Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 149. TACHWEDD, 1847. Cyf. XIL CYNNYDD PABYDDIAETH. Bod Pabyddiaeth yn cynnyddu yn y dyddiau presennol, sydd ffaith anwadadwy ; ac mor wir a bod Pab- | yddiaeth yn cynnyddu, gellir pen- derfynu bod rhyw ddrwg yn neshau, a bod rhyw niweidiau o bwys yn agos. Mae egnion Eglwys Rhufain yn awr yn fwy nag y buont erioed, ac y mae yr egnion hyn ar waith braidd drwy holl barthau y byd; ac yn y deyrnas hon yn neillduol y mae yn myned ym mlaen gyda chamrau buain, a channoedd lawer yn ymrestru dan ei baniar, fel ag y mae ei Uwyddiant yn ddigon i daro pob meddwl Protestanaidd â dych- ryn. Gwir bod Eglwys Rhufain yn haeddianuol o barch gennym, a bod holl Gred dan rwymau iddi, am gadw ac amddiffyn amryw o athraw- iaethau y Testament Newydd, yn wyneb cyfeiliornadau a heresiau lawer; gwir bod amryw o'i Heg- lwyswyr a'i haelodau wedi bod yn addurn i grefydd a duwioldeb, a bod eu gwybodaeth a'u dysgeidiaeth wedi bod yn fendith i'r byd cref- yddol; a gwir hefyd bod llafur, zel, a duwioldeb amryw o'i Chenhadau a'i haelodau, ynghyd â'u dioddef- iadau pan yn cael eu haberthu mewn creulondeb dros eu crefydd, yn arogli yn beraidd. Ond er caniat- tau hyn i Eglwys Rhufain, a hynny yn gydwybodol, y mae ei llwyddiant 2V a'i chynnydd presennol yn ddigon í ddychrynu pob calon wir Brotestan- aidd ; oblegid nid ydyw yr Eglwys hon yn rhodio yn llewyrch diwyrni Gair y gwirionedd, nac yn perffeithio sancteiddrwydd yn ofn yr Arglwydd. Mae Eglwys Rhufain yn Eglwys ormesol; yn Eglwys greulon a gwaedlyd ; yn Egìwys goelgref- yddol iawn ; yn Eglwys gnawdol, ac yn ymwrthod â bywyd ysprydol y dyn newydd a greir yn yr enaid yn ol delw Duw ; yn Eglwys a'i phwys ar allanolion ; ac yn Eglwys ag sydd wedi plygu pob peth i arwain ei haelodau ar ddidro oddiwrth syml- rwydd y gwirionedd megis ag y mae yng Nghrist Iesu, unig lachawdwr a Gwaredwr truenusion y codwm. Ni all un dyn ag sydd a'i feddwl a'i galon yn y goleu gyda golwg ar yr athrawiaethau a ddysgir gan yr Arglwydd a'i Apostolion yn y Testament Newydd, lai na bod yn ofidus, yn drallodedig, ac yn glwyf- edig oblegid llwyddiant presennol Pabyddiaeth, a hynny am fod en- eidiau dynion yn cael eu cau i fynu rhag y goleuni, a'u sicrhau yn Uyff- etheiriau y tywyllwch crefyddol mwyaf ag a ddaeth i'r byd erioed. Nid ydyw gymmaint o achos syndod bod Pabyddiaeth yn llwyddo ym mhlith paganiaid eilun-addolgar; o herwydd y mae y ddwy grefydd yn