Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 164. CHWEFROR, 1849. Cyf. XIV. Y DILUW. Amryw ydynt y cylchdroadau a gymmerasant le ym mhlith cenhedl- , aethau y ddaear, o ddechreu y byd j hyd yr awr hon; aml ydynt gyn- hyrfiadau natur, er pan osodwyd seiliau y greadigaeth fawr ; a lìios- °S ydynt y cyfnewidiadau a gym- merant le mewn un oes dan yr haul: hyn a achosodd i'r hanesydd gym- meryd ei ysgrifell i'w balf, modd y trosglwyddai i'r oesau dilynol, wybodaethau am y digwyddiadau a achlysurasant ryfeddod, syndod, a braw i'n hynafiaid. A chan fod llenn gudd rhyngom a phethau dy- fodol, fel nas gŵyr y doethaf o ddynion ar ba beth y bydd i yforu esgor, nid oes i ni ond edrych ym mlaen gydag ymddiried yn y gallu cadarn hwnnw, digouol i'n cynnal yn awr y brofedigaeth; ac edrych yn ol i hanesion y cynoesau, yn neillduol y rhai ysgrythyrol, i ry- feddu holl weithredoedd mawrion y Duw byw, yng ngweinyddiadau ei ragiuniaethau tuag at feibion a merched Adda. Rhagorach yw y Creawdwr ym mhob peth, nag un creadur ar a ymddangosodd erioed ar y ddaear. Mae y Hew i'w ry- feddu yn ei nerth, y cawrfil yn ei faintioli, dyn yn ei ddoethineb, a Duw ym mhob peth; 'Ofnadwy ydyw yng nghynnulleidfa y saint, ac i'w arswydo yn ei holl amgylch- oedd; mae yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd, yn ofuadwy mewn moliant, ac yn gwneuthur rhyfedd- odau.' Mae bodau mwyaf yr wybr- en faith, oll gwedi eu cyfleu o fewn terfynau, yn ddarostyngedig i ew- yllys eu Gwneuthurwr, ac yn ym- symmud ynddo; hyn a ymddengys yn dra eglur oddiwrth yr ufudd-dod a roddant iddo pan y gorchymmyno efe iddynt, er atteb dibenion mawr- ion ei fwriadau, o ba natur bynnag y byddont. Dywedir am y goruchel Dduw, ei fod yn gyfiawn yn ei holl ffyrdd, ac yn sanctaidd yn ei holl weithred- oedd; ond y nodweddiad mwyaf perthynol iddo, ac wedi tynnu sylw y rhywiogaeth ddynol, ac angylaidd hefyd ef allai, yw ei gariad, eífaith pa un yw ei drugaredd a'i ras, ag ydynt wedi teyrnasu i ryfedd-nod at fyd o golledigion. A gallesid meddwl bod y profion a roddwyd, ac a roddir yn feunyddiol o'i gariad, yn effeithio yn y fath fodd ar ddyn- ion, nes eu dwyn yn ufudd iddo, i rodio yn ei ddeddfau, ac yn blyg- edig i'w holl orchymmynion. Ond y fath yw caledrwydd calon pech- adur, fel y mae ei holl eiriau, ei ymddygiadau, a'i weithredoedd yn profi yn eglur ei fod yn camddef- nyddio amynedd, daioni, a hir- ymaros Duw, er ei ddinystr ei hun;