Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 156. MEHEFIN, 1848. Cyf. XIII. ANGHYMMEDROLDEB CREFYDDOL. Ni aìl dim fod yn werthfawroc- cach na chrefydd wir; oblegid y mae yn cynnysgaeddu yr enaid à goludoedd o'r cyfryw natur ag a'i gwna yn ddedwydd yn y byd hwn, ac yn y byd raawr sydd a'i ddoräu yh barod i'n derbyn. Mae angeu yn yspeilio dyn o bob peth braidd ag sydd yn ei feddiant; mae y glanaf a'r prydferthaf erioed yn colli ei addurnion yn nyfroedd yr Iorddonen ; mae y cryfaf a'r gallu- occaf yn cael ei ddarostwng i'r dim yng nglyn tywyll marwoldeb ; ac y mae dihatriad hollol yn cymmeryd lle gyda golwg ar ddyn, pan y mae yr enaid yn cymmeryd ei aden, ac yn ehedeg dros geulan amser i'r byd mawr hwnnw ag sydd yn breswylfod j ysprydion wedi ymryddhau oddi- wrth afaelion y cnawd. Ond er bod angeu fel hyn yn yspeiliodynbraidd o bob peth, etto, os bydd crefydd wirioneddol yn y meddiant, mae yn aros gyda ac yn elynu wrth ei pher- chennog pan fyddo y n rhodio llwybr- an dyffryn cysgod angeu, ac yn wy- nebu llifeiriant y dyfroedd dyfnion, ag ydynt wedi bod yn ddychryn i ddynoîion drwy holl oesau y byd. Mae dyfnderau y moroedd mawrion yn cynnyrchu perlau o werth mawr, mae ymysgaroedd y mynyddoedd yn ariìwjp allan yr aur mewn cyf- lawnder rríawr, ac y mae llannerchau o'r greadigaeth a golwg bnradwys- aidd arnynt oblegid y coed a*r aeron teg a ddygant; ond o nchelion nef y nef—oddiar yr orsedd fawr dra* gywyddol fry, mae yr unig a'r byth- fendigedig Ior, ein Duw ni, drwy ei uuig Fab, Iesu Grist ein Harglwydd ni, yn rhoddi crefydd i druenusion y ílweh, a lŷn wrthynt hyd byth ac yn dragywydd. Gwir bod y duw- iolion yn fynych yn cael eu curo yng ngwaclodion y cymmydd, yn cael eu niweidio ar y rhosydd gan y tymhestloedd, ac yn fynych yn cael eu cyfrif feí defaid i'r lladdfa; ond er hyn, drwy ddal gafael yn eu crefydd, crefydd a ddeil ei gafael ynddynt hwythau, ac ýn ymadrodd St. Paul galìant ddywedyd, 'Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy ua chongcwerwyr, trwy yr hwn a'n carodd ni; canys y mae yn ddi- ogel gennyf, na all nac angen, uac einioes, nac augỳlion, na thywysog- aethau, na meddiannau, na phethau preseiinol, na phethau i ddyfod, nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddiwrth gar- iad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Mae addys,giaeth a philosophydd- iaeth yn gloywi, yn caboli, yn go- leuo, ac yn prydferthu roeddyliau dynion, ac yn gwneuthnr dynion o ddefnydd mawr iddynt eu hunarn.