Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YE HAUL. CYFRES NEWYDD* «YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAÎR DÜW YN UCHAÍ\» Rhip. 66. MEHEFÍN, 1855. Cyf. VI. JERUSALEM. Mae Jerusalem yn un o'r dinasoedd ttiwyaf norìedig ar wyneb yr lioll ddaear, ar amrywiol ystyriaethau; yn ddinas ag sydd gwedi bod yn wrthrych sylw hanes- wyr cyssegredig a chenhedlig drwy yr oes- au; ac y mae cymmaint gwedi cael ei ysgrifenu ynghylch y ddinas dra nodedig hon, fel ag y dichon i rai o'n darllenwyr farnu, nad oes dim i'w ychwanegu ym înhellach gyda golwgar ei hanes. Ond rnae Mr. D, R. Rees, awdwr yr Erthyglau hyn ar Jerusalem gwedi ymdrin a'i hanes mewn dull allan o'r ffordd gyffredin, yn taflu goleuni newydd ar gronicl ei hanes, ac yn cofleidio mwy o'i hynafiaethau na dim ag sydd gwedi cael ei gynnyg etto i'r Cymry; ac am hynny yr ydym yn cyf- Iwyno yr erthyglau canlynol i sylw neilldu- ol ein darllenwyr.—Y Gol. Erthygl I. #ÎÎÎ0£Î* Menes, neu Mizraim, brenhin cyntaf yr Aipht, ym mlwyddyn oed y byd 1816, a chyn Crist, 2Ì88,* mae amseryddiaeth yr Aipht gwediei lenwi a 350 o frenhin- oedd, y rhai a deyrnasasant am 1400 o flynyddoedd, ond na wnaethant ddim ag oedd yn werth sylw. Yr hanes Heillduol gyntaf yn ei hynodrwydd ydym yn gael am yr Aipht ydyw, ei goresgyniad gan y Bugeiliaid, ba rai a dorrasant i mewn i'r wlad yn anwrth- wynebol, ac a'i darostyngasant dan eu liawdurdod; ond pa un ai cyn neu gwedi y cyfnod maith uchod o syrthni * Cyramerndd y diluw le ym mlwyddyn oed y uyd lf„r)6, a'r AipUt a wn.\ed yn deyrnas ym mlien 160 ü flynyddoedd gweál hynny.—ëd. 2 A y cymmerodd hyn Ie, ni ellir ei wybod. Adroddir yr hanes fel y canlyn gan Manetho.t Digwyddodd dan deyrnasiad Timaus,brenhin yr Aipht, i'r Arglwydd ddigio wrth yr Aiphtiaid, a chwyldroad niawr a gymmerodd le yn eu plith ; canys tyrt'a fawr o bobl, gwael yn eu hachau, a ymwrolasant, a chan ym- dywallti'r Aiphto'r dwyrain a osodas- ant ryfel yn erbyn y trigolion, y rhai yn ddiwrthwynebiad a ymostyngasant idd- ynt. Ond y Bugeiliaid a ymddygasant yn drahaus, a chyd a'r creulondeb mwyaf attynt; llosgasant eu dinas- oedd ; dymchwelasant demlau eu duw- iau ; rhoddasant y trigolion i farwol- aeth ; a chaeth-gludasant y gwragedd a'r plant i gaethiwed. Y bobl hyn a ddaethant o Arabia, ac a elwid Hyesos, neu frenhin-fuçjeiliaid. Cadwasant wlad yr Aipht yn eu meddiant a than eu hawdurdod am 259 o flynyddoedd, ac ar derfyn y cyfnod hwn, gorfu ar- nynt ymadael a gwlad yr Aipht gan frenhin yr AiphtUchaf, a elwid Amasis, neu Thethmosis. (Cyn Crist, 1825.) Ymddengys fod tad y tywysog hwn gwedi ennill llawer o fuddugoliaethau arnynt, ac efe a'u cauodd hwynt fynu mewn lle a elwir Abaris, neu Avaris, yr hwn a gynnwysai ynghylch 10,000 o erwau o dir. Gwarchaewyd hwynt yn y lle hwn gan Amasis gyd a byddin o 400,000 o wyr ; ond o'r diwedd, gan na ellai y brenhin eu cymmeryd drwy nerth, a gynnygiodd ammodau iddynt, f Manetho, offeiriad nodedig Hel'opolis, yn yr Aipht, yv hwn a flodenodd dros 2')0 o flynyddpedd cyn Crist, a ysgrifenodd hanes yr Aipht yn y iaith iíoeg, o ba hanes nid oes ond darnau i'w eael yn bresennol.—í>i).