Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y R HAÜL €ì\ím €mîì\xììm. YNG NGWYNEB HAÜL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIB DUW YN UCHAF." RHIF. 147. MAWRTH, 1869. Cyf. 13. YR IERWSALEM NEWYDD. Un o weledigaetbau diweddaf yr Apostol Ioan yn Ynys Patmos oedd y ddinas sanctaidd, yr Ierwsalem newydd, yn dis- gyn o'r nef i blith dynion daiar, i fod yn breswj'lfod i Dduw a'i bobl. Er mwyn hwylusdod i lygaid yr apostol i gael golwg gyflawn ar y weledigaeth fawr hon, dinas gyfan yn disgyn trwy'r awyr i lawr o'r ncf, efe a gymmerwyd yniaith yn yr ysbryd i fynydd mawr ae uchel; ac oddi yno fe syllodd ei lygaid yn fanteisiol ar yr olygfa ryfeddol. Ac y mae efe yn por- treiadu yr olygfa mor fywiog, fel y gallwn ninnau fod i raddau yn gyfranogion gydag ef o'r weledigaeth. Yn awr edrychwn arni am fynyd â llygad dychymmyg ac â lìygad ffydd; llygad dychymmyg i edrych ar y portreiad lìythyrenol; a ííygad ffydd i ganfod sylwedd tumewnol ac ysbrydol y portreiad, sef Eglwys y Goruchaf. Yr oedd y ddinas yn ysgwâr bob ffordd, a hollow cube: "ei hyd, a'i lled, a'i huchder syddyn o gymmaint."—Dad. xxi. 16. Ac yr oedd iddi ddeuddeg o byrth, tri ar bob ochr; ac yr oedd angel wrth bob porth megys yn wyliedydd. Ac yr oedd pob un o'r pyrth yn gyfansawdd o un perl cyfan; hyny yw, yn ddiammheu, dorau y pyrth. Meddyliwch am fynyd. Nid yw y perl mwyaf sydd yn y byd yn bresennol ddim mwy nag wy colomen; ond yma yr oedd deuddeg dor porth, a phob un o honynt yn gyfansoddedig o un perl! dim ond un perl! Ond y rhyfeddod mawr ydyw. aruthredd maintioli'r ddinas. Mesurwyd hi â chorsen fesur gan yr angel oedd yn ei dangos hi i Sant Ioan; ac yr oedd hi yn ddeuddeng mil o ystadau. Y mae wyth o ystadau yn gwneuthur un o'n milltiroedd ni. Yr wyf yn tybied mai hwn yw mesur amgylchedd y ddinas o'r tu allan, gan gytnmeryd i mewn ei phedwar ystlys. Os felly, yr oedd pob ystlys iddi yn dair 9—xni. mil o ystadau o hyd; hyny yw, yn dri chant a phymtheg a thrigain o tìlltiroedd, o faint ein milltiroedd ni. Hyn oedd ei hyd; a hyn oedd ei lled; a rhyfeddol ac aruthrol son! hyn hefyd oedd ei huchder. Buasai ei gwaelod hi yn cuddio mwy o dir na hanner Lloegr! Rhyfeddod annhraethol arall yw hwn. Yr oedd i'r ddinas ddeuddeg o sylfeini, tri ar bob ochr. Ac os oedd y syífeini hyn yn gyfartal â'u gilydd, ac yn cyffwrdd bob un y nesaf ato. yr oedd raid fod hyd pob sylfaen yn gant a phump ar hugain (125) o fílltiroedd! Ac yr oedd pob un o'r seiliau neu'r sylfeini hyn yn faen gwerthfawr: "y sail cyntaf oedd faen jaspis; yr ail, saphir; y trydydd, chalcedon; y pedwer- ydd, smaragdus," &c. Meddyliwch am un foment am faen gwerthfawr cant a cbwar- ter o fílltiroedd o hyd, ac o led ac o drwch cyíatebol! mae'r dychymmyg yn dyrysu wrth geisio cymmeryd i mewn y fath feddylddrych a deuddeg o'r fath feini gwerthfawr ochr yn ochr yn seiliau dinas! Ýsgwariwch Gader ldris, neu'r Wyddfa, neu fynydd Fumlumon yn un clamp, cubic neu oblong, ni byddai ddim cwarter cymmaint ag un o sylfeini'r Ierwsalenj newydd! Mesurwyd mur y ddinas yn gant a phedwar cufydd a deugain, wrth fesur dyn. Hyn oedd raid fod trwch y mur, gan fod adnodau ereill yn rhoi i ni fesur ei hyd a'i uchder: felly yr oedd trwch y mur, yr hwn ydoedd oll o faen jaspis, yn ddeuddeg Uath a deugain, a chymmeryd y cufydd yn hanner llath. Gweledigaeth a ddangosodd angel yr Arglwydd i'r apostol oedd y weledigaeth anghymharol hon, ac nid dychymmyg yr apostol ei hun. A dyWedodd yr angel wrtho yn y bennod nesaf, yr hon sydd yn cynnwys parhâd y weledigaeth, " Y geiriau