Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

358 HANESION 4c. îaid yn Llanymddyfri, er mwyn thwystro cynniweirfa Becca; ac yr oedd angen mawr am dano, oblegid y dyb gyffren'in ydyw, bod Uáwerohotiynt yng ngrhymmydogaelh Llan- ymddyfri, yn Feccayddion dros eu pennau a'u clusliau. Buasai yn dda gennym glywed un blaenor yn neiliduol yn gweddio yn yr achos hwn, yng nghwrdd gweddi Method- istiaid Llanymddyfri. Yr ydym yn deall bod sectwyr Llanymddyfri yn weddol lân, ond y Methodistiaid yn unig; ac y mae yn ddymunol gennym ddeall nad ydyw y Me- thodistiaid yn gyffredinol wedi cymmeryd eo denu i'r amryfusedd hwn. Os digia rhai wrthym am ddywedyd gwir noeth fèl hyn, y mae iddynt bob groesaw i ddigio— y mae pethau fel yr ydym yndywedydeu bod. CYMDEITHAS AMAETHYDDOL LLANYM- DDYFRI. Cynnaliwyd Dangosiad Anifeiliaid y Gymdeiihas hon ar yr ugeinfed o fis Medi diweddaf. Y tywydd oedd ragorol, ac er nad oedd yr ymgeiswyr mor lliosog ag ar- ferol, yr oedd yr anifeiliaid a ddangosid yn well nager dechreuad y Gymdeilhas, yr hyn a bra«f fod y wlad yn ystyried y buddioldeb a ddeillia oddiwrth ei hymdrechiadau. Y mae rhai o'r boneddigion, ac aelodau cyf- rifol eraill, yn eu hawydd i wellhau rhyw- iogaeth yr anifeiliaid yn yr ardal, wedi myned i draul fawr i gael rhai teirw a gwar- theg godidog o rywiogaeth ddigymmysg Henflòrdd ; oblegid yr ydys wedi cael allan drwy brofiad mai y rhai hynny sydd fwyaf addas i natur y tir, ac yn talu oreu i'r per- chennog. Dangoswyd rhai hyrddod rhag- oroJ; ond o herwydd poethder yr hin, ni ddygwyd ond ychydig fammogiaid ynghyd. Yr hychod a ddangoswyd oeddynt \n rhag- ori ar y rhai y blynyddoedd ddiweddaf; ond rbaid cymmeryd llawer o ofal a thraff- erth etto, cyn dwyn y ceffyl gwaith defnydd- iol i berffeithrwydd. Ar y cwbl, yr oedd gwelliant amlwg a boddbaol i*w ganfod y flwyddyn hon. Wedi gorphen, cylrannog- odd yr aelodau ac eraill o giniaw ragorol yn y Lamb lnn, yr hon a barottowyd gan y Gwestywr parchus, Mr. Samuel Jones. Y Parch. Syr Erasmus Williams, Llywydd y Gymdeithas, a gymmerodd y Gadair; a William Jones, Ysw. Glanbrane Park, yr Is-Gadair. Ym mhlith y cymdeithion Hiosog gwelid y Milwriad Wood, A. S.; y Müwr- iad Trevor, A. S.; y Parch.Thomas Wil- liams, Aberpergwm; D. Ll. Harries, Ysw., Maer Llanymddyfri; a'r rhan fwyaf o fon- eddigion a tfermwyr cyfrifol y gymmydog- aeth. Ar ol ciniaw, cyhoèddodd y Llywydd ranniad y Gwobrau, yn ol penderfymad Mr. Watkins, Fforddláwr, y Barnwr ar yr anif- eiliaid, a Mr. J. Evans, Alltycadno^ Arolyg- wr yr etíin,&c. fel y canlyn:— Rhywiogaeth Henffordd. Am yr hen darw goreu, i Mr. Jones, Cynghordy. Am y tarw blwydd goreu, i Charlea Bishop, Ysw. Am y fuwch oreu, i'r un. Am yr anner gyflo oreu, i Mr. William Jeffreys, Panteg. Am yr anner flwydd oreu, i Edward Jones, Ysw. Rhywiogaeth Castellmartin. Am y fuwch oreu, i Mr. Jones, Llwyn- dewi. Am yr anner gyflo oreu, i Mr. Davies, Neuaddfach. Anifeiliaid Ucheldir. Am y fuwch goch oreu, i Mr. D. Price, Penrhiw. Am yr anner goch oreu, i Mr. D. Josepb, Aberdyfnant. Am yr anner flwydd goch oreu, i'r un. Am y fuwch ddu oreu, i Mr. D. Price, Penrhiw. Am yr anner ddu gyflo oreu, i Mr. M. Rees, Tyngwaun. Am yr anner flwydd ddu oreu, i'r un. Defaid. Am yr hen hwrdd iseldir goreu, i Cbarles Bishop, Ysw. Am'yr hwrdd ieuansc iseldir goreu,i'r un. Am y nifer goreu o ddefaid iseldir, i Mr. William Jeffreys. Am yr hen hwrdd ucheldir goreu, i Mr. M. Rees. Am yr hwrdd ieuangc ucheldir goreu, i'r un. Am y nifer goreu o ddefaid ucheldir, i Mr. James, Maesygwandde. Gwobrau ychwanegol gan Foneddigion. Gan Edward Jones, Ysw. 2p. lOs. am yr eidion coch ucheldir goreu.—I Mr. Evao Davies, Uanerchgoch. Gan Charles Bishop, Ysw. Cwppan Arian, am y tarw blwydd goreu.—I Charles Bi- shop, Ysw. Gan Charles Bishop,Ysw. Cwppan Arian, am y l'uwch a llo goreu.—I Charlea Bi- shop, Ysw. Gan Mr. Williams, o Manest, Tair Punt, am y pâr goreu o anneirod dwyflwydd cyflo. —I Mr. D. Jeffreys, Ystradwalter. Gan D. Jones, Ysw. Glanbrane Park, Cwppan Arian, am y ceflyl marchogaeth goreu, rhwng pedair aphum' mlwydd oed.— 1 Charles Bishop, Ysw. Gan Mr. D. Prosser, Ieuaf, Dwy Bunt, am yr eboles oreu at dynnu.—1 Mr. D. Jeflreys, Ystradwalter. Sychu Tir. I Mr. Jaraes, Maesygwandde, Erfin. ì.— I'r Parch. John Morgan, Talyrbya. 2.—1 Edward Jones, Ysw. Cloron heb eu barnu etto. Fferm yn cael ei thrin oreu. 1.—I Edward Jones, Ysw. S.—I Mr. D. Jeftrey», Ystradwalter. Coed Âfalau. I Charles Bishop, Ysw.~60 preo.