Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 172. HYDREF, 1849. Cyf. XIV. YR AFRADLON. Rhyfeüd bod dyn wedi ymddi- eithrio cymmaint oddiwrth Dduw! Pa beth ydyw yr achos o hyn ? Dyn mewn anrhydedd nid arosodd! Cyfeiliornodd o'r llwybrau! Aeth ar gyfrgoll o derfynau deddfau go- goniant! Y mae ei drueni yn fawr arno! Anghyfnewidiol ydyw Duw o dragywyddoldeb i dragywyddol- deb; ond cyfnewidiodd dyn, ac yn ei gyfnewidiad cafodd dir y fell- dith yn lle tir y fendith, a chym- mylau caddugawl uffern i'w oblygu, yn lle gwenau pelydron haul para- dwys i'w lonni yn ei lwybrau. Ym mha le y mae dyn ? Yng ngwael- odion dyfnderau pydewau erchyll llygredigaeth, yn cloddio yn ddyfn- ach ddyfnach; ac oni attelir ei dramgwydd, cloddia drwodd, ac efe a syrth ì eigionau dinystr tragy- wyddol, lle ei gorchuddir byth gan y tonnau gwyrddleision, ac y teimla win digofaint Duw yn berwi yn ei enaid yn oes oesoedd. Pa beth a ellir ei ddywedyd am ddyn ? Ei fod yn farw mewn camwedd a phechod ; ei fod yn ymdroi ac yn ymhyfrydn mewn pob anwiredd; ei fod wedi ymddieithrio yn llwyr oddiwrth fuchedd y Duw byw; ei fod wedi ymwerthu i wneuthur yr hy» sydd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ; a'i fod yn hunan-leiddiad yng ngo- lwg yr Orsedd fry, anghyfnewidiol- 2Q deb yr hon yw ymfachuwrth hanfod y Jehofa ei hnn. Pa beth a ddaw o ddyn ? Os yn ei anwiredd y bydd efe marw, a'i bechodau a'i ammher- ffeithderau yn gruglwythi ar ei ben, ca ddyffryn cysgod angeu yn fil myrdd tywyllach na thywyllwch hanner nos ; profa holl arswydau y glynn yn eu holl ddychrynfeydd; clyw si a thwrf dyfroedd yr Ior- ddonen yn ofnadwy yn ci glustiau ; a chyll ei fywyd yn angeu, a'i enaid noeth a ymddengys ger gŵydd y frawdle yn welw ac yn grynedig, yn disgwyl y ddedfryd fawr dragy- wyddol i'w suddo byth yn eirias golosgedig brwmstanaidd y ddam- chwa oesawl. A oes modd i adferu dyn yn ol o'r tiroedd pell, a diogelu ei fywyd, fel y gall ddyrchafu ei ben mewn gogoniant yn y fuchedd sydd i ddyfod ? Oes, trwy drugar- edd a thiriondeb ein Duw ni; oble- gid ymwelodd â gwlad y nos godiad haul o'r uchelder, cyhoeddwyd y fendith fwyaf erioed yng nghanol tir y felldith, agorwyd drws helaeth o obaith yng nghanol dyffryn Achor, esgorodd yr beù addewid ar fywyd anfarwol i ddyn, daeth y Messiah i geìsio ac i gadw yr hyn a gollasid, ac y mae Mab Duw wedi ei gyhoeddl yn oleuni i'r cenhedioedd, ac yn iechydwriaeth Ior hyd derfynau eithaf y ddaear. Cof am yr Afrad-