Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 138. RHAGFYR, 1846. Cyf. XI. Y MAB AFRADLON. " A'r ieuangaf o honynt a ddy- wedodd wrth ei dad, Fy nhad; dyro ì rai y rhan a ddigwydd o'r da. Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd. Ac ar ol ychydig ddyddiau y mab ieu- augaf a gasglodd y cwbl ynghyd, ac a gymmerth ei daith i wlad bell: ac efe a wasgarodd ei dda, gan fyw yn afradlon." Mae gwirionedd yr un mor werth- fawr ym mhob man, a than bob amgylchiadau ; ond nid ydynt lith- iau gwirionedd a doethineb yn cael cymmaint o argraph arnom, a phan gyfeirir hwynt at ein calonnau trwy gyfryngau dammegion neu chwedlau. Profa hyn eìn bod yn gyffelyb i'r haiarn, yr hwn ni ellir ei weithio heb yn gyntaf ei boethi; ac y mae hefyd yn brawf o'n bod ni yn eiu cyflwr presennol yn hoíF o allanolion, amgen pa ham yr ydym yn barottach i dderbyn y gwirionedd pan yn wisg- edig mewn sidanau, na phan fyddo yn noeth ac ar ei waelodion ei bun ger ein bron. Ef aliai bod hanes y mab afradJon yn ffaith, a hyuny i'r Uythyren ; yr amgylchiadau a draetìiir wedi cymmeryd lle, a'r hanes yn hyspys y pryd hwnnw i drigolion Jerusalem ; neu, ef allai bod rhai o'r amgylchiadau wedi cymmeryd lle; neu, ef allai mai damtneg drwodd a thraw ydyw yr 2Z hanes ; ond yn cynnwys gwirionedd mawr, a gwiríonedd o bwys i gyfr- golledigiou Eden. Mae yr hanes am y mab afradlon yn fyrr iawn, ond yn gynnwysfawr iawn, a llawer iawn wedi cael ei adael i'w lenwi gan y galon ; y mae yr hanes yn dra distaw ynghylch amrywiol bethau ag y llefara y galou yn ur.hel am danynt; ni chrybwyllir dim am gynghorion gwresog y tad, am ei ymadroddiou twymgar a charuaidd, ác am y dagrau gloywon a redent dros ei ruddiau ar yr achlysur torr- calonnus. Yr oedd y tad yn wr o brofiad a gwybodaeth, ac ni esgeu- lusodd grybwyll wrth ei fab rhy- fygus am ynfydrwydd ei fwriad; am beryglon y daith yr ymbarottoai gyfêrbyn a'i chymmeryd ; am dwyll, hôcced, a maglau y byd ; am ei fod heb arweinydd na chyfaill i'w gy- nghori yn y ffyrdd pell; am y di- nystr yr oedd ei foesau yn agored iddynt; am y drygau aneirif oedd- ynt o bob tu i'w lwybrau ; ac am fod ei fuchedd bresennol a dyfodol yn yr enbydrwydd mwyaf oblegid y daith hon. Diau bod araeth ei dad yn hyawdl, yn rymmus, ac yn er- gydio i'r galon ; ond yn ofer y siar- adodd, ac i ddim y tywalltodd ei ddagrau; oblegidyr oedd y mab yn benderfynol, a phob cynghorion gwrthwynebol i'w benderfyniadau