Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 102. RHAGFYR, 1843. Cyf. VIII. EGLWYS WLADWRIAETHOL.—(Parhad o tu dal. 229 J Yr Eglwys Gristionogol. Oblegid y cyfnodau a'r goruch- wyliaethau y mae yr Eglwys wedi bod danynt, y mae dynion wedi cymmeryd yn ganniattaol bod tair Eglwys wedi hanfodi, ac nid un ; ac ' y mae y dyb hon wedi bod yn ffyn- nonell llawer iawn o gamsyniadau. Y gwirionedd ydyw hyn, nad oes unrhyw hanfodion newydd yn Eg- lwys y Testament Newydd, nad oeddynt yn Eglwys yr Hen Desta- ; ment; pregethid Crist yn y cys- j godau dan yr hen oruchwyliaeth, J ond pregethir Crist yn y sylwedd o | hono dan yr oruchwyliaeth newydd. I Eglwys Gristionogol ydoedd yr Eg- lwys Iuddewig, yn gymmaint ag mai at ein Harglwydd Iesu Grist yr oedd holl gyfeiriad yr holl gys- godau, a gweled dydd Crist yn neillduol a wnaeth i Abraham law- enychu yng ngwastadedd Mamre. Bu ysgydwad rcawr, a defnyddio iaith ffignrol yr Ysgrythyrau, pan sefydlwyd yr oruchwyìiaeth Grist- ionogol yn yr Eglwys; ond ni ) s- gydwyd haníbdiou yr Eglwys, sef yr athrawiaethau hynny ag ydynt un a digyfnewid, ac a barhant felly hyd pan na byddo amser mwyach. Y niae yr Apostol yn cyftwrdd yn neillduol â'r matter hwn, yn Heb. 12. 26—28. lle y crybwylla am 2W lefaru o'r ddaear, ac am lefaru o'r uef. Darfu i'r llef ar Sinai ysgwyd y ddaear, ac ysgydwodd pregethiad yr efengyl nid yn unig y ddaear, ond y nef hefyd. Yn y cynhwrf hwn, yr oedd y pethau a ysgydwid yn cael eu symmud, a hynny fel yr arosai y pethau nad ysgydwid. Yr oedd pethau allanol yr Eglwys i gael eu hysgwyd, ac felly eu sym- mud ; ond pethau hanfodol yr Eg- lwys ni ysgydwyd, ac o ganlyniad ni symmudwyd. Ac yn wyneb sef- ydlogrwydd a diysgogrwydd pethau hanfodol yr Eglwys, y mae yr Apos- tol yn hyf yn dywedyd, eu bod yn derbyn teyrnas ddisigl; a'r deyrnas ddisigl hon ydoedd y pethau na symmudwyd ymaith. Y mae gor- uchwyüaeth y Testament Newydd yn gyfnod newydd i'r Eglwys ; ac er mwyn gweled yr Eglwys yn myned yn naturiol i'w diwyg, neu ei gwisg- oedd Cristionogol, y mae yn angen- rheidiol bod ychydig yu fanol; ac felly sylwir yn flaenaf, Ar weinidogaeth Ioan Fedydd- iwr. Y mae llawer iawn o ddadleu wedi bod, ac yn parhau, ynghylch gweinidogaeth Ioan Fedyddiwr, sef pa un ai gweinidogaeth Iuddewig neu weinidogaeth Gristionogoì yd- oedd ; ond nid oes un pwngc han- fodol i grefydd yn y ddadl. Yr oedd Ioan yn Iuddew, ac yn Offeir-