn y farchnad! Y caws ddimmai y pwys yn fwy ! Gwan-yd yn gymmysgedig â baw Uygod a phob flrwtsh, a mesur cwtta gyda y cwbl, yn lle yd pur, a mesur da dwysedig, ac yn my- ned drosodd! Y mae masnach flermwr- iaethol Cymru yn gyfundraeth o hocced o'r pen bwygilydd! Y mae hyn i'w weled yng ngoleuni y dydd, ac yn ffaith a wirir braidd gan bob un ag sjdd yn ymwneuthur â'r wlad ! Yr oedd yr hen bobl yn ddidwyll, yn onest, ac yneirwir;ond yri awr y mae yr hocced wedi dyfod a'r celwydd i'r wlad; ac ni waelh gan ddynion ar hyn o bryd pa bath a dyngant; oblegid dyma y swn sydd yn awr, bod hwn a hwn wedi tyngu cel- wydd, a hwn a hwn wedi tyngu celwydd ; a phwy a ddygodd y wlad i'r cyriwr hwn o dyngu celwydd, ond hocced y ffermwyr? Ond pa fodd y daeth fíermwyr Cymru i fod mor hoccedus a thwyllodrus, a adewir yn ofyniad heb ei atteb yn bresennnl. Y mae ymddygiadau gormesol y flermwyr at eu caethion, wedi ergydio yn drwm at foesoldeb Cymreig ! Y mae perthynas i fod rhwng meistr a gwas, a rhwng meistres a morwyn; ac yr oedd y berthynas hon yn cael ei chadw yn ddihalog gan ein hynaf- iaid. Ondy mae rhyw syrthiad ymailh rhy- feddol wedi cj mmeryd Ile yng Nghymru, ac y mae y gwasanaeth-ddynion yn ein plitti ni mewn cytìwr o hollol gaethiwed dros dym- morau eu gwasanaeth! Mor afrywiog, mor daiog, mor sarrug, ac mor arglwyddiaethol ydyw y meistri yn gytìredin at eu gwasan- aeth-ddynion! Nid oes unrhyw ofal gan- ddynt am iechyd nac am gysuron y becbgyn yn eu gwasanaeth ! Y mae yn arferiad cyfl'- redin gan feistri i wneuthur i'r bechgyn drwy y gauaf fyned am bedwar a phump o'r gloch y bore i'r ysguboriau i ddyrnu, heb na thammaid na llymmaid; a pha belh a all fod yn fwy niweidiol i iechyd, na llyngcu llwch Ual'ur pan fyddo y cylla yn wag ? Çant fod allan yn fynycb yn nannedd