Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAÜL. Rhif. 128. CHWEFROR, 1846. Cyf. XI. YMCHWYDD YR IORDDONEN. Nro oes i neb yma ddiuas bar- haus, oblegid nid ydyw y bywyd presennol ond byrr; ac erbyn ein bod wedi ein geni, a myned drwy ycbydig o raddau einioes, a phrofi rhyw gynnifer o gwppaneidiau chwcrwon y glynn, cymmylau hen- aint a'n cysgodant, y dyddiau blin a'n goddiweddant, a'r dymhestl olaf a'n gwthia o'r byd hwn, a phyrth tragywyddoldeb a'n derbyniant, a ni a sicrheir yn ein cartref anghyf- newidiol. Ym moreuddydd amser, rhifai cyn-drigolion y ddaear eu blynyddoedd wrth y cannoedd ; ond wedi sefyll dymhestloedd yr anial- wch am yn agos i fil o fiynyddoedd, blaengrinent fel derw y goedwig, eu gwreiddiau a bydrent ac a ymrydd- haent, ac ymollyngent i'r priddellau; ac er ys miloedd o flynyddoedd y maent yn frodorion yn y wlad an- farwol ag sydd o'r tu draw i'r llenn. Yn wyneb bod ein gwneuthuriad cyntefig o ddefnydd dadfeiliedg, yn wyneb ein bod oll dan ddeddf mar- wolaeth, a chan na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw, na llygredigaeth etifeddu anllygredig- aeth; y mae yn syndod o'r mwyaf na byddai i'r ystyriaethau difrifolaf ein llywodraethu ni gyda golwg ar y cyfnewidiad a gymmer le arnom yn yr adwy ag sydd rhwng amser a thragywyddoldeb. Mae y nefoedd draw o'n blaen, yn ei holl ogoniant, ac yn ei holl feîusderau paradwys- aidd, i fod yn etifeddiaeth fythol i anwyliaid yr Ion, ac yn artref tra- gywyddol wedi ei barottoi i'r rhai a ymbarottoant gyferbyn a myned. i'w etifeddu; ond fel y mae yn fwyaf galarus i'r meddwl ystyrbwyll, y mae rhyw nifer fawr o blant Adda wedi ac yn colli y nefoedd, a hynny drwy ei haberthu byth ar allor ple- serau munud awr. Ond gan nad pwy sydd wedi, a chan nad pwy sydd yn, ac yn debyg o golli y nefoedd yn ei holl olygfeydd a'i mwynderau ysprydol; yr ydym bawb oll, ag sydd wedi tyfu oddiar y gwreiddyn dynol, gan nad pa nod a fethir gyr- haeddyd gennym,—yr ydym oll yn sicr o gyrhaedd tragywyddoldeb, a'n llygaid yn sicr o dremio ar fyd mawr y dirgelion. Eir drwyddi yma yn rhyw lun, a chyrhaeddir yr adnod ddiweddaf o bennod yr oes yn rhyw fodd; os ymguro â thlodi, a chael profi o wasgfeuon angen yn galed ; os yfed cwppaneidiau ar ol cwppan- eidiau o ddyfoedd chwerwon Mara; ac os lludded a llafur mor galed yn yr anialwch, nes y byddo ein hen- eidiau yn gloesygu ynnom ; ni a awn drwyddi yma, ni a gyrhaeddwn ben ein taith ; a chan nad beth na fydd- wn, yr ydym yn sicr o fod yn frodor- ion yn y byd arall.