Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YE HAÜL. Rhif. 158. AWST, 1848. Cyf. XIII. GWASANAETH DWYFOL. Pa awgrymiadau, cyfarwydd- iadau, neu reolau a roddir yn y Testament Newydd, gyda golwg ar Wasanaeth crefyddol cyhoeddus ? Dywedir, ysgrifennir, a chyhoeddir, bod Gwasanaeth yr Eglwys Sefydl- edig yn anysgrythyrol hollol, er bod y proîìon mwyaf diymwad bod Ffurf 0 Wasanaeth mewn arferiad gan yr Eglwys Iuddewig. Y mae yn rhy- fedd i glywed dynion, ac i wrando ar ddynion yn dadlèu, ac yn gwarth- ruddo Ffurf o Wasanaeth, ac yn cy- hoeddi bod y dull hwn yn anysgry- thyrol, a'r dull arall yn anysgry- thyrol, pan ar yr un pryd na allant brofi eu dulliau yn ysgrythyrol yn 01 rheolau pendant o'r Ysgrythyr. Pa le mae y rheöl ysgrythyrol am ddarllen pennod ymmlaenaf? Pa le mae y rheol am roddi ffurf o eiriau aìlan i ganu gwedy'n ? Pa le mae y rheol am y cíuU presennol o bregethu? Pa le mae y rheol am ganu a gweddio, neu weddio a chanu gwedy'n? Pa lq mae y rheol am gyrddau gweddi, gyda golwg ar fod tri neu bedwar yn gweddio ar ol eu gilydd? Ond gadewir hyn yn awr, ac ymofynnir pa awgrymiadau a roddir i ni yn y Testament Newydd, gyda golwg ar y dull o ddwyn gwasanaeth cref- yddolym mlaen ? Gellir sylẁi yma, bòd y prif 2H Gristionogion yn arfer flfurfiau o weddiâu, heblaw Gweddi yr Ar- glwydd. Gyda j*olwg ar y weddi hon, fel y canlyn y dyweda ein. Hiachawdwr, yn Matthew 6.—'■Am' hynny gweddiwch chwi fel byn: Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw, 8cc.' Os dadl- euir mai fel cyfarwyddyd, neu bat- rwn gweddi, y rhoddwyd y ffurf hon, mae yr hanes a roddwyd gan St. Luc, yn yr unfed bennod ar ddeg, yn dymchwelyd yr haeriad hwn yn hollol:—'A bu, ac efe raewn rhyw fan yn gweddio, pan beidiodd, ddywedyd o un o'i ddisgyblion wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddio, megis ag y dysgodd Ioan i'w ddis- gyblion.' Mae yr hanes hwn yn proíì bod loan wedi dysgu—wedi rhoddi rhyw ffurf o weddi, neu weddiau, i'w ddisgyblion ; inae yn profi bod y ffurf, neu y ffurfiau, a roes Ioan î'w ddisgyblion, yn cael eu harfer ganddynt; raae yn profi nad ydoedd ein Hiachawdwr yn erbyn ffurfiau o weddiau, ond ei fod dros- tynt; oblegid efe a roddes ffurf i'w ddisgyblion yntau. Wrth fod dis- gyblion ein Harglwýdd yn erfyn arno ì'w dysgu i weddio, nid ydym mewn un modd i ddeall nad oeddynt- yn arfer gweddio : oblegid arferent ffurfiau y Gwasanaeth Iuddewig yn y synagogau; ond y dymunent gael