Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 106. EBRILL, 1844. Cyf. IX. EGLWYS WLADWRIAETHOL.—(Parhad o tu dal. 19.) Y mae arolygiaeth esgobaethol yn bwngc hollol ysgrythyrol; ond pan fyddo yn gwasanaethu amcan yr Ymneillduwyr, nid yn unig gwad- ant awdurdod yr Hen Destament, ond gwadant awdurdod y Testa- ment Newydd hefyd, gyda golwg ar iawn ly wodraethiad yr Eglwys Grist- ionogol. Swyddau anghyffredinol, meddai yr Ymneillduwyr, oeddynt swyddau Timotheus a Titus ? Onid swyddau anghyffredinol oeddynt yr Apostoliaeth, yr Henaduriaeth, a Diaconiaeth, yn gystal ag Episco- paliaeth, cyn eu sefydlu? Ond pa fodd yr oedd yr Eglwys Gristionogol yn cael ei llywodraethu ym mhell wedi yr amser yr ysgrifen- wyd yr Epistolau at Timotheus a Titus! Gorchymmynwyd St. Ioan gan ein Harglwydd Iesu Grist, i drosglwyddo cennadwriaethau cyra- mysgedig o gerydd a chanmoliaeth at saith Eglwys Asia, o ba un yr oedd Ephesus yn un. At bwy, o dan ysprydoliaeth ddwyfol, y cyf- eiriai efe y llythyrau ? Nid at y gynnulleidfa hon neu arall, neu at yr holl gynnulleidfaoedd a gyfan- soddent y naill Eglwys a'r llall; ond * At angel yr Egwys sydd yn Ephesus ; at angel yr Ëglwys sydd yn Smyrna, &c.' A pha ham yr ys- grifennid at yr angylion yr bersonol fel hyn, onid oeddynt yn swydd- ogol ar y cyfryw Eglwysî, sef ar yr holl gynnulleidfaoedd a gyfansodd- ent y cyfryw Eglwysi ? Yr oedd y saith angel hyn yn arolygwyr ar yr holl gynnulleidfaoedd perthynol i'r Eglwysi crybwylledig ; yr oeddynti wylied drostynt, yn Henuriaid, yn Ddiaconiaid, ac yn gwbl. Swyddogion hanfodol Eglwys Loegr ydynt Esgobion, Presbyters, a Diaconiaid; ac y mae y swydd- ogaethau hyn yn gwbl ysgrythyrol. Presbyters a Diaconîaid ydynt swy- ddogaethau hanfodol y cynnulleid- faoedd yraneillduedig; ond nad yw y ddiaconiaeth ganddynt hwy am- gen na swydd dymhorol. Y gofyn- iad noeth gan hynny, rhwng Ég- lwyswyr ac Ymneillduwyr, mewn perthynas i'r pwngc hwn ydyw, Ai yr un swyddwyr ydyw Esgobion ac Henuriaid ? V roae pob Esgob yn Henuriad ; ond nid ydyw yn canlyn fod yr holl Henuriaìd o'r un gradd a'r Esgobion, er eu bod weithiau yn cael eu galw wrth yr enw Esgobion. Os ydyw bod yr Henuriaid weithiau yn cael eu galw yn Esgobion, yn yn proâ eu bod oll yn Esgobion, y mae y ddadl yn profi gormod ; oblegid profa fod yr holl Henuriaid yn Apostolion, am fod yr Apostol Ioan, (2 Ioan 1. a 3 Ioan 1.) yn galw ei hun yu Henuriad:—'Yr Hen- uriaid at yr etholedig arglwyddes—