Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 136. HYDREF, 1846. Cyf. XI. Y DAITH BELL. " Dyn a aned o wraig sydd fyrr o ddyddiau, a llawn o helbul," sydd ymadrodd a ddefnyddiwyd er yn foreu mewn ffordd o ddarluniad o daith dyn yn y fuchedd hon, ac o'r gofidiau a'i cyfarfyddant yn nghorph ei yrfa trwy fyd y mae am wneuthur ei arosiad fyth ynddo, er yn gŵbl analluog i roddi y dedwyddwch hwnnw i'r meddwl y mae mewn ym- chwil parhaus am dauo. "Dyn a aned i flinder, fel yr eheda y wreich- ionen i fynu," sydd wirionedd a gadarnheir yn helynt dyn ym mhob oes ac o dan bob goruchwyliaeth; oblegid y mae yn cael drain yn feu- nyddiol yn ei ystlysau, profedig- aethau parhaus ar ei lwybrau, a thramgwyddiau dyddiol yn ei deith- iau ; hyd onid ydyw ei ocheneidion yn aml, ei riddfannau yn lliosog, a'i ddagrau yn anghyfrifadwy dan bwys y gofidiau a'i hamgylchynant. A " diau mai cwbl wagedd yw pob dyn pan fo ar y goreu," a wirir ym mhob gradd, sefyllfa, a chymmeriad, o'r ^pen coronog i lawr hyd yr iselaf ei alwedigaeth o fewn terfynau holl deyrnasoedd y greadigaeth; oblegid, er uched ei ffroen, er helaethed ei awydd, ac er mor gwmpasog ei fe- ddyliau, y mae ei sail yn y pridd, yr awel wannaf a'i dadymchwel, a'r barug lleiaf a ddeifia ei ogoniant, ac a dry ei holl brydferthwch i'r pridd. 2Q Etto, pan euir dyn i'r byd, a phan gofrestrir ef yn llechres dynolion, y mae'r yrfa sydd ganddo i'w rhedeg, y llwybrau sydd ganddo i'w teithio, a'r helyntion y mae iddo ymwneuthur â hwynt, yn llawn o ryfeddodau, oni fydd iddo noswylio, a darfod â'i weithiau, cyn ei fod braidd yn ym- wybodus o'i fodoliaeth, ac yn deim- ladau o'i hanfodiad. Pe gwybodus fyddai dyn o'i holl deithiau, cyn ymadaw o hono megis â'i annedd gyda llewyrchiad y wawr foreuol— pe hyspysid iddo ei holl gwrydriad- au cyn i'w araser i noswylio ddyfod oddi amgylch—a phe trefnid ger ei ŵydd holl ddigwyddiadau a helynt- ion ei oes, gyda ei gynniweirfa allan —ail fesurai ei gamrau yn ol, eis- teddai, ac ni syflai; ond dywedai, " Nid âf oddi yma." Ond am fod yr amser dyfodol yn gwbl yn y ty- wyllwch, ac amgylchiadau yn gudd- iedig ym mru tragywyddoldeb, cy- chwyna y dyn yn hyderus allan yn y bore, gan attegu ei gred â'r disgwyl- iadau y try pob peth yn dda, y coronir ei ymdrechiadau â llwydd- iant, ac y daw adref drachefn wedi gwneuthur enw iddo ei hun, trwy gyflawnu gorchestion ag a neddir mewn maen mynor, ac a drosglwyddìr i'r oesau mwyaf pellennig. Er bod y cleddyf wedi diblantu niferi anghyfrifadwy o blant gwrag-