Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

34G PREGETH. fawr wasanaethgar idd ei bobl. Tra the- bygol ei fod ef yn treulio ei arnser y pryd hynny yn y gwaith o addysgu yr Iuddewon oeddyDt ym Mabilon, yn y fath fodd ag yr oedd eu sefyllfa yn caniattau ; ac yn gym- maint a bod Ezra yn ddyn gwybodus athry- lithgar, ac o gymmeriad rhagorol, darfu i'r brenhin sylwi arno; a'r canlyniad o hyn fu, i Ezra ddeisyf ar y brenhin i roddi caniattad iddo fyned i fynu i Jerusalem; ac fe ganiat- taodd y brenhin iddo ei ddeisyfiad, er mwyn iddo drefnu yr hyn oedd yn perthyn i addol- iad yr Arglwydd,sef Duw y duwiau, ac Ar- glwydd yr arglwyddi. Wedi iddo arferyd moddion addas i wneuthur ei gennadwri yn wybodus i'w frodyr gwasgaredig, efe a gyn- nullodd ei fintai, neu efe a ddaliodd gym- manfa, yn Ahafa. Mae yn dra thebygol íod Ahafa yn dref ar lann yr afon a elwir wrth yr enw Ahafa, yr hon sydd yn arllwys ei dyfroedd i'r afon Euphrates, a hynny yn bur agos i'r dref. Eu cynnulliad i'r cyfryw fan ydoedd er mwyn penderfynu myned ar daith, yr hon nis gorphenwyd nes y cyflawn- wyd yn agos i bedwar mis o amser; ond yr oedd ganddynt lawer cant o filltiroedd i drafaelu. Wel, yn yr un modd y mae taith yCristion; gyrfa hirfaith yw hi. Nid oes dim edrych yn ol, hyd nes dala'r gŵys i ben. Nid oes dim caniattad i ni ofni Pihahiroth na Baalzephon, Migdol dref na'r garw for. Nid oes dim lle i'r Cristion chwennychu cael melusu dyfroedd chwerw Mara, a rhaid iddo drafaelu trwy ddyflryn Baca. Wel, yr oedd eu taith yn fwyaf neillduol trwy y diffeithwch, neu yr anialwch ; ac yn gymmaint a'u bod yn gaeth-lwythedig gan eu plant a'u tylwyth, ac hefyd eu meddian- nau, nid oedd modd iddynt deithio yn hwylus ac yn fuan, ac hefyd nid oedd modd ganddynt i wrthwynebu eu gelynion, pe gwnaethent un math o ruthriad arnynt. Darfu iddynt ddwyn gyda hwynt drysorau gwerthfawr, y rhai a fuasent yn foddion i beri i'r Arabiaid wneuthur ymosodiad ar- nynt, yn gystal ag eraill ag oeddynt yn ar- ferol o ormesu y gymmydogaeth hynny. Mewn achosion o berygl, buasai yn addas ac yn briodol iddynt osod y cais hwn ger bron y brenhin, am ganiattad iddynt gael byddin o filwyr a marchogion, er mwyn eu diogelu a'u hamddiffyn. Y cyfryw gais yn ddiddadl a fuasai yn cael ei wrandaw gan y brenhin, a'i gyflawnu hefyd yn y modd mwyaf ewyllysgar. Ond nid felly y darfu i Ezra ddwyn oddi amgylch yr hyn yr oedd efe yn cyrchu atto; eithr, er mwyn gwneu- thnr dwfn argraphiad ar feddwl Artaxerxes ynghylch gallu a pherffeithiadau y Jehofa, efe a fynegodd yn hyderus, 'gan ddywedyd, Llaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a'i ceisiant ef, a'i gryfdwr a'i ddigter yn erbyn pawb a'i gadawant ef.' Mewn trefn i lefaru ara Ezra, mi a gaf alw eich ystyriaethau yn ddeffrous at y pum' pen canlynol:— I. Ei ymostyngiad a'i ddarostyngiad i Dduw. II. Ei ffydd yn yr Arglwydd. III. Ei weddi. IV. Ei eiddigedd sanctaidd, a thynerwch ei gydwybod. V. Y rhwydd-deb a'r llwyddiant ag oedd yu canlyn ac yn coroni ei ymarweddiad. 1. Yn gyntaf, mi a gaf sylwi ar ymostyng- iad a darostyngiad Ezra ger bron Duw. fMyfi,' medd efe, 'a gyhoeddais ympryd wrth afon Ahafa, i ymgystuddio ger bron ein Duw ni.' Yn awr, chwi a welwch pa fodd y mae i ddyn fyned ym mlaen â'i orchwyl, os ydyw yn chwennych llwyddo. Yr wyf yn meddwl mai Awstin a ddywedodd yn y modd canlynol,—' Y cam cyntaf mewn gwir grefydd yw gostyngeiddrwydd; yr ail beth mewn crefydd yw ymostyngiad ; a'r drydedd gaingc yw hunan-ymwadiad.' Y gwirionedd yw hyn, fy ngwrandawyr; nis gall neb iawn gyflawnu yr hyn a gymmero efe mewn llaw, oddieithr iddo ddilyn yr iawn gynllun; a pha ffordd y mae i bechadur anniolchgar droedio ar hyd-ddi, er mwyn cael gafael yn y gwrthddrych a ddylai garu, ond trwy weddi ac ympryd? Gwrthryfel- wyr ydym bawb wrth nalur yn erbyn y nef, creaduriaid ag sydd wedi parhau yn hir yn ein milwriaeth yn erbyn Duw; ond etto, wele ni o fewn telerau yr addewid, a modd i'n hachub rhaggwaeoeingeni—rhinweddau aberth y groes yr un mor feddyginiaethol heddyw ag oedd ar y groesbren brydnawn— yr un mor achubol a phan y dywedodd wrlh y lleidr, ' Heddyw y byddi gyda mi ym mharadwys'—yr un raor awdurdodol alluog a phan argyhoeddwyd y tair mil—yr un mor sylweddol a phan y dy wedodd, * Dos, ac na phecha mwyach'—yr un mor gadarn yn ei rinwedd ei allu anfeidrol a phan y dywed- odd, ' Lazarus, tyred allan'—yr un mor barod i faddeu beiau rif y gwlith, ag yr oedd i borthi y dorf à phum' torth haidd a dau bysgodyn. Yr un yw efe ddoe, heddyw, ac ŷn dragywydd. Efe yw bywyd y meirw,