Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAÜL. Rhif. 137. TACHWEDD, 1846. Cyf. XI. MYFYRDODAU AR Y DILUW. Wele drwst llawer o wlaw.—Ac yn yr ennyd honno y nefoedd a ddu- odd gan gymmylau a gwynt; a bu gwlaw mawr. 1 Bren. 18. 41,45. YR ACHOS. Ac a lygrwyd y byd mor fuan! mewn tair oes ! cyu i dair cenhedl- aeth fyned heibio ! Do. Y dyn a greasai'r Ion mor brydferth ar ei ddelw ei Hun, a aeth hwnnw eisoes yn hagr fel Baal Sebub, ac yn aflan fel Beüal! Do. A aeth perchen rheswm mor gywrain, yn debyg i'r anifeiliaid a ddifethir, yn lle aros mewn anrhydedd ! Do. A wen- wynodd lefain pechod yrholl glamp toes o ddynolryw, nes lefeiiiio'r cwbl! Do. Ai nid oes neb cyf- iawn ? Nac oes un : gwyrasant oll. Ac y mae Diafol yn crechwennu yn faleisus yn y dinystr a ddygodd ar eppil Adda, ac yn chwerthin am ben Doethineb Duw ! O! wragedd annuwiol y cynddi- luwiaid, chwychwi oedd gyntaf yn y camwedd. Gwragedd dieithr a swynasant yspryd y Gwr Doeth, nes yr aeth yn ynfyttyn ffol. Ei wraig a lithiodd ein cyndad Adda i dorri deddf ei Greawdwr. Gwraig an- nuwiol yr annuwiol Ahab a'i gwnaeth ef yn fwy annuwiol fyth. Od ym- gnawdolodd Satan unwaith yn y 2V Sarph yn Bden, Ilawer gwaith yr ymguawdolodd wedi hynny yn y wraig ddìeithr. Idawer a gwymp- odd hon yn archçÇtedig; 'ie, gwyr grymmus lawèv*ki laddodd hi.—O achos gwraig y cwympodd dynol- ryw; o*fcchos gwragedd v boddwyd ybyd:r-^ Gofyìinodd Israel yn anialwch Paran fwyd wrth eu blys: yr oedd hyn yn drachwant, ac yn bechod. Cymmerth y cynddiluwiaid wrag- edd iddynt o'r rhai oll a ddewisas- ant; yr oedd hyn yn drachwant, ac yn bechod : canys pwy a ddewisodd meibion Duw yn wragedd iddynt? Merched dynion. Yr oedd hyn yn ieuo anghydmarus gyda'r rhai di- gred, ac yn bechod. Ac effaith y priodasau anllad hyn oedd myned o holl fwriad meddylfryd calon dyn yn unig yn ddrygionus bob amser. Edrychodd yr Arglwydd ar ddyn, gwaith ei fysedd, ac wele, drwg iawn ydoedd. Ond nid arnat ti, Arglwydd, y mae'r baí. Mae'n edifar gennyt wneuthur o honot ddyn ar y ddaear, ac yr wyt yn ym- ofidio yn dy galon; oud nid arnat ti y mae'r bai. Beth oedd i'w wneu- thur yn ychwaneg i'th winllan nag a wnaethost ynddi ? disgwyliaist iddi ddwyn grawnwin, hithau a ddug rawn gwylltion. Ti a adeiledaist fur o'i haragylch, ac a'i plennaist o'r