Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Hhif. 108. MEHEFIN, 1844. Cyf. IX. EGLWYS WLADWMAETHOL.—fParhad o tu dal. 143.) 4. Bod yr Eglwys yn dysgu bod gan yr Offeiriaid awdurdod i faddeu pechodau. Yr unig ffordd gyfreith- lon i benderfynu y matter hwn etto ydyw, gadael i'r Eglwys lefaru drosti ei hun, sef pa un a ydyw neu nad ydyw yn dysgu yr athrawiaeth hon. Dysga yr Eglwys ni mai Duw ei hun sydd yn maddeu pechodau. Ar ddechreu y Gwasanaeth, dyweda yng ngeiriau St. Ioan, { Os cyfadd- efwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau.'—* Ac a roddes allu a gorchymmyn i'w Weiuidogion, i ddatgau ac i fynegu i w bobl, sydd yn edifarus, ollyngdod a maddeuant am eu pechodau : ac efe a bardyna ac a ollwng y rhai oll sy wir edif- eiriol.'—' Ac a faddeui bechodau pawb y sy ed^feirior—'Tywallt ar- nom amlder dy drugaredd; gan faddeu i ni y cyfryw bethau ag y mae ein cydwybod yn eu hofni.' Gallesid rhoddi amryw ddifyniadau eraili, er dangos pa beth ydyw ath- rawiaeth Eglwys Loegr ynghylch maddeuant pechodau ; ond y mae hynna yn ddigon er dangos ei bod yn iach yn y ffydd. Ac yn awr, heb fyned i wneuthur siarad mwy na mwy ar y matter hwn, gofynnir, A ydyw pregethu a chyboeddi fod Duw yn maddeu pechodau i'r edif- eirìol ddim yu rhan o bregethu yr efengyl ? Yng Ngwasanaeth Ym- weliad y claf, dywedir, * Yna'r ym- ofyn y Gweinidog âg ef, beth ydyw efe, ai bod yn wir edifeiriol am ei beohodau, &c.; ac ar ol i'r claf bro- ffesu ei edifeirwch, a dymnno goll- yngdod, y Gweinidog a ddywed, * Ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a addawodd feddiant i'w Eg- lwys, iollwng pob pechadur a fyddo gwir edifeiriol, ac yn credu ynddo ef, o'i fawr drugaredd a faddeuo i ti dy gamweddau ; a thrwy ei awdur- dod ef a ganiattawyd i mi, y'th oll- yngaf o'th holl bechodau, Yn Enw'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân. Amen.' Y mae hyn yn gwbl gys- son â chyhoeddi maddeuant yn ol yr efengyl i'r edifeiriol. Fel hyn y gweithreda gweinidogion yr Ym- neillduwyr yn y cyfryw achosion, gyhoeddi i'r claf, ar dystiolaeth o*i edifeirwch, fod yn maddeu.' Dvwedodd einHarglwydd wrth ei Apostolion, yn Ioan 20. 23. ' Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt; yr hyn a arall- eirir gan Dr. Doddridge fel hyn, ' Pwy bechodau bynnag a gyhoedd- wch wedi eu maddeu, hwy a fadd- euir;' a diau bod hyn yn esponiad cywir arnynt. Dyma hefyd ystyr yr ymadrodd yn y Gollyngdod,—«Yr wyf yn cyhoeddi i ti, yn ol yr ef- engyl, dy fod wedi dy ollwng oddi-