Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 130. EBRILL, 1846. Cyf. XI. BUDDIOLDEB YSGRIFENYDDIAETH.—fO tu dal. 78.) Ysorifenyddiaeth a gadwodd ar gael i ni hanes y gwron Llywarch Hen, y bardd urddarawl, pan goll- odd traddodiad yr wybodaeth ara dano, ond yn unig am y fan lle yr anneddai ddiweddaf, geillaw Llan- for, ym Meirionydd, yn yr hwn le y mae * Pabell Llywarch Hen' yn gry- bwylledig hyd y dydd heddyw ; ond Ysgrifenyddiaeth a gofnododd ar du-dalennau hanesyddiaeth Gym- reig rai o weithrediadau gorchestol Llywarch yr hwn a lenwai sefyllfa urddasawl ac anrhydeddus ym mhlith y Cymry yn ei oes ; mai Tywysog ydoedd, yn feddiannol ar Dywysog- aeth wych a elwid Argoed, sef y rhan o Brydain a elwir yn bresennol Cumberland, a rhannan eraill yn gorwedd i'r gorìlewin i Goed Cel- yddon. Heb Ysgrifenyddiaeth, ni chawsid gwybod ei fod wedi treulio rhan o'i amser boreuol yn Llys Arthur, nac am yr ymladdfeydd y cymmerodd ran ynddynt oddi tan y Hyw hwnnw, nac am ei fod yn ŵyr i Brychan Brycheiniawg, o'i ferch Gwawr; ei Ganiadau i Geraint ab Erbin, i Maenwyr, ei Farwnad i Cynddylan o Bengwern, ei Gywydd idd ei hen oedran, Cog Cwm Cuawg, iUrien,ei fod yn bresennol ac yn llygad-dyst o frwydr Llongborth, maí'taw hawdd canfod buddioldeb yr ymarferiad o ysgrifennu, trwy wahanol oesau, ym mysg ein cyd- wladwyr, Uafur ysgrifeniadol y rhai a feddiannir gan amrywiol o enwog- ion Ueenyddawl y Cymry yn yr oes hon, er buddiant idd ein cenedl yn gyffredinol. Eglur yw, mai Ysgrif- enyddiaeth a gadwodd hyd heddyw weithian ein hen Feirdd Derwydd- awl ar glawr ; heb y gelfyddyd hon, ofer edrych odd ein hamgylch yn awr am gyfansoddiadau Beirdd a ganlynasaut ein Aneurin, Taliesin, a Llywarch, mal Meugant, Go- lyddan, Cuhelyn, Meilyr, Gwalch- mai, Cynddelw, Seisyllt, Llywarch ab Llywelyn, Philip Brydydd, Eli- dyr Sais, Hywel VoeI, Madog Dwy- graig, Trahaearn Brydydd Mawr (Casnodyn,) Prydydd yMoch, Pry- dydd Bychan, Òwen Gwynedd, Hywel ei fab, Sypyn Cyfeilìog, Owain Cyfeiliog, Llygad Gwr, Gwyn- fardd Bycheiniawg, ac ugeiniau eraill, hyd amser Iolo Goch, Gruff- ydd ab yr Ynad Coch, Tudur Aled, bimwnt Fychan, Dafydd ab Gwi- lym, Dafydd ab Edmwnt, a chan- noedd yn ychwaneg a állasem eu crybwyll, ac y buasai eu cyfansodd- iadau wedi diflannu, heb ddyfod byth i afaelion y darllenydd, er maint eu medrusrwydd, a gorchested yr ehediaçlau a gwisg Awen. Gwag ymchwil a fuasai edrych am weith- iau neb odd ein hen leenyddion, ae