Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

338 AWDL MOLAWD. arnom, ac ni ddychwel y gelynion yn eu hol, trwy flntai pa rai y gorfydd i ni fyned ar ein cyrch, a'r trysor hwn sydd raid i ni ddwyn gyda ni, nid gwiw i ni ymdrechu; ond os bydd Duw gyda ni, pwy a saif yn ein herbyn ? Pe byddai holl ellyllon y pwll di- waelod yn eu harfogol gynddeiriogrwydd yn ymosod yn ein herbyn, nid oes modd iddynt ein drygu, canys Duw byddinoedd Israel sydd wrth y llyw. Gan hynny, gwe- ddiwch, bobî, mewn difrifwch, am gael cynnorthwy gan Dduw. Mae'r ddaear wedi myned yn wrthryfelgar; braidd yr adna- byddwn gyfaill oddiwrth elyn. Mae uff'ern fel pe byddai wedi ymgynhyrfu yn ein her- byn; mae'r wialen ar ein gwarr; mae'r bwystfíl yn rhodìo oddi amgylch yn rhod- resgar, ac yn uwch ei ben na phennau co- ronog y teyrnasoedd. Fe fu amser y gallesid dywedyd, Heb ollwng gwaed nid oes ma- ddeuant; ond nid felly yn awr; y mae y gwaed wedi ei ollwng, y maey pwrcas drud wedi ei dalu, y mae yr Iesu wedi myned i'r drydedd nef, ac yn eiriol dros droseddwyr. Y mae arnaf ofn a braw annesgrifiadwy, rhag ofn y bydd i'r Arglwydd symmud eìn canwyllbren o'i le, ac ymddwyn attom fel y llefarodd efe trwy enau ei Brophwyd Jere- miah,—* Mi a ddanfonaf gleddyf ar eu hol hwynt, hyd oni ddifethaf hwynt.' Ac O na fyddai yr Arglwydd yn danfon cleddyf yr Yspryd i'n gwlad, er mwyn gosod terfyn ar yr holl anghydfod sydd yn bod yn bresen- nol. Cleddyf daufiniog yr Yspryd a wna yr ystorm hon yn eithaf tawel, fel y byddo tangnefedd a distawrwydd yn weledig hyd yn nod yn y parthau mwyaf gwrthryfelgar. Duw yn unig a fedr roddi i ni ymddiffyniad ac ymgeledd yn yr amser presennol. Y mae ei allu ef yn anfeidrol ym mhlith byddinoedd y nefoedd ac uffern; pa faint mwy ar wyneb ein daear ni? Y mae pob peth o fewn cylchedd -ei allu ef. Pe rhoddai yr Argl- wydd orchymmyn i fyddin o lyffaint weith- redu yn ei achos, wele hwynt yn gongcwer- wyr; pe gorchymmynai yr Arglwydd i'r locustiaid ddyfod at eu difrodwaith, wele Pharao yn synnu; pe byddai i'r Arglwydd ondrhoddi gorchymmyn fy ceullysg ddisgyn o'r awyr, byddai hynny yn foddion i beri i holl flntai yr ymrysonwyr ddal yn ol eu hymddiried mewn braich o gnawd. Heb ei gynnorthwyol allu ef nid oes modd annelu y bwa, na thynnu y saeth i'w grym-redegfa; nac ychwaith ganiattad i'r amddiffynwr egniol annelu ei ddryll, er mwyn diogelu yr hyn oll ag sydd yn dwyn perthynas ft ni ar wyneb daear. Yr Arglwydd yn unig a fedr ein gwarchau yn yr amser presennol. Efe yn unig a all ddiogelu ein breintiau tymhor- ol ac ysprydol. Yr Arglwydd a roddo i ni hawl wirioneddol i ymddibynnu arno, a chalonnog dyst mynwesol mai efe yw ein haul a'n tarian yn oriau tywyll erledigaeth a gorthrymder. Yr Arglwydd yn unig a fedr drefnu y ffordd i ni hwylio ein cerdd- ediad ; efe yn unig a fedr roddi llewyrch a chyfarwyddyd i rodio y ffordd uniawn, i ni, ac i'n plant, ac i'n holl olud. Hyn yw ffydd. Hyn yw parhaus ymserchiad yn y moddion ag sydd yn dwyn oddi amgylch yr hyfryd- edd hynny ag sydd yn dwyn oddi amgylch y gwaith anfarwol ag sydd yn cael ei weith- redu gan yr Yspryd Glân o fewn cylchedd y galon, a thwy hynny yn ei dwyn i adna- byddiaeth o Fab Duw, trwy ddull a modd na fedrwn ni ei ddesgrifio, os bydd y dylan- wadau yn cael eu tywallt yn anfesurol. Yr hwn oedd yn cysgu, pa fodd y dihunwyd ef ? Os gan yr Yspryd, Ilais distaw main ydoedd. Pa fodd y medr y fath ddyn bylh ddywedyd pa ryw swn a'i dihunodd o'i gysgadrwydd ysprydol ? Dihunwch, bobl, o'ch cysgad- rwydd, a gweddiwch yn ddifrifol ar i Dduw amddiffyn ein iawnderau tymhorol, ac i achub ein heneidiau anfarwol. Fe fedr flydd, trwy allu Duw, symmud mynyddoedd tywyll amheuaeth, creigydd serth gwan- obaith, cribog fryniau ofn slafaidd, dyfn- deroedd dyfnion o lygredd tufewnol, twymn ryfeloedd a brwdfrydedd, a gwallgofrwydd gweithrediadol y gelyn mewn tywyllwch dudew o anghariad; sef symmud pob Achan niweidiol allan o'r enaid, a'r gymmydog- aeth hefyd. [Vw gorphen yn y nesaf.] AWDL MOLAWD I Mrs. Lotjisa Jane Oarley, o Blas Tan- y-bwlch, am ei Haelioni digyffelyb i dlodion ei chymmydogaeth, n'i daionii bobgradd. [Parhad o lu dal. 303.] O dani mae'n cadw dynion—ystig, Gwastad weiuidogìon : Amryw bynaws Gymry union,—call, Wyr da a diwall, rai diwyd, eon. Gwên deg ar ei gweinfdogion—a wna, Y mae'n od o dirion; Gwna amnaid ei llygaid ilon Ei gweitbwye yn ddí-gaethion.