Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

334 EGLWYS WLADWRIAETHOL. o'r deyrnged o'r tu hwnt i'r afon, y rhoddir traul i»r gwyr hyn, fel na pheidio y gwaith.' Er i Cyrns weithredu yn erhyu calon cyfun- draeth yr Ymneillduwyr, galwyd ef yn Fugail Dnw, a hynny oblegid y pethau canlynol:—1. Gollyngodd Israel yn rhydd. 2. Gorchymmyn- odd am ail-adeiladu y deml. 3. Rhoes gyfarwyddyd ar fod i draul yr aberthau gael ei thalu o deyrn- ged y wlad oedd tu hwnt i'r afon ; a thrwy wneuthur fel hyn, ac nid fel arall, cyflawnodd ewyllys y Gor- uchaf Arglwydd. 7. Darius. Ni chyflawnwyd cy- hoeddiad Cyrus ond mewn rhan ; eithr yn gymmaint a bod y nefoedd wedi penderfynu adferu y genedl Iuddewig a'i gwasanaeth crefyddo) i'w gogoniant cyntefig, nid oedd yr ofiferynnau at ddwyn hynny oddi amgylch yn ddiflfygiol; oblegid y mae calonnau brenhinoedd yn llaw Duw, ac y mae y Goruchaf yn llyw- odraethn ym mrenhiniaethaudynion. Gosododd Darius orchymmyn; a chwiliwyd yn nhý y llyfrau, Ue ced- wid y trysorau yn Babilon. Ac yn Achmetha, yn y llys yn nhalaith Media, y cafwyd llyfr yn yr hwn yr oedd cyhoeddiad Cyrus Avedi ei ys- grifennu.. Rhoes Darius gyhoedd- iad Cyrus yn uniongyrchol mewn grym, gan ddywedyd,' Myfi Darius a roddais y gorchymmyn ; gwneler ef yn ebrwydd.' Dyma ymyrraeth arall, gan frenhin cenhedlig, ym matterion crefyddol yr Iuddewon ; ac ysgogwyd ef at y gorchwyl gan y nefoedd ei hun. 8. Artaxerxes. Gweddiai yr Iu- ddewon yn barhaus am i bob rhwys- trau gael eu symmud oddiar y flfordd, er mwyu eu hadferiad hoüol yn ol i wJad Canaan; ar fod i gyhoeddiad Cyrus gael ei roddi mewn cyflawn weithrediad gyda golwg ar adeiìad- aeth y deml, ac adferiad y gwasan- aeth dwyfol; ac mewn ttttebiad i'w gweddiau cynhyrfwyd Artaxerxes, ac efe a roes allan y cyhoeddiad yn Ezra, pen. 7. ' Beth bynnag yw gorchymmyn Duw y nefoedd, gwnel- er yn ddyfal i dý Dduw y nefoedd : canys pa ham y byddai llidiawg- rwydd yn erbyn teyrnas y brenhin a'i feibion? A phwy bynnag ni wnelo gyfraith dy Dduw, a chyf- raith y brenhin, gwneler barn yn ebrwydd arno ef; pa un bynnag ai i farwolaeth, ai i'w ddeol, ai i ddirwy o dda, ai i garchar/ A rhag i neb dybied mai mympwy dynol a chnawdol y brenhin ei hun ydoedd defnyddio ei awdurdod wladol ym mhlaid y grefydd Iuddewig, y mae yr hanesydd ysprydoledig yn mol- iannu Duw yn yr ymadroddion can- lynol,—* Bendigedig fyddo Argl- wydd Dduw ein tadau, yr hwn a roddes fel hyn yng nghalon y bren- hitiy i harddu tŷ yr Arglwydd, yr hwn sydd yn Jerusalem/ Sylwir, yn olaf, Bod y cyssylltiad rhwng eglwys a gwladwriaeth o'r fath natur, fel na allesid ei ddattod heb orchym- myn pendant oddiwrth Dduw. Nid oedd eisiau gorchymmyn pendant gyda golwg ar ddefodau goruch- wyliaeth Moses, oblegid cysgodau ac arwyddion oeddynt; canys fel y canlyn y dyweda St. Paul am y bwydydd, y diodydd, y dyddiau gwyliau, y newydd-loerau, a'r Sab- bothau, yn Col. 2.17. ' Y rhai yd- ynt gysgod pethau i ddyfod ; ond y corph sydd o Grist.' Ac yn Heb. 10. 1. dyweda yr Apostol fel hyn :— 'Oblegid y gyfraith, yr hon sydd ganddi gysgod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau.' Nid oedd angen am orchymmyn i alw yn ol yr aberthau, yr oflfrymmau, a'r holl ddefodau cysgodol; oblegid sylweddwyd hwynt yng Nghrist, ac felly yr oeddynt yn darfod, ac yn ymddeol yn naturiol o'r golwg o honynt eu hunain. Nid ar yr un tir, neu ar yr un seiliau, yr oedd undeb eglwys a gwladwriaeth, a defodau yroruchwyliaeth luddewig; oblegid nid oedd yr undeb rhwng