Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AMRYWION. 391 Groefaen ar dân. Cynnygiwyd tanio yr yd- lan yno hefyd. Yn un o dai allan y fterm hon,gwas o'r enw Robert Roberts, dwy ar hugain oed, a chwech o loi, a fygwyd i fär- wolaeth. Wedi hyn torrodd tân allan mewn Jlawer o ffermydd eraill; ac yr oedd yr holl ffermwyr y taniwyd eu meddiannau yn ber- thynasau agos i'w gilydd. Gwnaed chwil- iad yn uniongyrchol gan amryw bersonau am y fíaglwr cythreulig, a dilynwyd ei ol o'r Perthillwydion i Tý'nycefn, yr hwn le a gyrhaeddasant erbyn saith o'r gloch y bore. Wedicryn chwilio, cofiwyd bod y cymmer- iad drygionus wedi bod yn y gymmydogaeth, ac wedi bygwth rhai o'r ffermwyr ; yr hwn a ddilynwyd ac a ddaliwyd yn y Bala; a'i enw ydyw rhywbeth Jones. Cymmerwyd ef yn uniongyrchol i Ruthin, o flaen yr Yn- adon; ac nid oes unrhyw amheuaeth nad hwn ydoedd y ffaglwr. Y mae ei gymmer- iad yn arswydus o ddrwg ; a thebygol iawn na wna efe ddihengyd o afaelion y gyfraith, cyn teimlo iddo fod yn ei rhwyd. IWERDDON. Ymae Mr. O'Connell ac eraill yn awr ar y prawf; ond nid oes wybod pa fodd y try pethau allan. Tybir y parha y prawf hwn am wythnosau. Hyspysir yn y Newydd- iaduron gelynol i Weinidogaeth Syr Robert Peel,bod ym mwriad yr Aelodau Gwyddelig beidio ymwyddfodoli yn y Senedd nesaf, ond ymwyddfodoli yn College Green, Dub- lin, a pheidio ufuddhau i unrhy w gyfreithiau a wneir yn Senedd Prydain yn eu habsennol- deb ! Ond odid nad drwy y cleddyf y ter- fynir amryw o'r dadleuon presennol; eithr ni a hyderwn y bydd i Oruwch-Lywiawdwr y bydoedd droi meddyliau pawb at heddwch. TRAMOR. NlD oes ond y cythrwfl a'r terfysg parhaus yn y wlad aflonydd hon, ac y mae yn amlwg ei bod dan farn Duw,a bod phiolau digter y nef yn cael eu tywallt arni o hyd. Y gwr- hydri mwyaf ag sydd wedi caeí ei ddangos yn y wlad hon ddiweddaraf, ydy w y cynnyg a wnaed i saethu a llofruddio y Cadfridog Narvaez. Yr oedd Narvaez yn myned yn ei gerbyd i'r Chwareudy a elwir y Circus Theatro, a chydag ef yn y cerbyd yr oedd M. Boseti a Don S. Bermudes de Castro. Pan gyrhaeddodd y cerbyd ar gyfer Eglwys Partuelli, saethodd dau ddyn ar yr un pryd i'r cerbyd; ac wedi myned ychydig ym mlaen, saethwyd diachefn i'r cerbyd. Gor- chymmynodd y Cadfridog i'r cerbydwr yrru at y Basilios Guardhouse ; ac wrth yrru tuag yno, saethwyd drachefn. Syrthiodd M. Boseti ar fron y Cadfridog, a dywedodd,' Y maent wedi fy lladd.' Gorchymmynodd y Cadfridog yn awr am i'r cerbyd aros, ac efe a ddaeth allan o hono; ond diengodd y llofruddion ymaith. Aeth y Cadfridog i'r Chwareudy, er mwyn tawelu y Frenhines; ac yr oedd ei ddillad yn goch o waed ei gyf- aill Boseti! Unig drosedd y Cadfridog hwn ydoedd ei fod dros gael ufudd-dod i'r cyf- reithiau, ac yn erbyn i bob peth fyned am drawseu gilydd! PRIODWYD, Hydref 25, Mr. E. W. Richards, Llaw- feddyg, mab henaf y diweddar Barch. E. Richards, Tregaron, âg Eleanor Anne, tryd- edd merch y Parch. E. Williams, Llan- drinio. Hydref 25, yn Eçlwys Llandingad, Llan- ymddyfri, Mr. William Morgan, â Miss Mary Price, Glassalltfawr. BU FARW, Er ys ychydig yn ol,er galar mawr i'w berthynasau a'i gyfeillion, yn 24 mlwydd oed, Mr. Joseph Hughes Price, Dolau- gwyrddion, ger Llanbedr, yr hwn oedd yn Fyfyriwr parchus yng Ngholeg Dewi Sant. Aeth y gwr ieuangc hwn yn eisiau ar nos Fercher, Hydref 25, ac nì chlywyd dim hanes am dano hyd y dydd Llun canlynol, pryd y cafwyd ei gorph yn hollol farw yn yr afon Teifi. Tybir iddo syrthio i'r afon yn y tywyllwch, pan yn bwriadu myned i dŷ cymmydog. Hydref 31, yng Nghastellnedd, Benjamín French, Ysw. yn 72 mlwydd oed. AMRYWION. Hirhoedledd.—Bu farw yn ddiweddar, yn Nhregaron, Susannah Rowlands, hen wraig ar y plwyf yn 99 mlwydd oed; yn swydd Wilts, Mary Harvey, yn 103; ac yn Per- shore, Elizabeth Richards, yn 105. Marwolaeth sydyn.—Fel yr oedd dyn yng Nglynn Tarell, o'r enw Thomas Ralf, yn myned aílan yn iach fe1 arferol at ei waitb, torrodd un o'r llestri gwaed ar ei ysgyfaint mewn pwl o beswch, a bu farw cyn gallael cyrhaeddyd yn ol i'w dŷ ! FFEIRIAU CYMRU YM MIS RHAGFYR. Mon.—Aberffraw, 11; Beaumares, 19; Llanfechell, 26; Llangefni, 2, 9,16, a 23.------Caer- narfon.—Bettws, 4; Caernarfon, 5.------Dinbych.---------Abergelau,6; Cerrig y Druidion, 7; Llanrwst, 11; Yspyty Ifan, 2.------Ffiint.—Llanelwy, 15.------Meirionydd — Bettws, 12; Corwen,20; Dolgellau, 16 ; Harlech, 11.------Trefatdwyn.—Llanf'aircaereinion, 22 ; Llan- fyllin,8; Llanidloes, 9; Trefnewydd, 16,------Maesyfed.—Castell y Paen, 15; Llanan- drewes, 11 ; Rhaiadr Gwy, 4.------Aberteifi.—Aberteifi, 19;Llanrhystyd, 21; Llanwnen, 13. ------Brycheìniog—Defynog, Llanfairmuallt, 6; Talgarth, 4; Trefcastell, 11.------Caer- fyrddin.—Llandilofawr, 18; Llandybie, 26; Llannon,12; Penybont,5;Tygwyn-ar-Daf, 19. ------Penfro—Arberth, 11 ; Dinbych. 4 ; Penfro, 14; Tyddewi 11.------Morganwg.—Aberdar, 7; Caerffili, 21; Pont Nicholas, 17; Pontfaen, 5; Weeg, 1.------Mynwy,—Brynbyga, 18.