Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 139. YR HAÜL. IONAWR, 1847. Cyf. XII. CYSSYLLTIAD CREFYDD A'R LLYWODRAETH. Dull dygiad crefydd ym mlaen yn y byd sydd beth a ddylai fod o'r pwys rawyaf gan bob dyn ag sydd yn ei phroffesu fel cyfundrefn ddatguddiedig o eiddo y Duwdod i fyd euog a syrthiedig; obegid peth o'r pwys rawyaf yw cael allan feddwl ei Rhoddydd o berthynas i'w dygiad ym mlaen yn y byd, rhag i ni drwy ein tywyllwch ei chara-ddefnyddio, a thrwy hynny beri iddo ddigiaw wrthym, ac mewn canlyniad sym- mud yr Efengyl allan o'n gwhid, a'n gadael o'r herwydd i ymbaifalu mewn anwybodaeth a choelgrefydd. Bod cynllun wedi ci roddi, sydd wirion- edd anwadadwy ; nad oes ond un cynilun appwyntiedig gan Dduw, sydd yr un mor sicr. Bod y cynllun hwnnw yn angenrheidiol ei gael allan a'i roi raewn gweithrediad, sydd beth a brofir gan ymgais a llafur dynion duwiol ym mhob oes o'r hyd ; #ac ond gwneud yn ol y cynllun a roddwyd, gallwn heb ofn na braw oddef ergydion gelynion gwir gre- fydd, ac ymorphwys yn dawel a di- rwgnach dan nodded ac amddiffyn- iad y Duw tragywyddol. Byddai yn ormod o dasg i mi osod i lawr yma enwau yr holl en- j wadau a honnant eu bod, yn nygiad | eu crefydd ym mlaen yn y byd, yn | cerdded ar linell y cynllun dwyfol. j Felly, âf ym mlaen yug ngwyneb y Bibl, a'r Bibl yn unig, i brofi bod cyssylltu crefydd a'r llywodraeth yn beth ysgrythyrol,buddiol, ac angen- rheidiol yn yr oes hon, cystal ag yn un oes o'r byd. Dywed rhai nad oes a fynno Cristionogaeth â'r Her Destament a'i bethau, i brofi oddì wrthynt unrhyw bwngc perthynol i'r oruchwyliaeth yma. Dyna haer- iad ; ond a gydsaif hynny â'u gwaith hwy eu bunain ? Na wna; oblegid pan fydd arnynt eisiau profi syl- faen eu crefydd,ânt yn uniongyrchol i'r Hen Destament i brofi mai Crist oedd y Messiah addawedig. Hefyd, ânt yno i geisio profi pob peth a ddychymmygo eu calonnau a dueddo i bîeidio eu golygiadau hwy, megis bedydd babanod. Gan, meddynt, fod "babanod yn cael eu henwaedu dan oruchwyliaeth Moses, y mae yn ddiddadl eu bod i gael eu bedyddio dan yr oruchwyliaeth yma. Yn awr, yn ol eu hymresymiad hwy eu hunaín, gan fod cyssylltiad rhwng crefydd a'r Uywodraeth yn amser Moses, y mae i fod dan yr oruch- wyliaeth yma ; ond yu hytrach na syìfaenu èin pwtigc ar ddim llai ua sylfaen safadwy, mi a ddeuaf yn fwy uniongyrchol at y Bibl. Dywed rhai, beth sydd a fynnont hwy â Moses na'i osodiadau: meddynt, Onid Crist yw ein Rheolydd a'n Gosodydd cyfraith ni? Addefwn