Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 131. MAI, 1846. Cyf. XI. GWEINIDOGAETH EFENGYL YN ANNIBYNOL AR WEINI- DOGAETH RHAGLUNIAETH. Gan fod testun ein Traethawd yn ymddangos mor ddieithr, ac yn dwyn enw mor estronol, nis gall na chynnwysa amrywiol bethau ag y mae rhag-grybwylliad o honynt ar lawer o gyfrifon yn angenrheidiol. Yr ydym yn cymmeryd Rhaglun- iaeth yma yn ei hystyr helaethaf; hynny yw, i gynnrychioli y rheol- aeth a arfera Duw, yn y bydysawd, ar yr holl ddeddfau, pa mor liosog bynnag, ac o ba ddnsparth bynnag. Etto, yr ydym yn fynych dan yr angenrheidrwydd o ddefnyddio ym- adroddion, a'u defnyddio yn fyn- ychach nag y dymunem, yuglýn â pha rai y mae gwahanol feddyl- ddrychau yn gyssylltedig, fel y gall dyryswch ymddangos rai gweithiau, pan na bydd dyryswch mewn gwir- ionedd ; ond nid i'r ìaith Gymraeg yn unig y mae y gwall hwn yn per- thyn, ond y mae y Saesonaeg yn cyd-ofidio hyd y pryd hwn dan yr un cyffelyb wall. Etto, nid ydyra yn arddel eín Traethawd fel uu ag sydd yn cynnwys ynddo yn hollol a chywir yr egwyddorion a ddifynna ; ond ei fod felly mor agos ag y rnae modd mewu cylch mor fyrr. Wedi y cwbl, nid ydym yn galw arnoch i oddef pob dim, i gredu pob dim, nac i ymaros â phob dim ; ond yn un unig rhoddi i'r hyn a nodasom ei sylw priodol pan rithia. Wedi cynnyg y blaen-nodiadaa hyn, awn rhagom :—* Gweinidog- aeth Efengyl yn anuibynoí ar Wei- nidogaeth ^Rhagluniaeth.' Wrth. ragluniaeth y deallir arolygiaeth Duw dros bob peth ; yr awdurdod * a arfera heb un rhwystr dros holl weithredoedd ei ddwylaw; lle y mae hollalluogrwydd mewn per- ffaith rwysg wedi gosod, trefnu, ac appwyntio yn ol cynghor ei ewyllys ei hun, heb neb i'w wrthwynebu, i ofyn iddo pa ham, na'i gynghori yn ei orchwyl. Llywodraetha ym mrenhiniaethau dynion, gwna â llu y nef ac â thrigolion y ddaear fel y bjyddo da yn ei olwg, ac ni ymgudd dim rhag ei awdurdod ef. Ni ddysgir un peth yn fwy egìur a phenderfynol na hyn:—£ Efe a wna yr hyn a fynnwyf—Pwy fu a gy- nghorwr iddo ef—Nid oes a attalio ei law—Nid yw efe yn rhoddi cyfrif am ddim o'i weithredoedd.' Yma yr ydym yn cyfarfod â gosodiadau hollol bendant, ac à Äosodiadau hollol hunan-orphwysol,íeb reswm i'w roddi am danynt, yn amgen nag mai felly yr ewyllysiodd Efe. Y ffeithiau yr ydym yn eu profi yma a alwn,ermwyn cyfleusdra, ynddeddf- au ; y rhai, er mwyn cyfleusdra ym mheliach, a rannwn yn ddosparth- iadau, megis y ddeddf anianyddol, fferyllyddol, beiriaanol, deimladol,