Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 171. MEDI, 1849. Cyf. XIV. DYMCHWELIAD CAERAU JERICHO.—(0 tu dalen 209 J Ie, trwy oíFerynnau o'i drefniad ei hun, y mae Duw yn dwyn ei bethau mawrion oddi amgylch ar y ddaear. Aeth yn anialwch ac yn ddiffeithwch mawr rhyngom ni a'r nefoedd ; teyrnasodd y nos fawr yn holl erehylldra ei duwch rhyngom ni a'r wlad fry ; ac aethom dan y cloion a'r bolltau heiyrn i garchardy anobaith. Ond edrychodd Duw Dad am wr i sefyll o'n plaid ni; a thrwy y gwr hwn, er mor isel a dir- mygedig yng ngolwg llaweroedd, y symmudwyd rhwystrau fil myrddiwu oddiar y ffordd, ac y dygwyd meib- ion lawer i ogoniant. Y gwr a fu farw mewn chwys, a gwaed, ac mewn ingoedd ar y croesbren, yd- oedd gwr Duw i ni; ac efe a orch- fygodd holl allu y tywyllwch, gan yspeilio y tywysogaethau a'r aw- durdodau, ac ymorfoleddu arnynt hwy arni hi! Ië, y gwr a fu yn do- lefain yn drist ac yn dorr-calonnus ar Galfaria, a ruthrodd i'r frwydr a'i gleddyf yn ei law, yn erbyn teirw, llewod, a dreigiau uffern, ac a wnaeth i holl elynion Síon o nifer y dail gilio o'r maes, ac â'i sawdl a sathrodd ben yr hen ddraìg goch fawr, gan ei ysigo a'i friwio fel na wellhâ i dragywyddoldeb. Y di- ferynnau—'íe, y ffrwd waedlyd bor- phoraidd, a ddaeth allan o ol y waywffon, a ddiffoddodd y fflamiau 2M angherddol a fygythient ysu teulu tlawd Eden yn dragywydd ; a hon a attaliodd lifeiriant y llidiogrwydd mawr a fygythiai druenusion y ddaear, drwy wrthdaro yn ei herbyn a'i throi yn ol. Y gwr a roddwyd yn rhwym yng ngharchar y bedd,— hwn a ddihunodd fore y trydydd dydd, gan ddyfod allan yn nisgleir- deb anfarwoldeb, agwedd buddug- oliaethwr yn ei wedd, allweddau hades fawr yn crogi wrth ei wregys, pardwn trueiniaid yn seliedig ar y memrwn goreuredig yn ei law, gwawr anfarwoldeb yn teyrnasu ar y bryn- iau draw yn llewyrch ei wynebpryd, tonnau cynddeiriog a throchionog yr Iorddonen yn ymlonyddu yn ei ŵydd, hen ddyffryn tywyll cysgod angeu wedi ei wneuthur yn oleu ddydd ganddo, angeu yn gelain ad- fyw ar y maes, wedi ei glwyfo gan y cleddyf; a'r ymadrodd,—< Bum farw; ac wele,byw ydwyf, a byw fyddaf yn oes oesoedd,' yn dyfod o'i enau gyda'r fath seiniau hyfryd, nes yr oedd cathlau lelynau gogon- iant yn distewi yn ei swn! Ha! pa le y mae hen bererinion yr aniaì- wch ? Pa le y mae y rhai sydd yn benderfynol i ddilyn yr Oen hyd angeu ì Pa le y mae teulu y cys- tudd mawr ? Pa le y mae yr hen dadau ag ydynt wedi cyrhaeddyd glann yr afon, ac yn disgwyl yr