Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HANESION, &c. 357 y gwynt a'r dymbestl, yn wlyb hyd y crwyn, ac wedi dyfod i'r tý, bara a llaeth enwyn oer fydd yr unig swccwr darparedig iddynt! Os bydd ar y gwas eisiau myned i'r dref neu y pentref cyfagos, ar neges at daeliwr neu grydd.ni wiw son am hynny nes y byddo gwaith ei feistr wedi ei gyflawnu yn gyntaf; ac yn gyffredin y mae gwasanaeth-ddyniori yn cael eu gorfodi i fyned allan yn nhywyll- wch y nos, neu haiogi Sahbothau Duw, a'u moesau drwy hyn yn cael eu llygru yn ar- swydus! Y merched drachefn, druain, fel y mae eu cyflwr dan f«y na mwy o feislresi! Bydd tafod y feistres fel cloch, o pan gyfod- ont yn y hore, nes yr elont i'w gwelyau yn y nos ! Y fath ddifenwi a fydd arnynt! Yr lien ------, yr hen ------, yr hen------! Pan ddelo y meistresi adref o'r marchnadoedd, o'r cyrddau, ac o'r seietau, y maent fel pe bydriai yr yspryd drwg ar eu cefnau, ac y mae tymhestl yn sicr o arllwys ar bennau y merched ! Gwir bod eithriadau anrhyd- eddus yn ein gwlad ni; y mae nieistri a meistiesi yn ein uwlad yn ymddwyn yn an- rh)deddus, yn ddyngarol, ac yn Gristion- ogol at eu gwasanaeth-ddynion; ond yn gyfìiedin y mae eu hymddygiadau yn draus- arglwyddiaethol, ac y mae galw uchel am ddiwygiad yn y peth hwn ! Nid ydyw yn ein bwriad i ychwanegu llawer ar y matter hwn yn bresennol, am y bwriadwn fanylu arno mewn amser dyfodol; ond yr ydym am i'r flermwyr gymmeryd dae eu hystyriaelhau eu bod wedi bod yn euog o hyn; ac y mae ,yn arswydus meddwl eu bod yn awr wedi rhoddi yr home stroke i'r gorchwyl hwn.a hynny drwy annog a chynnorthwyo eu gweision a'u gweithwyr i droi yn williaid dinystriol ytywyllwch! Nid gwiw i'r flèrmwyr ddywedyd bod y rhenti yn rhy uchel, a'r trethi a'r taleion yn rhy uchel yn awr, fel na allant ymddwyn tuag at eu crefftwyr a'u gwasanaethddynion fel y dymunent; oblegid y mae ganddynt arian eu gwala at achosion ag ydynt wrlh eu hewyllys eu hunain ! Yr ydym yn gwybod am tìermwyr ag ydynt wedi dy wedyd y cost- iant gannoedd o bunnau,er mwyn cael rhai yn rhydd ag ydynt mewn dalfaam ddinystrio tollbyrth! Ä flermwyr y cannoedd hyn yd- ynt y rhai sydd yn achwyn bod y rhenti a'r taleion yn rhy uchel! Y gwir ydyw, y mae rhyw yspryd rhyfedd wedi meddiannu nifer liosog o'r flermwyr Cymieig! Ni waeth ganddynt beth a fyddo interest neb ond eu hinterest eu hunain ! Ni ofalant ddim am interest perchennogion y tiroedd; ond cyn- nyg at eu dinystr, a chyfodi rhagfarn yn y wlad yn eu herbyn ; ac y mae y crefltwyr, y gweithwyr, a'r gwasanaelh-ddynion wedi bod mor ddwl a chymmeryd eu dal yn eu rhwyd hwynt! Pan fyddo yr ymenyn, a phob enllyn, a'r llafur yn gostwng ychydig uiewn pris, mawr ydyw eu hystwr yn eiri marchnadoedd. ' Pa fodd y uall y fiermwr sefyll ? a pha fodd y gall y ffermwr dalu ?' ydyw eu cân ; ond pan iydcio yr enllyn a'r llafur yn uchel, ni chlywir neb o iionynt yn dywedyd,' Hawyr anwyl, pa fodd y mae ar ycrefltwyr a'r gweiihwyr tlodion?' Dim, dirn o'r fath beth ; ond y maent wedi myned yn ddynion selfish,nad oes ganddynt interest yn y byd mewn golwg ond eu hinterest eu hunain; a'r crefítwyr, y gweithwyr, a'r gwasanaeth-ddynion wedi cymmeryd eu llithio i gjd-gynnorthwyo yn eu cyfàrfodydd, er bod yn dools i'r flèrmwyr gael eu ham- canion i ben, heb neb yn gwneuthur cym- maint ag agor ei enau drostynt hwy ! 