Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

IIANESION, &c. 389 ron, y rhai a dderbyniodd oddiwrth ei gyd- swyddogion. Holwyd eraill o'r Police. Dydd Sadwrn. Holwyd William Lewis, casglydd y tollau. Yr oedd wedi deall bod y Beccayddion yn dyfod y noson honno. Clywodd swn y cyrn o ddeutu naw neu ddeg o'r gloch. Carriodd allan ei ddodrefn. Arosodd wrth y drws nes i'r dorf ddyfod, ac ymguddiodd wedi hynny wrth gefn y tŷ, a chlywodd y dinystr yn myned ym mlaen. Holwyd amryw o dystion eraill; oud nid oedd dim o bwys neillduol yn eu tystiolaethau. Cyfododd Mr. Hill i annerch y Barnwyr; ac yna annerchodd y Rheithwyr mewn araeth gywrain a chadarn dros y carcharor, ac ni adawodd ddim heb ei ddywedyd ag ydoedd yn debyg o fod yn ftafriol iddo. Wedi i'r Dadleuydd hwn orphen ei araeth, galwodd Mr. Chambers amryw bersonau ym mlaen i roddi cymmeriad i'rcarcharor. Annerchodd y Dadleuydd Cyflredinol,Syr W. Follet, y Rheithwyr, mewn araeth ddawnus: ac wedi hynny aeth y Barwn Gurney dros gynnwysiad y tystiolaethau, megis yr oeddynt yn dwyn perthynas â'r carcharor. Wedi rhoddi y matter i'r Rheith- wyr, ymneillduasant am ynghylch hanner awr, pryd y dygodd y Blaenor i mewn y rheilhfarn o Euog yn erbyn y carcharor, gan ei gymmeradwyo i drugaredd y Llys mewn modd neillduol, o herwydd ei gym- meriad da blaenorol. Dydd Llun. Gosodwyd David Jones a John Hugh o flaen y barr; y rhai a gyhuddwyd o fod a llaw yn y terfysg a'r dinystriad wrth Bont- arddulas; a phan ofynwyd iddynt ai euog neu dieuog oeddynt, attebasant Euog. Dad- leuodd Mr. Hill yn faith dros gosp fechan i'r carcharorion. Wedi gosod John Hughes, David Jones, a John Hugh o tìaen y barr, y Barwn Gurney a'u hannerchodd fel y can- lyn :—«Y mae pob un o honoch chwi wedi eich cael yn euog o drosedd ag sydd yn uchel iawn yn ei natur; ymgynnullasoch gydageraill yn nyfnder y nos, wedi ymarfogi âg arfau angheuol,ac mewn penderfyniad i'wdefnyddio; ac ymosodasoch yn flaenaf i ddinystrio Tollborth, ac wedf hynny y Toll- dy. Ymgynnullasoch yn y fath nifer, fel yr peddych yn drech na gallu perchennog y tŷ, ynghyd â'i gymmydogion, oni buasai i chwi gael eich rhwystro gan yr Ustusiaid a'r Po- lice ; ac wedi hynny gwnaethoch ddefnydd o'r arfautân oedd gennych,gan aflonyddu ar y trigolion heddychlon. Y mae yr holl amgylchiadau hyn o'r fath natur ag eu hys- tynr yn ddrwg iawn. Anfynych iawn y maent yn cymmeryd lle, ac ni bu ond ych- ydig yn y sir hon. Y mae yr attalfa o'ch cyfarfodydd, yn ol pob tebygolrwydd, wedi bod yn foddion i rwystro y trosedd hwn yn y sir hon. Anhebgorol angenrheidiol ydyw i'r gyfraith gael ei gosod mewn grym, ac i drefn gael ei hadferu. Yr ydych chwi wedi cael eich profì mewn Í>arth pellennig o'r sir, lle nid ydyw teim- adau yn cael llywodraeth ar lèddyliau y Rheithwyr; ac wedi prawf maith,yr ydych chwi, John Hughes, wedi eich cael yn euog; ac yr ydych chwithau, David Jones a John Hugh, wedi cyfaddef eich hunain yn euog. Darfu i'ch Dadleuydd dysgedig, yn briodol iawn, osod o'n blaen yr edifeirwch ag ydych chwi David Jones a John Hugh wedi ei ddangos, ac nid oes tuedd yn y Llys i fod ynanystyriol o hynny; eithr angenrhaid yw gwneuthur esiamplau o rai; ac yn gym- maint a'ch bod chwi wedi byw yn anrhyd- eddus yn flaenorol, dylech gael eich gwneud yn esiampl effeithiol i eraill. Yr ydych cbwi oll yn agored i gael eich alitudio dros y moroedd am eich oes naturiol. Gyda golwg ar David Jones a John Hugh, nid galluadwy i'r Llys roddi barn ysgafnach arnoch chwi, na chael eich alltudio dros y moroedd am sailh mlynedd. Mewn perthynas i chwi, John Hughes, ni all y Llys edrych ar eich achos yn yr un goleuni. Ymddengys eích bod chwi yn flaenorwr, os nid y blaenorydd ei hun, ar y terfysgwyr anghyfreithlon hyn. Y mae y papurau a gafwyd yn eich poccedi yn dangos eich bod yn rhyw fath o swyddwr cyflelyb i gasglwr tanysgrifiadau yn yr achos hwo, ac yn arfer rhyw fath o ddulliau mewn fl'ordd o fygythion ar y rhai na fuasent yn eich dilyn. Cymmeradwywyd chwi i dru- garedd gan y Llys. ac y mae anhawsdra mawr i'r Llys leihau y gosp drymmaf a osodir gan y gyfraith; eithr wedi derbyn cymmeradwyaeth y Rheithwyr, ynghyd â holl amgylchiadau yr achos dan sylw, ded- fryd y Llys arnoch chwì ydyw, bod i chv;i eich gael alltudio dros y moroedd am ugain mlynedd! David Lewis a Lewis Davies a gyfaddef- asant eu bod yn euog o fod a llaw ganddynt yn ninystriad y Tollborth. Rhyddhawyd y ddau; ond i Lewis Davies ymrwymo mewn mewn hanner can' punt drosto ei hun i gadw yr heddwch, ac i ymddangos os byddai galw arno. Morgan Morgan, Esther Morgan, Mar- garet Morgan, Rees Morgan, a John Mor- gan, oll o'r un teulu, a gyfaddefasant eu bod yn euog o ymosod ar y Police. Margaret Morgan i gael ei charcharu am chwech mis, a Rees Morgan a John Morgan am ddeuddeg mis bob un. Rhyddhawyd y Beccayddion eraill. AWGRYMIADAÜ YNGHYLCH LLYFRAU NEW- YDDION. 1 Esponiad ar y Bibl Sanctaidd, yn cyn- nwys Nodau Beirniadol, ar y Rhannau an- hawddaf eu deall o Ysgrythyrau yr Hen Destament a'r Newydd. Wedi eu casglu o waith yr Awduron goreu, hen a diweddar. Gan Owen Williams, Wyddgrug. Cyf- rol III.' Yr ydym o'r blaen wedi crybwyll ac wedi cymmeradwyo yr Esponiad rhagorol hwn, yn yr Haul. Nid oedd yn ein meddiant y pryd hwnnw ond yr Esponiad ar yr Hen Destament yn unig; ond y mae y Gyfrol ar y Testament Newydd hefyd yn ein medd- iant yn awr. Er pan wnaethom y crybwyll- iad blaenorol am yr Esponiad hwn, yr ydym wcdi ei ddarllen yn helaeth, ac yn cofleidio