Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y R H A U L. €i\ím CaBrfijrìẁm. "YNO NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEÜNI." "A GAIR DÜW YN UCHAF." Rhif. 146. CHWEFROR, 1869. Cyf. 13. YR EGLWYS LAN GATHOLIG. "Credaf yn yr Eglwys Lân Gatholig." Yr ydym yn arfer adrodd y geiriau hyn yn aml, ac yn eu hadrodd yn gyhoeddus Dob Sul; ond y cwestiwn pwysig yw hwn, A ydym ni erioed gwedi ystyried yn ddifrifol beth yw meddwl y geiriau hyn ? Yn y dyddiau hyn, pan mae pob ymdrech yn cael ei wneyd i berswadio dynion y gallant gael gafael ar wir grefydd trwy ddamwain neu ddygwyddiad, neu trwy ddewisiad; pan y dywedir wrth ddynion, cyn y gallant fod yn ddinasyddion rhydd ac annibynol, eu bod yn rhaid iddynt wrthod credu unrhyw beth ond yr hyn a ellir ei brofi, neu yr hyn sydd yn gyd- weddol â'u cydwybodau, neu yr hyn sydd yn hyfryd i'w calonau. Mae yn anhawdd iawn eu darbwyllo ddarfod i'n Harglwydd adael Eglwys ar y ddaiar; a'i fod gwedi rhoddi awdurdod gweledig i'w llywodr- aethu, a gallu i addysgu y bobl; a darfod iddo gymmeradwyo un dull o addoli uwch law pob dull arall. Yr ydym wedi clywed lawer gwaith " nad oes un gwahaniaeth i ba le yr ä dyn i addoli Duw, os bydd ei galon yn bur." Fy anwyl ddarllenwyr, mae hyn o'r pwys mwyaf. Y mae o bwys mawr i ni pa un a fydd i ni ufuddhau i orchymmyn eiu Harglwydd ai peidio. Os darfu iddo orchymmyn i ni weithredu mewn un ffordd, ni ddylem weithredu mewn un dull neu ffordd arall. Prif ddybenion ein bywydau yma ar y llawr yw addoli Duw; ac os dartu iddo ymostwng i ddywedyd wrthym pa fodd y mae i ni ei addoli Ef, ai peth ysgafn a dibwys yw i ni wneyd hyn mewn dull gwahanol i'r hwn ddarfu Ef ei orchymmyn? Dywedodd wrth Samuel am aberthu iddo; ond dewisodd Saul wneyd hyn, a chafodd Saul ei gospi am droseddu ei orchymmyn. Cafodd Aaron ei benodi i weinyddu o'i flaen Ef; ond dewisodd Corah weinyddu, a chafodd 5—xin. ei gospi am hyny. Dywedodd wrth yr Israeliaid mai yn Ierwsalem yr oeddynt i addoli; ond darfu iddynt ddewis myned i Dan a Bethel, a chawsant eu cludo ymaith i Babilon yn gaethion, ym mhell o'u gwlad, am hyn. Ond ef allai y dywedir wrthym fod hyn yn perthyn i'r hen oruch- wyliaeth, a'i bod yn perthyn i'r Hen Destament; ac nad yw yr hyn a nodwyd yn perthyn dim i'r rhai hyny sydd yn canlyn y Testament Newydd. Gadëwch i ni wneyd ymchwiliad pa un a ydyw hyn yn wirionedd ai peidio. Ar ol ei adgyfodiad, cyfarfu ein Hiach- awdwr Bendigedig â'r un dysgybl ar ddeg ar un o fynyddoedd Galilea, yn ol y genadwri a ddarfu iddo Ef anfon atynt; a rhoddodd iddynt gommisiwn i fyned i bregethu i'r holl fyd. Wrth reswm, nis gallasai yr Apostolion fyw hyd ddiwedd y byd. Wel, ynte, beth yw meddwl y geiriau hyn? Bod i'r Apostolion benodi eu canlynwyr, gyda'r rhai yr oedd y commisiwn i aros. Pe buasai i ddynion, yn nyddiau yr Apostolion, sefydlu lle i addoli, a dysgu athrawiaethau yn wahanol i'r hyn oedd yr Apostolion yn ddysgu, beth a ddywedasai yr Apostolion, fedd- yliech chwi? Mae yn lled debyg y buas- ent yn gofyn i'r cyfryw, "Dangoswch eich commisiwh, siaradwch â thafudau, cyfod- wch y meirw, gwellëwch y cleifion?" Beth ddarfu iddynt ddywedyd pan oedd gau- athrawiaethau yn ymlusgo i mewn i'r Eglwys? "Gwyliwch y rhai hyny sydd yn achosi ymraniadau yn eich plith, a gochelwch y cyfryw." Beth oedd gweddi ein Harglwydd i'w ddysgyblion? Am iddynt fod yn un. A pha fodd mae i ni gydweithio ag Ef i gytìawnu y weddi hon? Trwy barhau yu ffyddlawn yn yr undeb ysbrydol hwn, yr hwn ddarfu iddo Ef adael i ni, sef ei Eglwys. Pa fodd mae i ni wybod beth yw ei Eglwys?