Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PREGETH. 337 clustiau i fyddariaid, traed i glcttíon, a tha- fodau i'rmud-ddynion. Creadur ymddibyn- Dol ydyw dyn, a'i holl alluoedd ydynt yn caeleu rhoddi iddo o ffynnon ammhrisiadwy rhagluniaeth Duw. ' Ynddo ef yr ydym yn byw, yn ymsymmud, ac yn bod.' Pwy sydd yn rhoddi cwsg i amrantau dnn, or.d Duw; a hynny yn ol ei ewyllys mewn amser cyf- addas? Ni ddarfu iddo ef erioed roddi hawl i ddyn gysgu yn ei deml; ni ddarfu iddo ef erioed roddi caniattad i ddyn esgeu- luso moddion gras; ni ddarfu iddo erioed foddloni iddo fod yn gysglyd ar lann llynn y moddion. ' Gwrando sydd well nag aberth, ac ufuddhau na brasder hyrddod.' Dyma lais yr Arglwydd yn yr efengyl:—' Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, a chyfüd oddiwrth y meirw, a Christ a oleua i ti.' Y mae yn angenrheidiol i'r byd proffes- edig, yn gystal a'r lliaws dibroffes, gael eu rhybuddio ynghylch hyn. Pobl effro yw pobl yr Arglwydd yn wastad. Nid gwiw cysguahepian mewnrhyfelnaturiol; pa faint mwy mewn rhyfel ysprydol, a ni yn gwybod y medr Arglwydd y bywyd y nos fel y dydd ofyn ein henaid oddi wrthym ? Beth pe byddai y cysgadur yn nheml Dduw yn agor ei lygaid yn y poethlyd lynn o dân brwmstanaidd, sef uffern obry ? O'r fath wae a fyddai yn ei rwygo a'i ddolurio yn ddiat- tal, am ddiderfyn oesoedd tragywyddoldeb! Ac yn wir, dyna a fuasai rlian llawer o wrandawyr, oni buasai tiriondeb a hirym- aros yr Arglwydd yn cael eu dangos tuag attynt. Wel, ynte, deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch. Hefyd, heblaw hyn, y mae llawer o bobl yn ein byd ag sydd yn proffesu crefydd, ac etto yn ymrysongar—yn honni eu hawl ar bob achlysur i'r manylrwydd mwy- af— yn llefaru yn goegaidd iawn, ac mewn modd llwyr anefangylaidd. ' Nis medraf oddef hyn/ medd un; medd y llalJ, ' Nis goddefaf i neb ddodi arnaf, neu gymmeryd y fantais leiaf arnaf.' Megis ag y dywedodd Samuel wrth Saul, os deliwn sylw ar air ac ewyllys yrArglwydd,' Beth ynte yw brefiad y defaid hyn yn fy nghlustiau, a beichiad y gwartheg, yr hyn yr ydwyf yn ei glywed ?' Fel pe dywedasai, Y mae hyn yn hollol anghysson â nodweddiad perthynol i blentyn Duw. Dyn yw y Cristion ag sydd bob amser yn llwyr agored i ddioddefiadau; dyn o feddwl a chynneddfau gostyngedig, a'i olwg yn wustad at Dduw ; bob amser yn dawel, cymmwynasgar, a llariaidd; yn dioddef camwedd, sarhad, a niwed; yn maddeu idd 2T ei elynion, yn gweddio tros ei wrthwyneb- wyr, ac yn gwneuthur daioni i'r rhai a wnant niwed iddo ac a'i herlidiant. Nis medrem fyned ym mlaen, meddai Ezra, hyd nes y byddai i ni mewn modd cyhoedd ym- ddwyn yn .ddarostyngedig i ewyllys yr Ar- glwydd; hynny yw, bod yn ddarostyngedig ac yn isel yn ein hymarweddiad. Yr oedd yn rhaid i Ezra gyhoeddi ympryd a gweddi, er mwyn dangos nad oeddynt yn chwennych cael y fendith, heb gydnabod a chyö'esu ea bod yn hollol annheilwng o honi. Fy ngwrandawyr, byw yn nyffryn gos- tyngeiddrwydd yw y Uwybr mwyaf addas i drin ein matterion tragywyddol ger bron y nefoedd, gngyfer a llwyddo er iechydwr- iaeth ein heneidiau anfarwol! Er prawf o hyn, cofiwch am Abraham, tad y ffyddlon- iaid. ' Wele yn awr,' meddai efe,' y dech- reuais lefaru wrlh fy Arglwydd, a mi yn llwch ac yn lludw. O na ddigied fy Argl- wydd, a llefaraf y waith hon yn unig.' Gen. 18. ü7. Y cyfryw bobl ag sydd yn meddwl ac yn erfyn llwyddo gyda'r Argh\ydd, rhaid yw iddynt iselu a darostwng eu hunain yn y llwch,ac edifarhau mewn liudw. II. Mi a gat lefaru ychydig ynghylch ffydd Ezra. Wel, medd rhyw ud, pa beth a fedd- ylir wrth ei flydd ? Dyma yr atteb a roddaf i'r fath ofyniad:—Ffydd yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled. Yr oedd Ezra yn gweled yr Anweledig, ac yn cym- meryd gafael yn ymgeledd ac ymddiffyoiad yr anweledig""Dduw, am yr hyn oll a ber- thynai i'w anfarwol gysur; oblegid medd efe, ' Mi a gyhoeddais ympryd, i ymgys- tuddio ger bron ein Duw ni, i geisio ganddo ef ffordd union i ni, ac i'n golud oll.' Fel pe dy wedasai Ezra, yr un modd ag y llefar- odd Moses o'i flaen ef,' Onid à dy wyneb gyda ni, nac arwain ni i fynu oddi yma.' Esodus 33. 15. Yr ydym yn myned tua Jerusalem, a'n penderfyniad yw adeiladu yno deml i'r Arglwydd; gan gymmeryd y fantais o herwydd iddo glwyfo calon Cyrus, a brenhinoedd eraill y ddaear, y rhai sydd yn awr yn dechreu meddwl am dalu parch ac anrhydedd i'r Arglwydd, ac i'n cefnogi ni yn ein llafurus benderfyniad o estyn a lled- anu achos Duw. Dyma'r gorchwyl sydd geunym mewn llaw, er bod llawer, sef lliaws mawr o ladron a mwrddrwyr eneidiau ar y ffordd; ac oni fydd i'r Arglwydd ein hyra- ddiffyn yn y flbrdd yr ydym yn bwriadu tra- faelu ar hyd-ddi; os yr Arglwydd a gefna