Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

390 HANESION, &c. y cyfleusdra hwn i'w aîl-gymmeradwyo yn wresog a chalonnog i fyfyrwyr yr Ysgrythyr Lân ; oblesid y mae ynddo yn ddiau ragor- ion, a pherlau wedi eu cloddio allan o fyn- yddoedd yr aur. Y mae yn grynhoad o feddyliau ardderchog, ac heb un math o round about i nyddu matter allan er gwneu- thur edau hir; y mae yr hoel yn cael ei tharo ar unwaith. Yr ydym yn barnu bod Mr. Owen Jones yn yr Esponiad hwn wedi gwasanaethu ei genedl mewn gwirionedd ; ni a obeithiwn y bydd i'r Cymry ddangos y cyfryw chwaeth at yr Esponiad teilwng hwn, fel y gwnant ymdrechiadau, ac aberth- au hefyd os bydd achos,tuag at ei feddiannu. * Ystyriaethau ar fawr bwys Gweddi neill- duol am Dywalltiad o'r Yspryd Glân. Gan y Parch. J. H. Stewart, M. A., Gweinidog St. Bride, Liverpool. Wyddgrug : cyhoedd- edig ac ar werlh gan Elias Jones. 1843.' Llyfryn bychan ydyw; a dywedir yn y Rhagymadrodd gan y Cyfieithydd, bod dros gan' tnü o'r * Ystyriaethau' (sef y llyfryn dan sylw) wedi eu hargraphu yn Saesonaeg ; a'i fod wedi ei gyfieithu eisioes i ieithoedd y ' Ffrangcod, yr Is-Ellmyn, a'r Allmaeniaid.' Dyu enwog mewn ymarweddiad duwiol yw y Parch. Mr. Stewart, yr hwn y mae ei enw yn uchel yn y byd crefyddol; ac y mae y llyfryn bychan hwn o'i waith yn teilyngu derbyniad pawb crefyddol drwy holl Gymru. Y roae megis pe byddai wedi ei gyfansoddi yn y nefoedd ! Gan y meddyliem y bydd i'r' Ystyriaethau' hyn gael eu hail-argraphu yn Gymraeg etto, ef allai y cymmerai y Cyfieithydd yn garedig yr awgrym o'i ddi- wygio oddiwrth ei Style Independaidd, a arferir gan Weinidogion yr Independiaid,o roddi y ceir o flaen y ceffylau. Rhodd o werth, mewn ffordd o galennig i blant a gwasanaeth-ddynion, a fyddai y llyfr bychan nwn; oblegid y mae yn íendith. ' Blodau Ieuainc: Amrywion Prydyddol a Rhyddieithol. Gan Daniel Silvan Evans. Aberystwyth : Argraphedig ac ar werth gan D. Jenkins, &c. Wedi ei gyflwyno drwy ganiattad i Connop, Arglwydd Esgob Tŷ- Ddewi.' Bydded i'r rhai sydd hoff ganddynt brydd- est-waith lawenhau, oblegid y mae Daniel Las wedi parottoi dysglaid o'r danteithion goreu iddynt. Newydd ddyfod i law y mae y llyfr hwn ; ac oblegid diffyg amser a Ue, ni ellir dywedyd am dano ar hyn o bryd, ym mhellach na bod enaid y gân yn ei gyn- nwysiad. Yn ein Rhifyn nesaf, ui a roddwn ddarnau o hono o flaen ein darllenwyr. GOFYNIAD I BRDTUS. Enwog Syr,—Mae hen batriarch o'r Deheudir, a Jack ganddo, ar dramwy drwy y North; a gwerthu llyfrau ac Ismaela y maent. Gyda llyfrau duwiol eraill. hwcs- terir ganddynt Bampblet a elwir • Lladmer- Sdd.' Mae awduriaeth y llyfr efangylaidd wn yn