Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 154. EBRILL, 1848. Cyf. XIII. DRYCH CREFYDDOL CYMRÜ. Ddarllenwyr yr Haul,—Pan deimlo gwlad oblegid y llygredig- aethau a'r halogedigaethau a fydd- ont yn ei handwyo, y mae gobaith am ddiwygiad crefyddol y wlad honno: oblegid teimlad gwir yn y galon ydyw y cam cyntaf at wir ddiwygiad. Mae pob math o sef- ydliadau crefyddol yn agored i lygredigaethau ; ond y mae y llygr- edigaethau hyn yn dyfod i mewn iddynt mor araf, mor raddol, ac mor llechwrus, fel na welir hwynt ac na theimlir hwynt; a phan mewn amser yr amlhaont ac y cryf haont, ac yr eisteddont ar orseddau cyn- nulleidfaoedd crefyddol, gan deyra- asu ag awdurdod annibynnol ar y bobl, oblegid cynnefindra â hwynt, nid yn unig ni welir y drygau, oud gwedir eu bodoliaeth. Ymlygrai yr Eglwys Iuddewig yn fynych iawn, gan droi oddiwrth yr Arglwydd, yr hwn a'i dygodd allan o wlad yr Aipht, at dduwiau ac at beehodau y eenhedloedd; a phan yn y cyflwr dirywiedig hwn, ni wrandewai ar leferydd Ior y nefoedd drwy ei Bro- phwydi Sanctaidd ; oblegid yr oedd ganddi brophwydi, offeiriaid, ac athrawon, sail bywioliaethau pa rai ydoedd y Uygredigaethau crefyddol, a mantais pa rai ydoedd ì'r bobl or- phwys ar eu gwaddod, ymdroi yn nallineb eu tywyilwch, a chysgu drwy eu hoes ar yr hwylbrennau, er holl ferw y mòr mawr, a chynddeir- iogrwydd ei donnau trochionog. Dywedai Duw am yr Israel, pan yn eu cyflwr dirywiedig,—' Fy mhobl a ddifethir o eisiau gwybodaeth;' ond y bobl eu hunain ni chydnabyddent eu hanwybodaeth, oblegid dysgai eu hathrawon hwynt i gredu eu bod yn wybodus iawn, Nid oes dim ag sydd yn cynddeiriogi crefyddolion llygredig yn fwy, ua sylwi ar eu Hygredigaethau, a chyhoeddi y llygredigaethau hyn ; oblegid dyma bechod mawr Mab y dyn yn erbyn y crefyddolion Iuddewig, ac am hyn y rhoddwyd ef i farwolaeth. Ni fu y genedl Iuddewig erioed yn fwy crefyddol mewn ymddang- osiad nag yn yr amser yr ymddang- osodd ein Iachawdwr ar y ddaear ; gwisgent olwg dra sancteiddiol ar eu hwynebau, ymprydient, gwe- ddient lawer gwaìth yn y dydd; cadwent gyrddau gweddi braidd ar ben pob heol; yr oedd Moses a'r Prophwydi yn eu dwylaw ac ar eu tafodau yn wastadol ; yr oedd pyngciau llydain, ysgrifenedig ar femrwn, ar eu talcenau, eu har- ddyrnau, ac ar ymlau eu gwisgoedd ; yr oedd zel dros eu crefydd yn berwi yn grychias yn eu mynwesau; yr oeddynt yn eithaf rhagfarnllyd at bawb eraiìl ; yr oeddynt yn egniol