Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PREGETH 335 eglwys a gwladwriaeth yn gysgod o ddim, o ganlyniad nis gallasai ddif- lannu ymaith gyda y cysgodau. Y mae hawl babanod i fedydd yn sefyll yn hollol ar yr un tir a phar- had y cyssylltiad rhwng eglwys a gwladwriaeth. Diflannodd yr en- waediad gyda chysgodau ac arwydd- ion eraill y cyfammod Abraham- aidd, oblegid mai cysgod ac arwydd ydoedd; ond yn gymmaint a bod yr Ysgrythyrau yn fud gyda golwg ar fod Siarter breinniau babanod wedi ei alw yn ol gan yr orsedd, ystyrir hwynt gan yr Ymneillduwyr yn yr un berthynas â Duw, a bedyddir hwynt, ond gan y Bedyddwyr. Yr Ymneillduwyr ag ydynt dros fedydd babanod, a ofynnant ym mha le y mae y Siarter a gynnwysa hawliau babanod wedi ei gyhoeddi yn ddi- rymedig; oblegid nid cysgod oedd eu perthynas â Duw, ac âg eglwys Dduw, ond egwyddor sylweddol ym mreinlen y cyfammod. A phwy a all eu beio am hyn, oblegid dyma begwn y ddadl ? Ym mha le y mae y cyssylltiad a'r undeb rhwngeglwys a gwladwriaeth wedi ei gyhoeddi yn egwyddor ag sydd wedi peidio, ac nid i'w rhoddi mewn ymarferiad ond hynny? Y mae yn rhaid cael hyn, neu y mae yr egwyddor yn aros yn barhaus, ac a arosa hyd ddiddymiad Siarter yr Eglwys. Ond y mae hyn heb ei wneuthur; a'r canlyniad ydyw, bod yr Eglwys yn aros yn ei breinniau hyd y dydd hwn. (I'w barhau.) PREGETH. Ezra 8. Vl—23. "Ac yna wrth afon Ahafa y cyhoeddais ympryd, i ymgystuddio ger bron ein Duw ni, i geisio ganddo ef ffordd union i ni, ac i'n plant, ac i'n golud oll. Cynys cywilydd oedd gennyf geisio gan y brenhin fyddin, a gwyr meirch, i'n cyn- northwyo rhag y gelyn ar y ffordd : canys Hel'arasem wrth ybrenhin, gan ddywedyd, Uaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a'i ceisiant ef, a'i gryídwr a'i ddigter yn erbyn pawb a'i gadawant ef. Am hynny yr ym- prydiasom,ac yr ymbiliasom â'n Duw am hyn; ac efe a wrandawodd arnom." Megis ag y mae dyn yn caru ac yn mawr hoffi golud, yn gydradd y mae efe yn cashau ffug-dlysau: ac megis ag y mae dyn yn parchu yr hyn sydd ym mhell tu hwnt i fesur neu bris, ac yn llawer mwy gwerth- fawr nag aur; yn yr un modd y mae efe yn llwyr gashau un math o ragrith, yr hyn nid yw ond peth ffugiol yn unij. Nid gair Duw yn unig sydd yn dwyn tystiolaeth yn erbyn yr hyn oll ag sydd yn dwyllodrus a rhagrithiol, ond y cyflawniad o hono a'i cyhudda. Ei weithgarwch yng nghalonnau y duwiolion, a saif yn dyst ffyddlon yn erbyn pob rhagrith a rhith- nodweddiad yn nydd y farn olaf. O herwydd yn y dydd hwnnw y ceir gweled yn eithaf amlwg, nad oes un sefyllfa o ddynion wedi bod, yn bod, nac i fod etto, nas gallasai gras y nefoedd fodoli yn eu mynwesau, pa un ai brenhinoedd fyddont, neu gardottwyr tlawd yn hel eu tocc o ddrws i ddrws. Yn awr, yr oedd y selyllfa ym mha un yr oedd Ezra, mor ddyrus a gwasgedig ag a fedr un math o feddwl ddychymmygu. Yr oedd yn gorfod ymdrechu ac ymwrio yn erbyn diystyrwch, gwawd, a gwrthwynebiad y paganiaid; ac hefyd yn peri achlysur iddo sefyll yn wrol yn erbyn halogrwydd a llygr- edigaeth yr Iuddewon. Yr oedd efe yn medru dal i fynu oddi tan feichiau trymion yr holl anhawsderau hyn, ac yn ymegnio trwyddynt; 'Canysefe a ymwrolodd fel un yngweled yr anweledig.' Heb. 11.27. Pe darllenech y pennodau o flaen yr hon o ba un y cymmerwyd y testun, chwi a wel- ech yn ddigon eglur yr hyn oedd nodwedd- iad, galwedigaeth, a sefyllfa Ezra. Y mae yn ddiddadl iddo ef gael ei feithrin i fynu a"i addysgu yn y llwybr ysgrythyrol, ac iddo hefyd wneuthur iawu ddefnydd o'i fanteis- ion; a thrwy hynny efe a gyrhaeddodd helaethach gwybodaeth o air y bywyd. Ac yn gymmaint a bod ganddo fawr' zel a pharch gwirioneddol tuag at Dduw, a dy- muniad taer i fod yn llesiol ac yu fuddiol idd ei bobl, darfu iddo ymroddi yn Uwyr, gyda diwydrwydd digyffelyb, gogyfer a chyrhaeddyd y cyfryw gymhwyderau ag oedd yn addas i'r fath sefyllfa odidog ac anrhydeddus. Y mae yn llwyr eglur i ni iddo gyrhaedd gradd nchel o ragoriaeth, a disgwyliodd am gyfleusdra i fod yn werlh-