Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 103. IONAWR, 1844. Cyf. IX. EGLWYS WLADWRIAETHOL.—(Parhad o Cyf. VIII. tu dal. 367 J Y mae yn arwiredd (maxim) a gydnabyddir yn gyffredinol, bod dyledswyddau dyn yn cynnyddu, a'i gyfrifolcîeb yn fwy, yn ol ei orsaf mewn cymdeitbas, a'i gyfleusderau i wneuthur daioni. Dyledswydd pob dyn ydyw gwneuthur cymmaint o ddaioni ag y mae yn ddichonadwy iddo wneuthur o fewn y cylch y byddo yn ymdroi ynddo ; ac nid yw y daioni a wneir i'r corph ddim mewn cydmariaeth i'r daioni a wneir i'r enaid. Ni wna unrhyw ddaioni a wneir i'r corph ond lleshad am- serol; ond y daioni a wneir i enaid a fydd o leshad tragywyddol. Yn awr, yn ol cyfundraeth yr Ym- neiilduwyr, er bod y Pennadur yn yr orsaf uchaf mewn cymdeithas, a'r cyfleusderau amlaf ganddo i wneu- thur daioni i'w ddeiliaid ; etto ni cíianiatteir iddo gan yr efengyl wnouthur unrhyw ddaioni iddynt, ond daioni perthynol i'r bywyd hwn! Dim yn swyddogol gyferbyn a'u diwallu â Gair Duw! Dim yn swyddogol gyda golwg ar wasgaru gwybodaethau crefyddolyn eu plith! Dim yn swyddogoí er mwyn eu go- leuo drwy ddyffryn cysgod angeu tua'r byd aufarwol! Gweinidog Duw er daioni y deiliaid ydyw y Pennadur, yn ol cyfundraeth yr Ymneillduwyr,gyda golwg ar drethi a thollau ysgafn, ac nid gyda goiwg ar eu lleshad ysprydol, fel deiliaid barn a thragywyddoldeb! Yn oi cyfundraeth yr Ymneillduwyr, er bod tywyllwch ysprydol y deiüaid fel hanner nos, er eu bod yn marw o eisiau gwybodaeth, er eu bod yn druenus yn eu moesau, ac er bod drygau aneirif a gofidiau mawrion i'r llywodraeth o'u plegid; etto ni all y llywodraeth yn swyddogol wneuthur dim er mwyn gwellhau pethau ! Dim cymmaint ag adeiladu tý mewn cymmydogaeth anfoesol, ac anfon dysgawdwr yno er mwyn eu dysgu yn rheolau iachusol yr efengyl! Ni chaniatteir i'r llyw- odraeth yn swyddogol wneuthur dim ynghylch crefydd, ond gadael i ddrygau gynnyddu, ac anfoes ym- ehangu, hyd oni ddelo y bobl i wneuthur darbodaeth drostynt eu hunain ar sail y gyfundraeth wir- foddol! Ni all y llywodraeth Bryd- einaidd. yn ol cyfundraeth yr Ym- neillduwyr, gymmaint a rhoddi Bibl i neb o drigolion Hindostan, nac anfon cymmaiot a Chenhadwr i*w dysgu yn ffordd iechydwriaeth yn ol yr efengyl! Peidio gwneuthur dira yn swyddogol mewn perthynas i grefydd, y mae yn debyg, ydyw bod yn weinidog Duw er daioni! Y mae y peth yn myned yn rhy wrthun a chywilyddus i'w ddilyn ; o gan- lyniad ni a adawni lywodraethwyr