Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. CYFRES NEWYDD. 'YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhif. 61. iOftSAWR, 1855. Cyf. VI. YR HEN GREDOAU. ÍUt dynion gwedi myned i ystyr- ,J)*^*ied crefydd fel pwngc o rydd- fasnachaeth, a'a bod at eu rhyddid i farnu, i ddewis, i weithredu, ac i ben- derfynu yng nghylch crefydd yn ol eu cydwybodau, ac ynol fel ag y byddont hwy yn dewis. Ond gan nad pa beíh sydd i'w ddeall wrth hawl dyn i farnu drosto ei hun, ac i gredu yn ol fel y byddo efe yn gweled ac yn deall, nid ydym mewn un modd i ddeall nac i îarnu fod gan ddyn hawl i gofleidio cyfeüiornad nac i gredu celwydd. Ar yr egwyddor o wneuthur rhydd-fasnach o grefydd, y neidiodd mil o grefyddau i íbdoliaeth, ac os oedd hawl gan ddyn- ion i ffurfio y mil crefyddau hyn, nid oes gan neb hawl i gollfarnu yr un o honynt, ond eu hystyried yn sefydliad- au cyfreithlon a seiliwyd gan ddynion ar gefn yr hawl sydd gan bob dyn i fFurfio egwyddorion ei grefydd ei hun. Ond gan droi o'r neilldu y fasnach rydd ag y mae dynion gwedi ei gwneuthur o eithyglau crefydd, ynghyd a'u mym- pwyau dieithriol, dichon na fyddai yn anfuddiol i ni droi at yr hynafiaid a'r tadau boreuol, er taflu golwg dros fan- nau eu ffydd hwynt, cyn ymruthro yn rhyfygus i ffurfio erthyglau newyddion, a thadogi ein breuddwydion ein hunain ar yr Ysgrythyr Lan, canys dywedir,— " Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw ; ft'ydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt." Mae o bwys mawr i ni wybod am yr hen gredoau, megis ag y crybwylliram danynt yng ngwaith y tadau boreuaf, canys pa agosaf eir i íygad y ffynnon, gloywaf oll ydyw y dwfr ; ac y mae yr hen gredoau ar gael heddyw yn hen groniclau awdurdodedig yr Eglwys. Mae yr Archesgob Usher gwedi casglu ynghyd i draethawd o'i eiddo amryw- iol ffurfiau o honynt, a chynygir yn yr ysgrifhon i'w gosod ger bron y dar- ílenydd, a dechreuir gyda gweddillion y credo a geir yn Irenseus, Origen, Cyprian, Tertullian, ynghyd a hen ys- grifenwyr eraill, nad ydyw Usher gwedi eu crybwyll. Irenaìus ydyw y cyntaf ag sydd mewn modd pendant yn cry- bwyll am gredo a elwir ganddo ef " Y Canon Annghyfnewidiol, neu reol gwir- ionedd a dderbynir gan bob un yn ei fedydd ;" ac y mae efe yn uniongyrch- ol yn crybwyll pa beth ydoedd yn y geiriau canlynol. Mae yr Eglwys, er ei bod yn wasgaredig'dros yr holl fyd, o un pen i'r ddaear hyd y llall, gwedi derbyn oddi wrth yr apostolion a'u disgyblion y gred yn un Duw, y Tad Hollalluog, Creawdwr nef a daear, a'r môr, a'r hyn oll sydd ynddynt; ac yn un Crist Iesu, Rlab Duw, yr hwn a gnawdiwyd er ein hiechydwriaeth ; ac yn yr Yspryd Glân, yr hwn a breg- ethodd drwy y prophwydi y goruch- wyliaethau (Duw), a'r adfent, a gened- igaeth morwyn, a'r dioddefaint, a'r adgyfodiad oddi^wrth y meirw, ac es- gyniad corphorol cnawd ei anwyl Pab Crist Iesu ein Harglwydd, i'r nefoedd, a'i ddyfodiad drachefn o'r nefoedd yn ngogoniant y Tad, i arolygu pob peth, ac i gyfodi cnawdàholl ddynolryw, fel, yn ol ewyllys y Tad anweledig, y plyga pob glin, o'r pethau sydd yn y nefoedd, a'r pethau sydd dan y ddaear, i les i Grist ein Harglwydd, a'n Duw, a'n Hiachawdwr, a'n Brenhin, a bod i bob