Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 112. HYDREF, 1844. Cyf. IX. ANGEU, BARN, A THRAGYWYDPOLDEB. Gan yrymddettyd y babell bridd- îyd hon, gan y dymchwelir i'r lludw yr hyn sydd farwol o ddyn, a chan y rhaid i'r bywiotion oll fyned drwy borth marwolaeth; amryw a gwa- hanol yw y duiliau sydd gan ddyn- ion o ymbarottoi erbyn yr ergyd ofnadwy a'u cyferfydd, ac a esyd eu coffadwriaeth am oesau yn y llwch. Rhai a ddarbwyllant eu hunain i'r grediniaeth, nad yw marw ond hir nos da i'wch, bythol anghof, a thra- gywyddol gwsg; ac ar gefn y dyb niweidiol, beryglus, a chyfeiliornus hon,mewn by wyd ymdroantym mhob oferedd, dilynant bob ysgafnder, a chyflawnant bob chwant; a phan ddel y cyfyngder lleiaf i'w cyfarfod, terfynant eu heinioes, ymwthiant i wlad y dirgelion, ac ymddan- gosant yn ddialwad ger gŵydd Rhoddwr bywyd, a'ú holl anwir- eddau yn bentyrrau dirif ar eu pen- nau, yn dechreu eu gwasgu i dra- gywol boenau, loesau, a chaledi. Eraill o well ffydd, ond yn gwbl fyr'r o ymarferiad, a dreuliant oes hir yn hollol ddiofal ynghylch y pethau a berthynant i'w heddwch mewn byd arall; ac er nad amheuant wirion- edd byd yr ysprydion, etto tybiant yr ymdarawant hwy fel eu tadau a'u teidiau o'u blaen, ac nid argyhoeddir hwynt o'u hamryfusedd er unrhyw ymdrechiadau, hyd oni agorant eu 2Q llygaid yn y wlad draw, pryd y bydd y gagendor wedi ei sicrhau, pob gobaith wedi darfod, a hwy eu hunain wedi myned i'r dyryswch mwyaf erioed. Ond y mae rhai, mewn byd gorlawn o helbulon, yng nghanol cenhedlaeth ddrwg a thro- faus,ac mewn amgylchiadau o ddyga galedi ac adfyd, wedi canu yn iach i bob gobaith am gysur yn y creadur, wedi cau eu Uygaid rhag edrych ar waçredd y greadigaeth, ac wedi ym- attal oddiwrth glustfeinio ar swu a dwndwr y byd ; edrychasant hyd y tu fewn i'r llenn, gosodasant eu go- baith mewn lle sicr, ac aethant i gydnabyddiaeth agos âg Arglwydd y byd anfarwol; yn angeu cafodd y cyfryw fywyd, ym mhorth marwol- aeth cawsant drothwy gogoniant; a phan beidiasant â'r byd hwn, oedd- ynt yng nghanol paradwys Duw. Dywedwyd er yr hen amser, eY gwelid rhagor rhwng y cyfiawn a'r drygionus; rhwng yr hwu a wasan- aethai Dduw, a'r hwn nis gwasan- aethai ef; y gyrrid y drygionus yraaith yn ei ddrygioni, ond y go- beithiai y cyfiawn pan fyddai marw; felly angenrhaid yw i ni ystyried, mai nid yn ofer y llefara ysprydol- iaeth, ond bod yr hyn oll a ddy- wedir gan yr Ysgrythyrau Sanct- aidd yn wirionedd, ac y cant eu cwbl gyflawnu mewo perthynas ì