'METHODISTIAETH.—V terfysgoedd/ ' Gweinidogion a Blaenoriaid y Method- istiaid Calfinaidd, mewn Cymmanfa Chwar- terol, ymgynnulledig yn Nhrefdraeth,swydd Benfro. wedi cymmeryd dan eu hystyriaeth- au gyflwr terfysglyd y wlad, a yslyriant mai eu dyledswydd yriyw gwneuthur Cy- hoeddiad cyflredinol o'u gofid dwys, a'r anghymmeradwyaeth gyda phà un yr ed- rychant ar yr yspryd rhydd ac aflywodr- aethus sydd wedi flynnu yn ddiweddar mewn amrywiol swyddau yn Neheudir Cymru, ynjîhyd âg ar y troseddau nosawl a'r llosg- iadau ; ar yr un pryd yn obeithiol, ac mewn gwirionedd yn hyderus, nad oes neb o'u haelodau hwynt hyd yma wedi dwyn arnynt eu hunain ac ar eu gwlad yr euogrwydd ar- swydushwn; etto gorchymmynant yn ben- dant wyliadwriaeth ar yr amrywiol gym- deithasau yn yr enwad, fel ag i nodi allan a diarddel yn uniongyrchol bob person a gyf- rannogo o'r drwg hwn,neu a berthyno iddo, neu a gyfiawnhao y cyfryw yspryd a'r cyf- ryw weithredoedd; pan y rhaid ei fod yn amlwg, na all unrhyw gamwri neu ormes gyfiawnhau ad-daliad drwy drais a chyf- lafan.' Ni all dim roddi mwy o anrhydedd i wladgarwch a ciirefydd y Methodistiaid, na'r Cyhoeddiad uchod; ac efe a arogla yn beraidd o oes i oes, ac o genhedlaeth hyd genhedlaeth, tra y parhao oesau y ddaear. Ac yr ydym yn credu hefyd, bod y Gweini- dogion a'r Henuriaid ag oeddynt yn ym- gynnulledig yn Nhrefdraeth, yn hollol onest a didwyll yn y Cyhoeddiad uchod—eu bod wedicytìawnu dyledswydd gydwybodol ger bron Duw a dynion, ac y bydd i'r Cyhoedd- iad dan sylw çael effaith ddyladwy ar holl aelodau y Corph Methodistaidd, ac ar eu holl wrandawyr, trwy holl siroedd y ter- fysgoedd presennol. Y gwir ydyw, nad yd- oedd y Metiiodistiaid yn lân, lawer iawn o honynt, nac yn hanner glân ychwaith, gyda golwg ar Beccayddiaeth—y mae llawer o honytit a'u dwylaw yn lled bell yn y fusness hon! Gyda goiwg ar y Toilboi th bychan a ddrylliwyd yn ein cymmydogaeth ut, Jack peithynol i'r Methodistiaid,a Blaenor mawr perthynol i'r Melhodistiaid, oeddynt y rhai cyntaf a fygythiasant Becca ar y Tollwr! Os ydyw y Methodistiaid wedi bwriadu y Cyhoeddiad dan sylw i ddarbwyllo y wlad eu bod hwy yn rhydd oddiwrth Beccaydd- iaeth. y maent wedi camsynied, ac wedi countio heb yr Host; ond os ydynt wedi ei fwriadu i'r dihen i lethu yr yspryd Becca- yddol ag sydd yu gweithio fel lelain ym mlawd y Corph, y mae iddynt gredit o'u gwaith,ac yr ydym yn gobeithio y llwydd- ant yn eu hymdrechiadau. Bu cyfarfod gweddi yn cael ei gynnal gan y Methodist-