Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

EGLWYS WLADWRIAETHOL. 333 5. Josiah. Ceir hanes y brenhin duwiol hwn yn 2 Cron. pen. 34. a 35. Yr oedd y wlad wedi cael ei dwyn i iselder mawr gyda golwg ar grefydd dan deyruasiad Manasseh, tad Josiah ; ac er i Manasseh edi- farhau am ei bechodau gynt, etto yr oedd y wlad ym mhell iawn yn ol mewn crefydd pan ddaeth Josiah i'r orsedd. Rhoddir ei gyrameriad gan yr hanesydd ysprydoledig yn yr ym- adroddion canlynol:—' Ac efe a wnaeth yr hyn oedd union yng ngo- Iwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffyrdd Dafydd ei dad,ac ni ogwydd- odd ar y Uaw ddeheu nac ar y llaw aswy.' Yn awr y mae yn deilwng 0 sylw, mai gwneuthur yr hyn oedd union yng ngolwg yr Arglwydd, yn ei berthynas â Josiah brenhin Juda, ydoedd gweithredu yn swyddogol fel brenhin yn achos crefydd, fel y canlyn :—Glanhau Juda a Jerusa- lem oddiwrth yr uchelfeydd, a'r llwyni, a'r delwau cerfiedig, a'r delwau toddedig ; distrywio allorau Baalim, cyweirio tŷ yr Arglwydd ei Dduw, cynnal pasg i'r Arglwydd yn Jerusalem,ac adfywio crefydd trwy y wlad yn gyífredinol. ' Felly Jo- siah a dynnodd ymaith y ffieidd-dra i gyd o'r holl wledydd y rhai oedd eiddo meibion Israel, ac efe a wnaeth i bawb ar a gafwyd yn Is- rael wasanaethu, sef gwasauaethu yr Arglwydd eu Duw. Ac yn ei lioll ddyddiau ef ni throisant oddiar 01 Arglwydd Dduw eu tadau/ 6. Cyrus. Cafodd Cyrus y llwyth- au etholedig yn y caethiwed ; a gwladol hollol oedd ei gyhoeddiad o'u gollyngiad yn rhydd, modd yr elent adref i'w gwlad eu hunain, ac y preswylient yn eu hen anneddau gynt. Cymmaint a hyn, a dim yn ychwaneg,a allasai wneuthur i feib- ion y gaethgìud yn ol egwyddorion Ymneillduaeth, sef nad oes gan lywodraethau gwladol hawl i ymyr- raeth mewn matterion crefyddol; oud yr oedd y nefoedd wedi torri allan lwybr arall i Cyrus; ac yng ngwên a than foddlonrwydd hollol yr Hollalluog, cymmerodd grefydd plant y gaethglud hefyd dan ei ym- geledd ; ac oblegid iddo wneuthur hyn, er ei fod yn bagan, gelwid ef gan Dduw, ' Fy ngwas Cyrus.' Ië, oblegid i Cyrus ymyrraeth yn achos eglwysig y genedl Iuddewig, yr oedd yu was i Dduw, ac yn cyflawnu ewyllys y Goruchaf. Gyda golwg ar Cyrus fel ymgeleddwr y grefydd Iuddewig, y llefara yr Arglwydd am dano, yn Esay 44. 28. fel y can- lyn:—' Yr hwn wyf yn dywedyd wrth Cyrus, Fy mugail yw, ac efe a gyflawna fy holl ewyllys: gan ddywedyd wrth Jerusalem, Ti a adeiledir; ac wrth y deml, Ti a sylfaenir/ Dyna fel y rhag-ddy- wedai y brophwydoliaeth am dano, ac fel y canlyn y gweithredodd Cyrus mewn ífordd o gwblhad i'r brophwydoliaeth. Ezra 6. 3, 8, 9. ' Yu y flwyddyn gyntaf i'r brenhin Cyrus y gosododd y brenhin Cyrus orchymmyn am dŷ Dduw o fewn Jerusalem, Adeilader y tŷ, y fan lle yr aberthent aberthau. A'r hyn fyddo angenrheidiol i boeth-offryra- mau Duw y nefoedd, yn eidionau, neu yn hyrddod, neu yn ŵyn, yn yd, yn halen, yn win, ac yn olew, yn ol yr hyn a ddywedo yr offeiriaid yn Jerusalem, rhodder iddynt bob dydd yn ddibaid. Fel yna yr oedd Cyrus wedi gorchymmyn, gyda go- lwg ar gadw y grefydd Iuddewig i fynu yn Jerusalem ; ond pa fodd y gellid ei chadw i fynu ? ac o ba le yr oedd ei thraul i ddyfod ? oblegid yr oedd yn awr yr Iuddewon wedi myned yn dlodion iawn fel oenedl. Pa beth yn well oeddynt hwy o gy- hoeddiad Cyrus, a hwythau heb fodd i gynnal eu crefydd ym mlaen ? Yr oedd Cyrus wedi darbod ar gyfer hyn hefyd ; oblegid wele ran o'i gyhoeddiad i'r perwyl hwn :— ' Gosodais hefyd orchymmyn am yr hyn a wnewch i henuriaid yr Iudd- ewon hyn wrth adeiladu y tý Dduw hwn; mai o gyfoeth y brenhin, sef