cael ei saddlo ganddynt ar gefn BurjTüs } ond gan fod y Northiaid yn am- gwirionedd y tadogiad, ac yn drwgdybio nad yw hyn ond ystrangc er atteb dibenion neillduol, crefir arnoch chwi, Syr, am osod pen ar hyn. Yr eiddoch yn serchiadus, A thros lawer, Glandyfrdwy. Ab Thomas. f£3" Y mae y tadogiad ym mhob ystyr yn anwireddus ; oblegid nid yw y pamphlettyn dan sylw na mab na bastardd i mi. Ní wyddwn ddim am dano, nes y derbyniais nn o honynt rnewn Ilythyr oddiwrth gyfaill; ac od oes rhyw rai yn ei dadogi i mi,yr wyf yn galw arnynt i beidio gwneuthur hynny rhagllaw, onide.—Bruttjs. ESIAMPLAU TEILWNG i'W GANLYN. 'Parch i'r hwn y mae parch yn ddy- ledus,' medd y Gair; oblegid hynny, anghyf- iawnder fyddai cuddio oddiwrth y Dywys- oeaeth, fawr hynawsedd y diweddar Syr R. W. Vaughan, Barwnig, Nannau, Meirion, yn gostwng dau swllt y bunt yn y flwyddyn ddiweddaf yn rhenti ei holl ddeiliaid; ac hefyd yn addaw iddynt swllt y bunt tuag at welíhau y tiroedd yn y modd a fynnent. Ond bu farw y boneddwr teilwng hwnnw, cyn derbyn y tâl cyntaf wedi y gostyngiad. Wedi hynny, gan fod pob cynnyrch tir yn parhau i fod mor isel, teimlai yr etifedd, unig fab y dywededig Syr Robert, gymmaint dros ei ddeiliaid, fel y bu iddo yntau, nid yn unig gymmeradwyo a chadarnhau gos- tyngiad ei dad,ond hefyd gostwng un swllt yn y bunt yn ychwaneg : felly, y mae y gos- tyngiad oll cystal a phedwar swllt yn y bunt. Pa le y mae ei fath ? Pwy ni hoffai foneddigion yn meddu y fath deimladau a hyn tuag at eu deiliaid gwasgedig? Y gwir yw, yr oedd y diweddar Syr, a'i Lady, yr hon sydd etto yn fyw, yn hynod mewn tir- iondeb a chymmwynasgarwch ; ac efelly yn gwbl yr ymddengys fod ei anrhydeddus fab a'i Lady yntau—yr un mor hawdd ganddynt wrando cŵyn yr anghenus, dilladu y tlod- ion, dysgu yr anwybodus, gofalu am yr am- ddifaid.ac ymweled â'r cleifion a'r gwrag- edd gweddwon yn eu hadfyd. Pa Gymro na ddymuna,—Hir oes iddynt yn y byd hwn, a Duw yng Nghrist yn etifeddiaeth iddynt erbyn ac y byd a ddaw. Hyn yw gwir ddymuniad un o'u gostyng- edig ddeiliaid, dros y lleill oll. Tachwedd, 1843. E. W. FFAGLYDDIAETH ARSWYDUS. Ni chyflawnwyd nemmawr erioed y fath erchyllwaith gan yr adyn gwaethaf y maeei enw yn ysgrifenedig yn y Hechres ddynol, ag a gyflawnwyd ychydig amser yn ol yng Ngogledd Cymru. Cymmerodd y gorchwyl mileinig le ym mhlwyfau Llangwm a Cher- rig y Druidion yn swydd Ddinbych. Dech- reuodd y tân ynghylch un ar ddeg o'r gloch y nos, mewn Ffermdy a elwir y Gaer Gerrig, lle^ y Uosgwyd yr holl dai allan ; ac wylh o anifeiliaid a aethant yn aberthau i'r tân, heblaw yd lawer iawn. Yn uniongyrchol gwelwyd y meddiannau pertbynol i fferm y