Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

;-, YR HA'UL. Rhif 163. IONAWR, 1849. Cyf. XIV. Y BARADWYS DDAEAROL.—fParÄarf o tu dal. 378J Cymmaint o ddaionì Duw a am- lygwyd tùag at y dyn Adda oedd, ei wneuthur yn berffaith, a'i gyn- nysgaeddu â phob cymhwysderau i lanw y sefyllfa y gosodwyd ef yn- ddi; ond creadur ydoedd, ac nid Creawdwr, a holl ysgogiadau ei gorph a'i enaid yn ymddibynnu yn gwbl'ar ryddid perffaith ei ewyllys. Os y da a ewyllysiai, y da a fwyn- hai j ond os y drwg, yr oedd i gym- meryd y canlyniadau yr un modd: ac felly yr oedd y gallu cyfnewidîol yn gorwedd yn y cynneddfau ys- prydol, i wneuthur da neu ddrwg, i gyflawnu ei ddyledswydd, neu ddi- ffygio ynddi yn ol tuedd a rhyddid yr ewyllys. Ië, nid oedd bod yr Hollwybodol yn hyspys o'r annhrefn a gymmerai le yn Eden ; nid oedd ei ragwelediad o'r llongddrylliad a ddigwyddai i Adda, nac ychwaith y parottoadau a wnaed mewn cynghor boreuol ac arfaeth dragywyddol tuag at godiad yr hil ddynol, yn gosod y dyn dan yr angenrheid- rwydd lleiaf i wyro oddiar lwybr ei ddyledswydd, ac i ddiffygio yn ei weithred; amgen teflir y galanas o ddrws y creadur at eiddo y Cre- awdwr. * A'r sarph oedd gyfrwysach na holl fwy8tfilod y maes.'—O fewn y rhol sanctaidd, ceir hanes yr arch- wrthgiliwr a ddymchwelwyd o wynfa 'b oblegid ei araryfusedd; yspryd ge- lynol i Dduw, a Uawn digofaint at ddedwyddwch dyn. Yn awr, wrth ystyried leied a wyddom ni am ein hysprydoedd ein hunain yn eu heffeithiau, eu gweithrediadau, a'u cyssylltiad â'n cyrph, nid ydym i ddyfod i benderfyniadau o berthynas i'r teimlad yn Eden oddiar ein gwy- bodaethau, ond oddiar egwyddorion amlwg i'r anghallaf o blant dynion. Gwyddom yr effeithia ac y gweith- reda cyrph ar gyrph; ac felly, yn ein horiau pwyllog, rhaid i ni gyf- addaf hefyd, mai dichonadwy i ys- pryd weithredu ar yspryd, neu groeshoelio y Bibl, a pheri iddo lefaru ynfy(lrwydd. Amgylchynai yr yspryd dialgar Eden, yr ardd flodeuog; ac wedi cael o hono y forwyn bur i ymyl pren gwybod- aeth da a drwg, gosododd ei ehed- faen ar gyfer ei galluoedd ysprydol, nes tynnu ei sylw at aeron teg y pren gwaharddedig ; ac yna taflodd wrei- chionen o'r danllwyth fawri'w myn- wes, fel y neidiodd ar unwaith dros holl derfynau deddfau Duw. Yn ei dwylaw aflan bellach dygai y ffrwyth o etfaith farwol i'w phrìod ; yntau yn ddihetruso a'i cymmerth, ac a fwyttaodd o hono ; ac felly syrthiodd ei goron, diflaunodd ei ogoniant, a disgynnodd i ddyfnderau y pydew erchyll; O î olwg'resyuot;