Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HANESION, &c. 359 Gtcenyn. I Lewis Davies, Pontprenareth,—9 cwch. Gwasanaeth-ddynion. 1.—I John Jones. gyda Mrs. E. Lewis, Pantmeinog.—14 mlynedd. 2—1 Morgan Davies, gjda Mrs. Jones, Dolegoy.—9 mlynedd. 1.—I Elizabeth Jones, gyda M. Hughes, Glanerth.—16 mlynedd. Yn ystod y prydnawn, traddodwyd amryw areithiau rhagorol perthynol i'rachlysur; a chynnygiwyd Gwobrau ychwanegol erbyn y flwyddyn nesaf; ym mhlith y rhai yr oedd Cwppan Arian, gwerth Deg Gini, gan yr Anrhydeddus Filwriad Trevor, A. S.; a Chwppanau Arian.gwerth Pum' Gini yr un, gan David Jones, Ysw. Glanhrane Parlc, Edward Jones, Ysw., Charles Bshop, Ysw., &c. &c.; ac aeth yr holl gjfarfod heibio er boddlonrwydd cyftredinol. ATTAFAELIAD MR. O'CONNELL. Attafaelwyd yn Mr. Daniel O'Connell, a'i fab John, yn Merrion Square, Dublin, bore dydd Sadwrn, y 14 o Hydref! Y mae cynniweirfa OConnell yn ddiweddar wedi bod braidd yn fwy enbydus nag erioed ! Bu droion a thruion yn cynhyrfn y Gwyddelod, gyda golwg ar ddattod yr Undeb rhwng yr Iwerddon a Phrydain; ond pan fyddai Ar- glwydd John Russell a'i gyd-Weinidosion Whigaidd yn llyfu digon aino,ac yn aherthu Protestaniaeth ar ei allor, yr oedd O'Con- nell yn llarieiddio,ac yn rhoddi heibio ei gynhyrfiadau! Yr oedd digon o resymmau gan Ó'Connell i foddloni y Gwyddelod dros gynhyrfu, a digon o resymmau ganddo i'w boddloni i roddi y cynhyrfiadau heibio! Pan fyddai y Whigiaid yn croesi ar gyn- lluniau O'Connell, yr oedd O'Connell yn chwythu yn ei chwibanogl, ac yn gosod y Gwyddelod mewn cyflro ; a phan fyddai y Gwyddelod yncyrlro, yr oedd yGweinidog- ion Whiaaidd yn dyf.'d i gome lo, ac yn syrthio i mewn â'i drefniadau ef. Er mwyn dyrysu Gweinidogaeth Syr Robert Peel, cymmerodd O'Connell at ei hen gamp, ac y niae wedi gosodholl Iwerddon braidd mewn cytíro. Yr holl wythnosau a aethant heibio, yr oedd cyfarfodydd lliosog yn cael eu cadw drwy yr holl wlai', i'r rhai yr ymdyrrai mil- oedd o bobl, ac O'Connell yn areithio idd- ynt gan fflamio eu meddyliau â'i holl egni ! Ac yr oedd y cyfaifodydd hyn yn cael eu cadw bob Sabboth ! Casglwyd dros hanner hanner can' mil o hunnau at y fusness hon ! O'r diwedd rhoddodd O'Connell Gyhoedd- iad allan am gyfarfod mawr iawn yn Clon- fart, ac am i'r bobl ddyfod yno mewn dull ac agwedd tìlwraidd! Gan ystyried bod cyfarfodydd o'r natur hyn mor beryglus, rhoes Rhaglaw yr Iwerddon, Iarll de Grey, Gyhoeddiad allan i rwystro y cyfarfod yn Clonfart; ac O'Connell yntau a roes Gy- hoeddiad allan yn ei alw yn ol. Ar ol hyn, daliwyd O'Connell a'i fab loan, am areith- iau a dywediadau bradwrus o'u heiddo mewn amrywiol gyfarfodydd; a hwy a ym- rwymasant ill dau mewn mil o bunnau bob un i sefyll eu prawf pan elwid arnynt. Eu meichiau ydynt Mr. Jeremiah Dunne a Mr. Cornelius M'Loughlin, y rhai a ymrwym- asant bob un mewn pob o bum' cant o bun- nau dros Daniel a John. Dywedir bod o ugain i ddeg ar hugain o foneddigion eraill yn yr un gorsag O'Connell; dywedir hefyd eu buj yn cael eu cyhuddo o fradwriaeth. Ymae ysir hon ynawr yn llawn o Bolice a Milwyr, a bydd eu traul ynghylch chwech cant o bunnau y mis. Y mae berw y wlad yn arswydus oblegfd y draul hon, ac y mae yn enbyd meddwl am y fath beth ; ond y gwir ydyw, mai cyflwr terfysglyd ac anhy- wailh y sir sydd wedi achosi y draul fawr hon! Pa beth sydd i'w wneuthur! Ai gadael y bobl i'w rhwysg dinystriol? Ai eu gadael i losgi tai ac ydlannau, a churo, llindagu, a lladd dynion ? Y mae yn iawn i ddynion ddwyn cospedigaethau eu han- wiredd ; ond y mae yn drueni mawr na ellid rhoddi y baich presennol ar ysgwyddau y rhai ag ydynt yn galw am y Police a'r Mil- wyr. Pa le y mae Evan Jones, Crugybar, yn awr? Pan ydoedd y gwr hwn yn pre- gethu cyrddau gweddí y menywaid, dywed- odd ym Mhentref tŷ-gwyn, fod y menywaid yn cael pob peth gan y nefoedd! Os felly, A fyddai ddim yn beth o'r goreu i Evan eu gosod ar waith i dreio eu hinterest yn y Ilys fry, g>da golwg ar attal cjnniweirfa Becca, os ydyw gweithredoedd Becca yn blino rhywbeth arno! Y mae y Methodistiaid wedi treio eu hinrerest; ac ni a obeithiwn y llwjddanl tua Chilycwm, a mannau eraili. TRAMOR. FFRAINGC. Y mae arfau y Ffrangcod yn dra Uwydd- iannns yn Algiers, ac y mae buddugoliaeth- au pwysig wedi eu hennill ganddynt yno yn ddi«eddar. Medi 20, y Milwriaid Gery ac O'Reifle a ruthrasant yn ddisymmwth ar wersyll Abd-el-Kader, yn Assian Turcin. Ni chafodd yr Emir orid prin amser i ddi- angc ; ond wedi cyrhaedd y mynydd cyf- agos, cynnullodd ei luoedd gwasgaredig, a gwnaeth wrthwynebiad dewr, gan ymladd ei hun yn wrol ym mlaen y fjddin, ac an- nog ei wyr meirch i jnmsod ar y gelynion. O'r dinedd, o herwydd lliosogrwydd ei CHINA. Y mae ammodau yr heddwch a wnaed rhwng y wlad hon a China, yn debyg o sicihau llwyddiant masnachol i'r ddwy wlad ; ac yn ol pob argoelion, y mae awydd cryf yn y ddwy blaid i'w cadw yn ddihalog. Ymddengys bod cydweithrediad tra dy- munol rhwng Syr Henry Pottinger, ein