Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL Rhif. 153. MAWRTH, 1848. Cyf. XIII. AT Y PARCH. DAFYDD RHYS STEPHEN, MANCHESTER. Barchedìg ac anwyl Syr,—Yr ydym ein deuoedd yn Gymry, chwi a minnau; yr ydyrn felly o waed coch cyfan ; yr ydym yn teimlo ein deuoedd dros genedl y Cymry, ac yr ydym ein deuoedd yn barod i wneutîmr llawer iawn o aberthau dros ein gwlad a'n cenedl. Chwi ydyw Dafydd Rhys Ste- phen, a minnan ydyw Brutus; ac mor belled ag y mae gẃeriniaeth yn gallu llefaru a gweithredu, heb i'r weriniaeth ddarllen, na gwneuthur dim ond a wna gweriniaeth naìll- ochrog, mae y pen praffaf neu y pen goreu o'r ffon yn eich llaw chwi eisioes. Ond yn gymmaint a'ch bod chwi uwchlaw llais gweriniaeth, neu yn gymmaint ag y dylech fod felly, yr ydwyf yn eymmeryd y rhyddid i'ch annerch fel dyn ag sydd allan o lyffetheiriau, neu fel dyn a ddylai fod allan o honynt, ac yn barod i wrando, a siarad, ac ym- gomio â dyn o'r enw Brutus, er dan faich o enwau duwiol a chrefyddol, megis 'Arch-Judas, Ex-Baptist, Ex-Iudependent, &c.' Er cychwyniad eich gyrfa gy- hoeddus ym mhlith ein cenedl ni, y Cymry, hyd yr awr hon, y mae gen- nyf y parch mwyaf diífuant attoch, a chwi a wyddoch hynny ; mae ym- ddiried gennyf ynnoch chwi, ac y mae ymddiried gennych chwithau ynnoffìnnau; ac felly, gyda golwg ar delerau cyfeillgarwch, ni all bod dau Gymro ar well telerau, er na bu dros ddeng munud o gyfeillach bersonol rhyngom erioed; a phe digwyddai i ni ar ddamwain gyfar- fod â'n gilydd ar y ffordd fawr yn bresennol, ni adwaenem mo'n gil- ydd, er yn gyfeillion hatid and heart. Yr ydwyf yn eich parchu yn ddi- ffuant; yr ydwyf yn eich parchu am eich bod yn Gymro, ac am eich bod mor aiddgar dros lwyddìant cenedl y Cymry; ac yr ydwyf yn eich parchu am eich bod yn Fedyddiwr; oblegid y mae y Bedyddwyr, fel enwad crefyddol, ym mlaenllaw ar yr holl enwadau eraill yngNghymru am ddwyn diwygiadau crefyddol ym mlaen. Yr wyf yn eu cyduabod fel sect ag sydd wedi cyhoeddi eì hun, heb ystyried clod nac anghlod, yn barod i gyd-gynnorthwyo i ddwyn ym mlaen ac i berffeithio diwygiad crefyddol yng Nghymru. Chwi a wyddoch fod gennyf y parch mwyaf diffuant tuag attoch; a gŵyr nifer parchus o Offeiriaid yrEglwys Sefydledig hynny, a gŵyr nifer parchus a lliosog o Weinidog- ion yr Ymneillduwyr hynny; ac felly, os teimlwch, neu os gellwch ddarbwylio eich hun eich bod yn teimlo, mewn unrhyw ddull nea