Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 127. IONAWR, 1846. Cyf. XI. CREFYDD YR OES. Yb ydym yn byw mewn oes ag sydd yn cynnyrchu rhyw lawer iawn o fympwyon, a'r mympwyon hyn yn cael eu cymhell ar y werinos dywyll fel hanfodion crefydd ; a phwy bynnag ni dderbyniant y mympwyon hyn fel cynnifer o ddatguddiedig- aethau newyddion o'r nefoedd, a ddynodir o bwlpudau fel gelynion a gwrthwyuebwyr crefydd wir yn y byd. Ýn wyneb y datguddiad y mae Duw wedi roddi o hono ei hun, ac o grefydd, yn yr Hen Destament, y mae yn rhyfedd bod athrawon crefyddol yn gallu twyllo a thywyllu meddyliau dynion fel*ag y maent yn gallu gwneuthur; ond yn wyneb y datguddiad pellach a pherffeithiach ag y mae Tad tirion y trugareddan wedi ei wneuthur o grefydd yn y Testament Newydd, y mae yn fil myrdd mwy rhyfedd bod dynion yn cymmeryd eu darbwyllo i gredu mewn dim, ac i ymddiried mewn cysgod. Bod yr oes hon—yr oes ag sydd wedi gwawrio arnom ni— yr oes ag yr ydym ni yn byw ynddi— bod yr oes hon, yn neillduol felly, ym mhìith holl oesoedd y grefydd Gristionogol, yn oes o dwyll ac o hocced crefyddol, sydd mor amlwg a goìeuni ydydd; ac er profi hyn, nid rhaid ond nodi, a dwyn ger gŵydd darllenyddion yr Haol, ei hysgogiadau presennol yn unig. Y mae maes ffanaticiaeth ger eìn bronnau yn ddi-lenn yn awr, ac nid oes na mantell yn ei oblygu, na chysgod hwyrol yn ei orchuddio, ond pob peth yn wyneb haul a go- leuni, heb farr ar seiet Sasiwn, na chlo egwyd ar ddrws Cynnadledd Cymmanfa, na chwrlid ar ddrysau unrhyw gyfeillachau crefyddol ; o ganlyniad, yr ydym yn gallu rhoddi barn ar yr hyn yr ydym yn ei weled â'n llygaid, ac yn ei glywed â'n clustiau. Yng nghorph y deng mlynedd ag ydynt wedi myned hei- bio, yr ydym wedi gweled llawer iawn o interludiau yn cael eu chwa- reu ar y daflod sectarol; a gallesid nieddwl y buasai y cyfryw inter- ludau cyn hyn wedi alaru dynion ar y cyfryw bethau ; ond yn lle effeithio mewn dull daionus fel hyn, y mae un interlude wedi cenhedlu inter- îudau, dychymmyg wedi cenhedlu dychymmygion, breuddwyd wedí cenhedlu breuddwydion, a goruchyn wedi cenhedlu goruchion, fei nad oes na diwedd na phen draw i'r gor- mod rhysedd ag y mae ein crefydd- olion yft barod ar yr awgrymiad lleiaf i redeg iddo. Flynyddau yn ol, Pwngc Ysgol a Sasiwu y Plant, ydoedd manna, ffynnon bywyd, ac asgwrn cefn crefydd ; pryd yr oedd ysgolion tri, pedwar, a phump o gapeli yn cael eu barwain i Dan