Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 134. AWST, 1846. Cyf. XI. Y WYNTYLL NITHIO. " Yr hwn y mae ei Wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr-lanha ei lawr dyrnu." Yr oedd goruchwyliaeth seremo- niol yr Eglwys Iuddewig yn am- mherffaith iawn, am na chynnwysai ond cysgodau, ffigurau, ac arwydd- ion tywyllion o bethau ysprydol, anhawdd i'w gweled, oblegid y llenn gnawdol sycìd ar lygaid pob dyn. Yn ol trefii bwriadau arfaethol yr Hollalluog Dduw, diau mai yr or- uchwyliaeth hon ydoedd yr addasaf i gyflwr, sefyllfa, ac amgylchiadau pobl yr ísrael, yn eu ffurfiad cyntefig yn genedl gan Moses, ac am oesau a chenhedlaethau ar ol hynny ; ond ar egwyddorion llydain uniondeb a phurdeb gweinyddiadau llywodraeth y Goruchaf, ni allasai hon sefyll ond am dymhor yn unig. Yr oedd yn cyfyngu Duw yn Dduw i ddeuddeg llwyth yn unig, yn cyfyngu y cyf- ammodau i had cnawdol Abraham, ac yn gosod hydred a lledred gwlad Canaan yn unig orsaf datguddiedig- aethau y nefoedd i blant dynion. Heblaw byn, yr oedd yn oruchwyl- iaeth ammherffaith ac ammhur: o herwydd pa berffeithrwydd ysprydol a allasai fod yn y tarw, yn yr eidion, yn yr hwrdd, yn yr oen,yn y turtur- od, yn y cywion colommenod, ac yn ftdar y to ? A pha burdeb ysprydol 2H a allesid ddisgwyl mewn goruch- wyliaeth yr oedd ei Hoffeiriaid a'u cyllill yn wastadol ar fynyglau rhyw greaduriaid neu gilydd, eu gwisg- oedd yn llychwinedig, a'u dwylaw yn diferu gan waed. Yr oedd dyn- ion Duw gynt, sef y rhai oeddynt a'a bryd ar bethau ysprydol, yn rhag- weled annigonolrwydd yr oruch- wyliaeth hon, ac yn rhagddywedyd am ddilead ei hegwyddorion, am ddiddymiad ei chyfammodau, am symmudiad ei gweinidogaeth, ac am gyfnewidiad ei hoffeiriadaeth, yng nghyd âg am sefydliad goruchwyl- iaeth weli, berffeithiach, a mwy sef- ydlog, dan yr hon y gogoneddid ac y inoliennid y Duwdod gan holl gen- hedloedd y ddaear. Goruchwyliaeth i berffeithio, i buro, ac i lanhau ydyw goruchwyl- iaeth yr efengyl, a goruchwyliaeth i symmud ymaith bob cnawdolrwydd o Eglwys y Duw byw. Dywedodd Malachi am ddydd hon, ei fod yn dyfod, ac yn Uosgi megisffwrn; ac y mae yr unrhyw Brophwyd yn go- fyn gyda phwys,—* Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef ? a phwy a saif pan ymddangoso efe ? Canys y mae efe fel tân y toddydd, ac fel sebon y golchyddion. Ac efe a eis- tedd fel purwr a glanhawr arian : ac çfe a bura feibion Lefi, ac a'u coetha hwynt fel aur ac fel arian, fel y